Tiwtor yn defnyddio’i dyslecsia i ysbrydoli dysgwyr

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Stephanie Fry wedi goresgyn rhwystrau dyslecsia.

Mae llawer o bobl yn gweld dyslecsia fel rhwystr. Fodd bynnag, mae Stephanie Fry, sy’n diwtor, yn canolbwyntio ar y cyfle y mae’n ei roi iddi helpu ei dysgwyr i wireddu eu potensial.

A hithau’n rheolwr sgiliau gyda Wales England Care, mae Stephanie, 29, o Gasnewydd, yn rheoli tîm bach o anogwyr sgiliau gan arbenigo mewn cefnogi dysgwyr â dyslecsia, a defnyddio’i phrofiad ei hunan o’r cyflwr i wneud hynny.

Cafodd Stephanie ddiagnosis o ddyslecsia yn 2007 tra oedd yn y coleg, ac aeth ymlaen i ennill gradd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yn 2013. Mae’n sôn am ei thaith ddysgu ei hunan er mwyn helpu dysgwyr i ddod dros eu hofn o Fathemateg a Saesneg. Gwaetha’r modd, mae llawer ohonynt wedi cael profiad gwael yn yr ysgol.

Yn awr, mae gwaith Stephanie wedi’i gydnabod wrth iddi gyrraedd y rhestr fer am wobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, bydd 35 o ymgeiswyr yn cystadlu mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

A hithau wedi bod yn weithiwr cymorth, ymunodd Stephanie â Wales England Care yn 2017 ac mae’n frwd o blaid dysgu parhaus.

Ar ôl ennill Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Sgiliau Hanfodol Lefel 3 mewn Cyfathrebu ac mewn Dysgu a Datblygu, mae’n gweithio ar Brentisiaeth mewn Arwain a Rheoli.

Ers iddi gael dyrchafiad i fod yn diwtor Sgiliau Hanfodol, bu’n rheoli carfan o ddysgwyr, yn cyflwyno cymwysterau mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol, yn creu gweithlyfrau i helpu ei myfyrwyr ac yn addasu’r gefnogaeth i ateb eu hanghenion unigol.

A hithau’n awyddus i hybu ei datblygiad proffesiynol parhaus, ymunodd Stephanie â Chynllun Arweinwyr y Dyfodol gan Wales England Care yn 2019, gan ddatblygu cynlluniau hyfforddi i wella profiadau’r dysgwyr a rhannu arferion gorau gyda chydweithwyr.

“Dydw i ddim yn gweld dyslecsia fel rhwystr erbyn hyn, ond fel cyfle i gefnogi pobl eraill fel y ces i fy nghefnogi i oresgyn heriau ac i wireddu fy mhotensial,” meddai Stephanie.

Dywedodd Helen Harris, rheolwr ansawdd Wales England Care: “Mae Steph yn temlo bod ei phrofiad wedi’i helpu i uniaethu â’r dysgwyr ac addasu ei ffordd o weithio ar gyfer pawb yn unigol.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —