Taflen Newyddion NTfW – Hydref 2012

Postiwyd ar gan karen.smith













Gwobrau Hyfforddiant a Phrentisiaethau Cenedlaethol Cymru a Chynhadledd Flynyddol NTfW – Llunio Gweithlu’r Dyfodol

Cynhelir y noson Wobrwyo ar nos Fercher 24 Hydref – yn dilyn diwrnod cyntaf Cynhadledd Flynyddol NTfW a bydd y Gynhadledd yn parhau fore trannoeth. Cynhelir y ddau achlysur yn Venue Cymru, Llandudno.

Trefnwch le heddiw!

I gael rhagor o wybodaeth, ffurflenni i gadw lle a chyfleoedd i noddi’r achlysuron, cliciwch ar y dolenni hyn ar gyfer y Gwobrau a’r Gynhadledd neu ebostiwch karen.smith@ntfw.org

Rydym wedi trefnu prisiau ffafriol gyda gwesty’r St George, y Promenâd, Llandudno. Nodwch y cyfeirnod ‘NTfW’ pan fyddwch yn trefnu lle i aros yno.
Rhif Ffôn: 01492 877544. Ebost: reservations@stgeorgeswales.co.uk

Yn ôl i’r brig »

Arian am Oes – Rhaglen Gallu Ariannol 2012/13

Money For Life Logo
Mae ’na edrych ymlaen mawr yn barod at y Rhaglen Arian am Oes eleni. Cafodd y prosiect ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed ei lansio gan Lloyds TSB eisoes ac rydym wrth ein bodd i gael cyhoeddi mai NTfW, mewn partneriaeth â ColegauCymru / CollegesWales, fydd partner y rhaglen yng Nghymru eto eleni. Yn dilyn llwyddiant aruthrol y llynedd, mae grwpiau yng Nghymru eisoes wrthi’n paratoi ceisiadau i geisio ennill un o 70 o grantiau ‘her’ o £500 a dros 70 o gyrsiau CPD wedi’u hariannu’n llwyr. Rydym yn arbennig o falch o weld rhagor o ddarparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith yn cofrestru ar gyfer y cyrsiau CPD mewn Gallu Ariannol.

Mae’r gallu i drin arian yn bwysig i ddysgwyr a thiwtoriaid o bob sector a chefndir. Roedd yn ddiwrnod da i Gymru ac i’r Sector Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith yn arbennig pan ddaeth tîm ACT, ‘Don’t buy posh, save your dosh’, i’r brig trwy Gymru a’r Deyrnas Unedig y llynedd. I ddarllen eu stori a chael gwybod sut y gall eich sefydliad chi gymryd rhan eleni, ewch i wefan NTFW neu cliciwch yma.

Yn ôl i’r brig »

Gair gan eich Hyrwyddwr Dwyieithrwydd

Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai prysur a dylwn fod wedi gweld yr holl Ddarparwyr Arweiniol yng Nghymru erbyn hyn. Rwy wedi gwneud ymdrech i gwrdd â chynifer o bobl ag y gallwn er mwyn cael gwell syniad o’n sefyllfa bresennol fel rhwydwaith ac i ba gyfeiriad y dylem fynd yn awr. Dyma syniad o’r hyn yr ydym wedi bod yn ei wneud a’r hyn y bwriadwn ei wneud nesaf.

Safonau mewn perthynas â’r Gymraeg

Ar ôl cwrdd ag aelodau, fe wnes i gasglu gwybodaeth a barn y darparwyr er mwyn paratoi ymateb i ddogfen ymgynghori Comisiynydd y Gymraeg am y Safonau ar gyfer yr Iaith Gymraeg. Cyflwynwyd y ddwy ddogfen ym mis Awst ac maent i’w gweld ar wefan NTFW a Moodle NTfW.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wrthi’n adolygu’r holl ymatebion ac mae’n bwriadu cysylltu â sefydliadau a fydd yn gorfod cydymffurfio â’r safonau cyn iddynt gael eu rhoi ar waith tua diwedd 2013.

Cynhadledd NTfW – ‘Llunio Gweithlu’r Dyfodol’

Fel rhan o’r Gynhadledd hon, byddaf yn cynnall gweithdai ar ‘Llywio Dwyieithrwydd yn y Gweithlu’.

Bydd y gweithdy’n trafod arferion da mewn darpariaeth Gymraeg neu ddwyeithog yn y sector dysgu seiliedig ar waith. Bydd hefyd yn trafod y rhwystrau y mae pobl yn eu gweld a sut i’w goresgyn, a materion amlwg eraill.

Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol

Dros y misoedd nesaf byddaf yn canolbwyntio ar:

  • Edrych dros ffurflenni a lanwyd gan ddarparwyr am eu darpariaeth bresennol
  • Paratoi rhestrau arferion a a’u rhannu i aelodau’r rhwydwaith
  • Creu Cynllun Gweithredu gydag amcanion CAMPUS i hybu’r ddarpariaeth Gymraeg/ddwyieithog a chyfleoedd dysgu hyd at Gorffennaf 2014 a thu hwnt
  • Meithrin cysylltiadau cryfach gyda Hyrwyddwr Dwyieithrwydd y Sefydliadau Addysg Bellach

Yn ôl i’r brig »

Ymgynghoriad ar y cynlluniau i gofrestru’r gweithlu addysg ehangach yng Nghymru.

Lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ffurfiol 6-wythnos ar 10 Medi 2012, ar gynlluniau i newid y gofynion ar gyfer cofrestru’r gweithlu addysg yng Nghymru. Dyma gam olaf yr ymgynghoriad y bu i NTfW ymateb iddo’n wreiddiol ym mis Mawrth 2012.

Mae’r ddogfen ymgynghori wedi’i diweddaru erbyn hyn ac mae’n rhoi rhagor o fanylion am waith a swyddogaethau corff cofrestru gan ofyn barn am fanylion ei rolau a’u swyddogaethau er mwyn paratoi ar gyfer rheoliadau yn y Bil Addysg (Cymru) sydd ar y gweill. Y bwriad yw datblygu system gofrestru gadarn a fydd yn gwella gwaith cynllunio, hyfforddi a datblygu’r gweithlu ac yn sicrhau mwy o gydlyniant a chydnabyddiaeth i’r gweithlu addysg i gyd.

Felly, cynhelir cyfarfod ar gyfer aelodau NTfW ar 9 Hydref 2012 rhwng 10am a 2pm yn LANTRA, Llanelwedd i gael sylwadau ynghylch yr ymgynghoriad ac i baratoi ymateb ar y cyd ar gyfer y sector dysgu seiliedig ar waith.

Dyma ddolen i’r ddogfen ymgynghori a’r cynlluniau a’r canlyniadau a nodwyd hyd yma http://wales.gov.uk/consultations/education/workforceregistration/?skip=1&lang=cy

I drefnu lle yn y cyfarfod hwn neu i gael rhagor o fanylion, cysylltwch â clara.weekley@ntfw.org

Yn ôl i’r brig »

Lansio llawlyfr rhyngweithiol ar gyfer Darparwyr DSW

CQFW Ebook
Ar ail ddiwrnod Cynhadledd NTfW yn Venue Cymru, Llandudno, ar ddydd Iau 25 Hydref 2012, bydd adnodd rhyngweithiol ar gyfer Darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith yn cael ei lansio.

Mae Llawlyfr Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) ar gyfer Darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith yn amlinellu elfennau allweddol cymwysterau seiliedig ar gredyd ac yn tynnu sylw at arferion gorau wrth ddefnyddio credydau yn y sector DSW. Y gobaith yw y bydd yn adnodd gwerthfawr i Ddarparwyr i’w helpu i wneud y defnydd gorau o gredydau. Mae manylion Cynhadledd NTfW i’w gweld yma.

Yn ôl i’r brig »

My Wellbeing Hub

My Wellbeing Hub Logo
Gwefan newydd gyffrous yw My Wellbeing Hub a’i nod yw gwella lles dysgwyr ledled Cymru. Ar ôl gwneud cais llwyddiannus i’r Gronfa Gwella Ansawdd sy’n cael ei rhedeg gan Lywodraeth Cymru, aeth VSP (Wales) Ltd, Acorn Learning Solutions, a Babcock ymlaen i ddatblygu’r adnodd newydd ardderchog hwn. Y nod yw helpu rhanddeiliaid trwy eu cyfeirio at yr anoddau a’r wybodaeth orau ar gyfer cynnal a gwella eu lles. Cynhaliwyd arolwg gan ofyn i’r rhanddeiliaid nodi’r materion yr hoffent iddynt gael eu cynnwys. Pynciau fel straen, bwyta’n iach, cyngor ariannol ac ati oedd yn codi amlaf. Mae gan My Wellbeing Hub adrannau rhwydweithio cymdeithasol bywiog hefyd ac ambell gystadleuaeth gyda gwobrau fel iPods.

Rydym yn bwriadu cynnal arolwg eto i weld a yw’r pynciau a drafodir yn dal yn berthnasol ac a oes rhyw elfennau newydd y dylid eu cynnwys.

Os oes gennych chi adnoddau defnyddiol y gellid eu cynnwys neu os hoffech ragor o wybdoaeth, ewch i www.MyWellbeingHub.co.uk

Gallwch ddilyn My Wellbeing Hub ar twitter @MyWellbeingHub, neu ar Facebook.com/MyWellbeingHub.

Yn ôl i’r brig »

ADCDF (ESDGC) – Dinasyddiaeth

Efallai yr hoffai’ch staff a’ch dysgwyr roi cynnig ar brawf dinasyddiaeth y Deyrnas Unedig. Mae samplau o’r profion ar gael am ddim ar http://www.guardian.co.uk/uk/blog/2012/jul/05/uk-citizenship-test-british-history-open-thread Yma, mae’n gofyn ‘UK citizenship test: Could you pass on British history?‘ ac yn eich herio i roi cynnig ar brawf Hanes Prydain sy’n rhoi rhyw syniad o’r un a allai godi yn yr adran newydd o brawf dinasyddiaeth y DU. Gellir defnyddio hwn ar gyfer dysgwyr a staff.

Yn ôl i’r brig »

e-skills UK

E-Skills Logo
Mae e-skills DU yn falch iawn i gyhoeddi y bu’n cais diweddar Lywodraeth Cymru dan SPFP (Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad) i gyflenwi prentisiaethau proffesiynol Technoleg
Gwybodaeth yn llwyddiannus. Dilynwch y ddolen i gael manylion os gwelwch yn dda: http://www.e-skills.com/apprenticeships/current-projects/apprenticeships-projects-in-wales

Mae e-skills DU yn falch iawn i gyhoeddi ein hymchwil ddiweddaraf Technology Insights 2012; Wales, y diweddaraf yn ein hasesiadau o’r farchnad lafur ar gyfer y sector/gweithlu Technoleg Gwybodaeth a Thelathrebu. Dilynwch y ddolen i gael manylion os gwelwch yn dda: http://www.e-skills.com/research/research-publications/insights-reports-and-videos/technology-insights-2012

Yn ôl i’r brig »

News from the Regions

Prentis y Flwyddyn y Consortiwm

Nicola Hall
Ar 14 o Fehefin 2012 coronwyd Prentis y Flwyddyn y Consortiwm CAN mewn seremoni gwobrwyo yng Ngholeg Llandrillo. Yr enwebiadau oedd Prentis Coleg Llandrillo, Sarah Jones, Prentis ADT Nicola Hall a Phrentis Hyfforddiant Gogledd Cymru Julie Lavin.

Yr enillydd oedd Nicola Hall. Gwnaeth Nicola ddechrau ei thaith dysgu gyda’i aseswr ADT Jane Hughes, nol yn Ionawr 2009. Heb Ennill cymwysterau yn yr ysgol na choleg, dechreuodd Nicola ei hyfforddiant ar raglan Cyn-Brentisiaeth ar lefel mynediad 3. Mae llwyddiant Nicola o gymwysterau rhifedd a llythrennedd, nid ond yn llwyddiant personol, ond mae wedi profi i fod yn garreg sarn i hyfforddiant a llwyddiant pellach.

Ers hynny mae Nicola wedi cwblhau Prentisiaeth Fodern Sylfaenol mewn Trin Gwallt. Gan ddefnyddio’i sgiliau a hyder o’r brentisiaeth, mae Nicola yn ddiweddar wedi cychwyn busnes Trin Gwallt, gan rentu lle yn salon ‘Body Beautiful’ yn Rhyl. Mae Nicola yn agosáu at gyflawni ei phrentisiaeth Lefel 3 mewn Trin Gwallt ac yn edrych i ehangu’r busnes ac i roi cyfle i hyfforddeion Trin Gwallt ymgymryd mewn prentisiaethau.

Dywedodd Nicola “ ‘Rwyf eisiau diolch i ADT ac yn arbennig fy aseswr Jane Hughes, am y gefnogaeth. Fuaswn byth wedi meddwl 3 mlynedd yn ôl fod fysa gennyf gymwysterau, sgiliau a chael busnes fy hun! ‘Rwyf yn gobeithio cyflogi hyfforddai yn y dyfodol agos i roi iddynt yr un cyfleoedd a ‘rwyf wedi cael”.

Yn ôl i’r brig »

Colwyn Bay Motorcycles

Colwyn Bay Motor Cycles
Yn ddiweddar, mae Geoff Pritchard o Colwyn Bay Motorcycles wedi cyflogi Lee Page a James Lloyd Jones ar raglen Twf Swyddi Cymru.

Llwyddodd Lee a James i gwblhau rhaglen Get Started with Cars – rhaglen gan Ymddiriedolaeth y Tywysog a Phorth Ymgysylltu Hyfforddiant Gogledd Cymru ar gyfer pobl ifanc economaidd anweithgar.

Mae Lee a James yn Llysgenhadon Ifanc Ymddiriedolaeth y Tywysog ac maent yn aml yn mynd i gyfarfodydd i sôn wrth bobl ifanc eraill lsut y mae rhaglen Ymddiriedolaeth y Tywysog wedi’u helpu nhw ac i annog pobl ifanc eraill i gymryd y camau cyntaf i helpu eu hunain.

Mae Colwyn Bay Motorcycles yn cefnogi Lee trwy ei raglen Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle.

Yn ôl i’r brig »

Pobl ifanc o Gonwy’n adeiladu car

Conwy Super Car
Mae naw o bobl ifanc 15-16 oed o ysgolion yng Nghonwy wedi datblygu’n dîm o beirianwyr ceir rasio gan adeiladu car cit Caterham 7, a gafodd ei lansio’n swyddogol yng Nghanolfan Hyfforddi Cerbydau Modur North Wales Training ym Mochdre.

Buont yn dilyn rhaglen 32 wythnos, Project Super Car, gyda chymorth Rhwydwaith 14-19 Conwy ac wedi’i threfnu gan North Wales Training Limited. Seilir y prosiect ar gynllun ‘Sevens for Schools’ Caterham Cars sef, yn ôl Richard Hammond o’r rhaglen Top Gear, ‘y prosiect gorau erioed i ysgolion’.

Bill Marks o North Wales Training a arweiniodd y prosiect adeiladu ac meddai: “Rydan ni wedi gweld newid mawr yn rhai o’r myfyrwyr. Roedd ganddyn nhw nifer o wahanol broblemau yn yr ysgol, o swildod i absenoldeb cyson. Yn ogystal â dysgu sgiliau personol, gwaith tîm a sgiliau technegol, maent wedi cael blas ar lwyddiant – ac mae hynny’n beth gwych.

“Gan fod y prosiect mor boblogaidd gydag ysgolion a myfyrwyr, mae’r cwrs nesaf ym mis Medi yn orlawn yn barod. Rydan ni am ddechrau adeiladu car Caterham arall bryd hynny.”

Cyflwynodd Christine Wynne, rheolwr Rhwydwaith 14-19 Conwy, dystysgrifau City & Guilds i dri o’r bobl ifanc am gynnal a chadw cerbydau, cydweithio ag eraill, a iechyd a diogelwch. Roedd y bobl ifanc yn dod o YsgolEmrys ap Iwan, Abergele; Y Ganolfan Addysg, Penrhos Avenue, Bae Colwyn; Ysgol Creuddyn, Bae Penrhyn ac Ysgol y Gogarth, Llandudno.

Meddai: “Mae hwn wedi bod yn brosiect gwerth chweil i’r myfyrwyr ac yn brofiad ardderchog i bawb a fu’n eu helpu.”

Yn ôl i’r brig »

Hyfforddwyr yn dod ynghyd i gynnig hyfforddiant ardderchog mewn lle gwych

Mae ISA Training yn cydweithio ag ITEC i ddarparu salon gwallt yn ITEC@the_hub yn Llwynypia fel rhan o hyfforddiant trin gwallt a harddwch.

Mae ISA Training eisoes yn cynnig Trin Gwallt NVQ Lefel 1 i Hyfforddeion ITEC yng Nghaerdydd a RhCT. Trwy ddatblygu salon hyfforddi yn Llwynypia, mae ITEC yn gobeithio dyblu nifer y dysgwyr a fydd yn elwa ar arbenigedd y ddau ddarparwr.

Penderfynwyd y byddai salon gwallt yn helpu ITEC i ateb y galw cynyddol am hyfforddiant yn y Sector Gwallt a Harddwch a’r gobaith yw agor ystafell hyfforddiant harddwch hefyd.

Yn ôl Tracey Williams, Cydlynydd the_hub “Bydd y ganolfan newydd yn help i bontio’r bwlch rhwng ysgol a gwaith. Bydd cyfle i bobl ifanc feithrin hyder a dysgu sgiliau gwaith salon cyn dechrau ar eu hyfforddiant gyda chyflogwyr lleol.”

Un sydd eisoes wedi elwa ar y cydweithio yw Cherie Cannon sy’n berchen ar salon.

“Y broses o hyfforddiant parhaus yw’r peth gorau i bawb. Gall person ifanc gael profiad yn fy salon i wrth ennill cymwysterau. Mae’n gweithio i’r ddwy ochr. Roeddwn i mor blêsd â’r ferch oedd yn gwneud hyfforddeiaeth gyda mi fel fy mod wedi’i chymryd fel prentis ac mae hi’n dal i gael hyfforddiant gydag ISA. Mae’n broses gyflawn. Mae’r salon hyfforddi yn the_hub yn syniad gwych oherwydd bydd y bobl ifanc yn elwa o gael hyfforddiant gydag arbenigwyr.”

“Doedden ni ddim eisiau mynd nôl dros hen dir. Felly fe ddewison ni fynd i bartneriaeth gydag ISA Training gan fod llawer o barch iddyn nhw yn y gymuned” meddai Tania Watts, Rheolwr Contractau ITEC. “Mae addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn rhan bwysig a hyblyg o daith y dysgwr tuag at gael gwaith.”

Cheryl Pearcey yw Rheolwr Addysg ISA Training. Bu ganddi hi ei salon ei hunan am 25 mlynedd a bu’n cydweithio â Tania a Tracey i’w cynghori ar y ffitiadau gorau i’w gosod yn y salon er mwyn ei wneud yn lle da i ddysgu. Meddai Cheryl “Mae wedi bod yn gyffrous iawn cael cynllunio salon o’r dechrau’n deg. Mae digonedd o le yn y ganolfan a bydd yn lle ardderchog i ddysgu ynddo.”

Meddai Berni Tyler, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ISA Training “Mae cydweithio ag ITEC i gynnig hyfforddeiaethau trin gwallt a harddwch yn gyfle ardderchog ar gyfer ein hyfforddwyr. Bydd yn cyflwyno dimensiwn newydd i hyfforddiant yn y Rhondda gyda gweledigaeth y ddau gwmni a bydd dysgwyr yn cael cyfle i ddefnyddio cyfleusterau gwych gydag hyfforddiant ardderchog”.

Mae gan ITEC bum canolfan eisoes, yng Nghasnewydd, Caerffili, Pen-y-bont, Torfaen a Chaerdydd a the_hub@Llwynypia yw’r chweched. Defnyddir y ganolfan i gynnig hyfforddiant mewn Sgiliau Hanfodol a theori sector-benodol ar gyfer rhai sy’n dilyn Hyfforddeiaethau a Camau at Waith. Ceir ardal hyfforddi ar gyfer y diwydiant Adeiladu yn y ganolfan hefyd a bwriedir cael lle ar gyfer Peirianneg Moduron a chaffi.

Yn ôl i’r brig »

Beth yw HOVEP?

Heads of the Valleys Education Programme
Mae Rhaglen Addysg Blaenau’r Cymoedd (HOVEP) yn bartneriaeth unigryw rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r sectorau addysg bellach ac addysg uwch ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tudful. Y nod yw sicrhau bod Blaenau’r Cymoedd yn ardal llawn pobl sydd â sgiliau addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Mae’r partneriaid yn cydweithio i sicrhau bod rhagor o bobl yn cymryd rhan mewn addysg, yn cyflawni mwy ac yn dysgu sgiliau fel y gallant weithio yn yr ardal. Swyddogaeth HOVEP yw cydweithio â’r partneriaid i gefnogi, herio ac ychwanegu gwerth trwy gryfhau a dyfnhau’r hyn a wneir ar hyn o bryd.

Bwriad yr e-fwletin hwn yw rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am waith HOVEP. Os ewch i a456.com fe gewch lawer rhagor o wybodaeth am HOVEP ac addysg a sgiliau ym Mlaenau’r Cymoedd.

Yn ôl i’r brig »

Ross y Plastrwr, yn ennill rownd derfynol genedlaethol Skillbuild y DU

Ross Richardson-Davies
Profodd Ross Richardson-Davies, sydd yn fyfyriwr yn Llanymddyfri, mai ef yw plastrwr ifanc gorau’r DU yn dilyn ei lwyddiant eleni yn rownd derfynol genedlaethol SkillBuild – cystadleuaeth sgiliau adeiladu mwyaf y DU.

Caiff SkillBuild ei drefnu gan ConstructionSkills, sef y cyngor sgiliau sector ar gyfer y diwydiant adeiladu, ac mae’n anelu i ddarganfod hyfforddai gorau’r DU ar draws nifer o grefftau gan gynnwys: plastro, bricio, gwaith saer, gwaith asiedydd a phaentio ac addurno.

Enillodd Ross Richardson-Davies, sy’n 21 mlwydd oed, y fedal aur yng nghategori plastro yng Ngholeg Preston. Fe wnaeth gwblhau ei brentisiaeth gydag Evans Brothers Builders yn Llanymddyfri ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar gyfer Tywi Centre Llandeilo.

Gwnaeth myfyrwyr gystadlu yn erbyn ei gilydd mewn gwahanol grefftau i gwblhau darn penodol o waith o fewn tridiau, sydd yn herio’r hyfforddeion i gynhyrchu gwaith cywir o ansawdd uchel o fewn graddfa amser gyfyng – gofyniad angenrheidiol ar gyfer y diwydiant adeiladu presennol. Cafodd eu gwaith ei asesu ar y diwedd gan banel o arbenigwyr technegol ac yna fe gyhoeddwyd yr enillydd o bob crefft.

Ar ôl ennill medal aur yn y gystadleuaeth eleni, dywedodd Ross: “Mae ennill y gystadleuaeth hon yn teimlo’n ffantastig. Fe es i mewn i’r coleg ar ddyddiau ychwanegol er mwyn ymarfer sgiliau ychwanegol i roi’r siawns orau i mi ennill y rownd derfynol genedlaethol. Rwy’n bles iawn bod y beirniaid yn meddwl bod fy ngwaith i’n ddigon da i ennill.”

Dywedodd Gerald Naylor, pennaeth adeiladu yng Ngholeg Sir Gâr: “Rwy’n falch iawn o Ross. Mae ei gamp anhygoel yn dyst i ragoriaeth ein staff plastro, ein dysgwyr a’n cyrsiau adeiladu ar gampws Rhydaman.

Dywedodd y darlithydd plastro, Brian Jenkins: “Mae SkillBuild yn gyfle ardderchog i hyrwyddo a chydnabod rhagoriaeth. Mae hyn yn llwyddiant ardderchog ac yn arddangos y sgiliau diwydiant adeiladu sydd ar gael yma yn Rhydaman. Rwy’n bles iawn gyda’r grefft safon uchel mae Ross yn ei hymarfer gan ei bod yn dyst i’w waith caled a gwaith caled ei gyflogwyr.”

Mae’r gystadleuaeth, sydd wedi bod yn rhedeg ers mwy nac 20 mlynedd, yn gyfle i gydnabod pwysigrwydd prentisiaid a hyfforddeion llawn amser a’u sgiliau. Mae hefyd yn darparu llwyfan ar gyfer cwmnïau i arddangos safon eu gweithlu a’u hymrwymiad i hyfforddi – sydd yn angenrheidiol yn yr hinsawdd bresennol i roi ymyl gystadleuol i fusnesau.

Yn ôl i’r brig »

Dyddiadau i’ch Dyddiadur

24-25 Hydref 2012
Cynhadledd Flynyddol NTfW yn Venue Cymru, Llandudno.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaet

24 Hydref 2012
Gwobrau Cenedlaethol Hyfforddiant a Phrentisiaethau Cymru yn Venue Cymru, Llandudno.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy

14-17 Tachwedd 2012
Skills Show yn yr NEC Birmingham

20 Tachwedd 2012
Cynhadledd Skills Wales – Driving Forward the Skills Agenda
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor

29 Tachwedd 2012
Y Sgwrs go Iawn, Stadiwm Rygbi Rodney Parade, Casnewydd
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor

4 Rhagfyr 2012
Fforwm Polisïau Cymru Seminar: The way forward for 14-19 learning in Wales: qualifications reform and the role of apprenticeships. Cliciwch yma i gael gwybod mwy.

5 Mehefin 2013
Diwrnod VQ 2013
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod VQ

Yn ôl i’r brig »

More News Articles

  —