Y Dirprwy Weinidog yn llongyfarch pencampwr sgiliau o Rydaman

Postiwyd ar gan karen.smith

Coleg Sir Gâr student and Paul Taylor Building Services apprentice Gareth Jones, 19, from Ammanford, wins gold for the UK at the EuroSkills 2012 competition in Belgium in the carpentry category. He is pictured with team member Philip Glasgow from Northern Ireland.

Mae Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau wedi llongyfarch prentis o Rydaman am ennill medal aur yn y gystadleuaeth Euroskills eleni yng Ngwlad Belg.

Enillodd Gareth Jones, o Garnant yn Rhydaman, sy’n 19 mlwydd oed, y fedal aur i’r DU yn y categori gwaith coed yng nghystadleuaeth Euroskills, sy’n aelod o WorldSkills International – y gystadleuaeth sgiliau ryngwladol fwyaf yn y byd.

Bu’n cystadlu fel rhan o’r broses ddethol ar gyfer Squad UK, sy’n cynnwys prentisiaid, dysgwyr a gweithwyr mwyaf dawnus y DU, sy’n hyfforddi i gael lle mewn tîm fydd yn cynrychioli y DU yn WorldSkills 2013, yn Leipzig yn yr Almaen.

“Roedd yr holl brofiad yn wych” meddai Gareth, sy’n gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Dyffryn Aman.

“Roedd y seremoni agoriadol yn eitha’ rhyfeddol ac yn adlais o’r Gemau Olympaidd yn ddiweddar, gyda gorymdaith o’r gwledydd mewn digwyddiad trawiadol iawn.”

Meddai Jeff Cuthbert y Dirprwy Weinidog Sgiliau, oedd yn bresennol yn y digwyddiad y penwythnos diwethaf: “Hoffwn longyfarch Gareth am ei berfformiad rhagorol yn ennill y fedal aur yn Euroskills. Mae’n dyst i’w waith caled a’i allu, gan y gwelais drosof fy hyn safon uchel iawn y cystadleuwyr ledled Ewrop yn y digwyddiad.

Mae’n bwysig bod hyfforddeion a phrentisiaid o Gymru yn cymryd rhan yn y cystadlaethau hyn i gystadlu yn rhyngwladol a dangos eu doniau, eu sgiliau a safon uchel y cyfleusterau hyfforddi sydd gennym yma.

Mae Gareth yn gwella ei sgiliau ar hyn o bryd yng Ngholeg Gâr, sydd â hanes rhagorol o gefnogi’r cystadlaethau sgiliau hyn a darparu aelodau i dîm y DU.”

Roedd dros 400 o gystadleuwyr ledled Ewrop yn cymryd rhan mewn 40 gwahanol gategori. Meddai Paul Evans, mentor hyfforddi Coleg Sir Gâr: “Roedd cystadlu yn EuroSkills yn golygu y gallai cystadleuwyr feincnodi eu sgiliau yn erbyn y goreuon ledled Ewrop ac mae’n brofiad da o’r hyn fydd y gystadleuaeth ryngwladol.”

Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn nhrac rasio enwog Spa-Francorchamps, gan ddenu oddeutu 40,000 o ymwelwyr i’r digwyddiad. Roedd Gareth yn cynrychioli’r DU yn y categori hwn fel rhan o dîm, gan gystadlu gyda Philip Glasgow, 21, o Ogledd Iwerddon.

Ychwanegodd Paul Evans: “Mae’n arbennig o gyffrous inni weld Gareth yn cyflawni’r gamp hynod hon, gan iddo ddechrau â’r coleg ar oedran ifanc iawn ar ran cysylltiadau ysgolion y rhaglen, ac yna aeth ymlaen i’r rhaglen Llwybrau i Brentisiaeth ble roedd ei sgiliau a’i ddoniau yn dod i’r amlwg pan ddechreuodd gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn 2010.

“Mae’n rhaid inni gydnabod cyflogwr Gareth, Paul Taylor Building Services yn llwyddiant Gareth, gan roi’r hyfforddiant iddo yn y diwydiant a’r amser i gystadlu yn y cystadlaethau niferus y mae wedi’u hennill dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”

More News Articles

  —