Thibaud yn datblygu ei yrfa ac yn canfod teulu newydd yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Thibaud Gailliard – dyfodol disglair.

Bachgen ifanc swil 16 oed oedd Thibaud Gailliard pan ddaeth i Gymru o Ffrainc ar ôl i’w fam farw o ganser. Ers hynny, disgrifiwyd ei daith ddysgu fel un “anhygoel”.

Ychydig o Saesneg oedd ganddo a dim cymwysterau ffurfiol na phrofiad o weithio i’w helpu i gael gwaith yma.

Bu Thibaud yn lwcus i ganfod Rhaglen Ymgysylltu yn y Cyfryngau Creadigol ar ffurf Hyfforddeiaeth gan y darparwr hyfforddiant Sgiliau Cyf o Risga. Yn fuan iawn, dysgodd Saesneg ac ennill nifer o gymwysterau gan wella’i sgiliau mewn TG, dylunio a cherddoriaeth.

Ar ôl yr Hyfforddeiaeth, aeth Thibaud ymlaen i wneud Dyfarniad Lefel 1 i Ddefnyddwyr TGCh gyda chwmni Sgiliau. Gwnaeth y fath argraff arnynt nes iddynt ei gyflogi a threfnu iddo wneud Prentisiaeth Sylfaen mewn TG. Mae wedi’i chwblhau erbyn hyn.

I gydnabod ei daith ddysgu, mae Thibaud wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Lefel 1) yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Erbyn hyn, mae Thibaud, sy’n 21 ac yn byw yng Nglynebwy, yn ysgrifennu ac yn siarad Saesneg yn rhugl. Yn ei waith fel gweinyddwr arweiniol, mae’n gofalu am gronfa wybodaeth Sgiliau sy’n esgor ar wybodaeth bwysig ym maes cyllido ac mae’n rhoi cymorth gwirfoddol i ddysgwyr y cwmni sydd ar Hyfforddeiaeth TG.

“Mae’r trawsnewidiad yn Thibaud, o fachgen 16 oed, prin ei Saesneg a’i hyder, yn anhygoel,” meddai Charlotte Evans, un o gyfarwyddwyr Sgiliau. “O ystyried yr heriau y mae wedi’u hwynebu a’r hyn y mae wedi gorfod ei oresgyn, mae’n rhyfeddol.

“Y Rhaglen Hyfforddeiaethau a wnaeth ei ddatblygiad a’i gynnydd yn bosibl ac erbyn hyn mae’n aelod hanfodol o dîm Sgiliau, mewn swydd gyfrifol iawn.

“Mae Thibaud yn batrwm ardderchog i ddysgwyr eraill ar Hyfforddeiaethau a bydd yn dal i ddatblygu a thyfu gyda Sgiliau lle mae ganddo ddyfodol disglair. Rydyn ni’n falch iawn o’r hyn y mae wedi’i gyflawni.”

Symud i Gymru i fyw gyda’i frawd a wnaeth Thibaud ac mae’n disgrifio Sgiliau fel ei deulu newydd. Wrth sôn am ei daith ddysgu, dywedodd: “Os gallaf i ei wneud, gall unrhyw un.

“Rwy’n teimlo mod i’n perthyn yma ac mae Sgiliau wedi rhoi cyfle am yrfa wych i mi. Hebddyn nhw, dydw i ddim yn gwybod lle byddwn i ac alla i ddim diolch digon iddyn nhw am eu help a’u cefnogaeth.”

More News Articles

  —