Hyfforddeiaeth yn sylfaen ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladu

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Ross Vincent – canolbwyntio ar yrfa yn y diwydiant adeiladu.

Mae Ross Vincent yn paratoi am yrfa ym myd adeiladu, ar ôl cymryd diddordeb mewn gosod brics tra oedd yn gwneud Hyfforddeiaeth.

Ar ôl yr Hyfforddeiaeth, mae Ross, 18, sy’n byw yn Noc Penfro, wedi mynd ymlaen i sicrhau prentisiaeth gydag Evan Pritchard Contractors yn Hwlffordd, lle mae ei dad, Carl, yn rheolwr safle.

Ac yntau wedi cwblhau Hyfforddeiaethau Ymgysylltu a Lefel 1 mewn Gwaith Brics, mae’n gweithio tuag at Ddiploma Lefel 2 mewn Gosod Brics a Phrentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Daear, y cyfan yng Ngholeg Sir Benfro.

Erbyn hyn, mae Ross wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Ar ôl methu cwblhau cwrs arall yn y coleg, dywedodd Ross fod yr Hyfforddeiaeth yn ei siwtio’n well am fod mwy o waith ymarferol a’i fod cael dysgu oddi wrth weithwyr proffesiynol yn y maes.

“Roedd yr Hyfforddeiaeth mewn Gwaith Brics yn gyfle i mi aeddfedu, dysgu sgiliau ymarferol a theori, ac ennill mwy o hyder,” meddai. “Trwy’r sesiynau cyflogadwyedd, fe sylweddolais i pa mor bwysig yw cael swydd a gweithio’n galed mewn bywyd er mwyn cael y pethau y mae arnoch eu heisiau.

“Ro’n i’n awyddus iawn i lwyddo ar ôl gwneud camgymeriad y flwyddyn cynt a, gyda gwaith caled a chefnogaeth fy nhiwtoriaid, fe lwyddais. Erbyn hyn, mae gen i swydd rwy’n ei mwynhau.

“Marc Slaney yw fy mentor ar y safle. Mae e wedi bod yn gosod brics ers 40 mlynedd ac mae’n dysgu popeth i fi.”

Mae ei awydd i ddysgu crefft wedi trawsnewid agwedd Ross at waith coleg. Yn ogystal â mynd i’r coleg a chymryd rhan mewn sesiynau dysgu ar-lein yn ystod cyfnod clo’r pandemig, mae wedi bod yn annog dysgwyr eraill i wneud y gorau o’r sefyllfa.

Ar ôl gorffen ei Raglenni Hyfforddeiaethau, bu Ross ar gyfnod prawf o fis gydag Evan Pritchard ac yna cafodd swydd ganddynt.

Dywedodd Tom Powell, darlithydd cyflogadwyedd yng Ngholeg Sir Benfro, fod Ross wedi aeddfedu wrth wneud yr Hyfforddeiaethau, gan fagu mwy o hyder i weithio’n galed i gyrraedd ei nod.

“Mae Ross wedi llwyddo i newid cers ei fywyd, ar ôl iddo roi’r gorau i un cwrs yn y coleg,” meddai. “Mae’n dangos pa mor bwysig yw caniatáu i ddysgwyr roi cynnig arall arni pan fyddan nhw wedi gwneud camgymeriad.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —