Woramon ac Omar yn datblygu gyrfaoedd yn y GIG diolch i brentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Y prentisiaid Woramon Davies ac Omar Bojang y tu allan i Ysbyty Coffa Aberhonddu.

Mae Woramon Davies ac Omar Bojang, sy’n brentisiaid yn y GIG, yn datblygu gyrfaoedd newydd diolch i Raglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru, ar ôl dod i Gymru o Wlad Thai a Gambia yn y drefn honno.

Mae’r ddau’n gynorthwywyr gwasanaethau gwesty gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn adran arlwyo Ysbyty Coffa Aberhonddu. Maent yn gwneud eu prentisiaethau trwy Gweithlu Cymru sy’n rhan o Gonsortiwm Academi Sgiliau Cymru yng Ngrŵp Colegau NPTC.

Roedd Woramon yn weinyddwraig mewn banc yn Bangkok cyn symud i Gymru yn 2009 gan ei bod yn priodi ac mae ganddi fab pedair oed erbyn hyn.

Daeth Omar i Brydain o Gambia yn 2009 at ei wraig, sy’n Saesnes. Mae yntau wedi newid gyrfa i weithio yn y sector lletygarwch ar ôl cael ei hyfforddi’n blastrwr. Mae ganddo ef a’i wraig dri o blant.

Llwyddodd y ddau i gwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Cynhyrchu a Choginio Bwyd dri mis yn gynnar, er gwaetha’r her o orfod dysgu o bell oherwydd Covid-19. Erbyn hyn, maent wedi symud ymlaen i Brentisiaeth mewn Lletygarwch ac maent yn gobeithio cwblhau honno’n gynnar hefyd.

Mae Woramon ac Omar, sydd wedi dysgu Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), yn gweithio tuag at gymhwyster Cyfathrebu Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru fel rhan o’u fframwaith cymwysterau, gyda chefnogaeth eu hasesydd Tim Brodrick-Jones, o Gweithlu Cymru.

Gofynnodd y ddau am gael gwneud prentisiaeth ynghyd â’u swyddi llawn amser gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys am eu bod yn awyddus i ddysgu mwy am brosesau coginio bwyd er mwyn helpu pobl sâl ac oedrannus yn yr ysbyty i wella.

Pan gyflwynwyd cyfyngiadau pandemig Covid-19 ym mis Mawrth y llynedd, cafodd ymweliadau â’r gweithle eu hatal a dechreuwyd dysgu ar lein yn lle wyneb yn wyneb ond nid oedd hyn yn ddigon i atal Woramon ac Omar rhag parhau â’u taith ddysgu.

Llwyddodd y ddau i gwblhau’r holl dasgau a osodwyd a thynnu lluniau’r prydau yr oeddent wedi’u paratoi. Yna, roedd Tim yn rhoi sêl bendith ar yr asesiadau ar-lein a wnaed o dan amodau arbennig.

“Roedd gan Woramon ac Omar wybodaeth ardderchog am yr arferion gweithio a oedd ynghlwm wrth baratoi a choginio bwyd yn yr ysbyty. Roedd y gwaith manwl a wnaethant yn brawf o hyn,” meddai Tim.

“Roedd cwblhau eu Prentisiaeth Sylfaen dri mis yn gynnar yn dipyn o gamp, o ystyried bod y ddau’n gweithio llawn amser i’r GIG, lle roedd cyfyngiadau Covid-19 a llai o staff nag arfer yn aml iawn.

“Maent yn dal i goginio bwyd i holl gleifion a staff yr ysbyty, gan gadw nhw’u hunain, eu cydweithwyr a’u teuluoedd ifanc yn ddiogel. Mae Woramon ac Omar yn dysgu eu plant gartref hefyd yn ogystal â gweithio mewn swyddi prysur.”

Dysgodd Woramon goginio gan ei thad, sy’n rhedeg bwyty yn Bangkok. Hoffai ddilyn ôl ei draed ac agor caffi neu fwyty yn Aberhonddu gan arbenigo mewn bwyd o Brydain a Gwlad Thai.

“Gofynnais am gael gwneud prentisiaeth am fy mod yn awyddus i ddysgu a datblygu fy ngyrfa,” meddai. “Mae wedi cymryd amser hir i mi ddysgu Saesneg ac rwy’n dal i ddysgu ond rwy’n dal i obeithio gorffen y brentisiaeth yn gynnar.”

Dywedodd Omar fod y brentisiaeth yn meincnodi’r sgiliau y mae wedi’u datblygu dros y naw mlynedd ddiwethaf tra bu’n gweithio yn yr ysbyty. “Rwy’n croesawu pob cyfle i feithrin fy sgiliau ac ennill cymwyster i ddangos fy mod yn gallu gwneud y gwaith,” meddai.

“Rwy’n credu ei bod yn fantais fawr i chi fynd i addysg bellach i wella’ch sgiliau iaith hefyd, boed hynny mewn Saesneg neu iaith arall, gan ei fod yn datblygu’ch gallu i wneud pethau.”

Llongyfarchwyd Woramon ac Omar ar eu taith ddysgu lwyddiannus gan Humie Webbe, Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

“Mae’n ysbrydoliaeth clywed bod Woramon ac Omar wedi symud ymlaen mor dda â’u prentisiaethau, gan fagu plant a dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol ar yr un pryd,” meddai.

“Ein gweledigaeth ni yw creu amgylchedd dysgu sy’n rhoi cyfle i bawb wireddu eu potensial trwy eu doniau a gwaith caled, beth bynnag yw eu cefndir. Rydym am sicrhau bod pobl yn sylweddoli bod prentisiaethau’n agored i bawb a bod y rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan ynddynt yn cael eu chwalu.”

More News Articles

  —