Wythnos i ddathlu’r lles y mae prentisiaid yn ei wneud

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau Nghymru rhwng 3 a 7 Mawrth yn gyfle i ddathlu Prentisiaethau a’r lles y maent yn ei wneud i unigolion, busnesau a’r economi’n gyffredinol.

Erbyn hyn, mae’r Wythnos Brentisiaethau yn ei seithfed flwyddyn. Y nod yw rhoi gwybodaeth i gyflogwyr, dysgwyr, athrawon, rhieni a’r cyfryngau am Brentisiaethau sy’n rhoi cyfle i chi ennill cyflog tra byddwch yn dysgu.

Yn ystod yr wythnos, bydd darparwyr Prentisiaethau ledled Cymru yn gwneud ymdrech arbennig i ddangos bod Prentisiaethau’n wych ar gyfer busnesau a gyrfaoedd personol a’u bod yn creu cyfleoedd i gyflogwyr a phrentisiaid.

Y nod yw sicrhau bod pobl yn gwybod am Brentisiaethau ac yn deall beth ydynt, cynyddu’r galw am Brentisiaethau, dathlu doniau, sgiliau a llwyddiannau Prentisiaid a hybu Prentisiaethau ar bobl lefel a phob llwybr, yn cynnwys hyfforddeiaethau.

Un o’r prif dargedau yw argyhoeddi rhagor o fusnesau o fanteision cyflogi prentisiaethau a’u cefnogi yn y gweithle. Dyna pam mae cyflogwyr yn cael eu hannog i ddod i frecwast rhyngweithiol yng Ngwesty Hamdden y Fro, Hensol, ar 6 Mawrth.

‘Mae’n Amser sôn am Brentisiaethau’ fydd thema’r digwyddiad di-dâl a drefnir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a Pearson Work Based Learning. Y noddwyr yw Pearson, Media Wales ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru.

Cyflwynydd y digwyddiad yw Jamie Owen sy’n darllen y newyddion ar BBC Wales ac ymhlith y siaradwyr mae’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Ken Skates, prif weithredwr NTfW Arwyn Watkins, arweinydd adnoddau dynol Chris Doherty, Katie Babbington sy’n brentis gyda GE Aviation Wales, Nantgarw, a Janine O’Callaghan cydberchennog Spirit Hair Team, Ystrad Mynach a Lauren Rees sy’n brentis yno.

Dylai cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant sy’n dymuno dod i’r achlysur gysylltu â rheolwr cyfathrebu NTfW, Karen Smith ar karen.smith@ntfw.org neu ffonio: 02920 495861.

Meddai Mr Watkins: “Nod yr achlysur yw dwyn ynghyd yr holl randdeiliaid allweddol sy’n ymwneud â chyflenwi Prentisiaethau yng Nghymru, gan geisio codi ymwybyddiaeth o werth Prentisiaethau i fyd busnes, ac i’r economi ehangach. Ein gobaith yw y bydd yn ysgogi rhagor o gyflogwyr i gymryd rhan lawn yn y rhaglen Brentisiaethau.”

Yn y digwyddiad hwn hefyd, lansir Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2014, a gynhelir i gydnabod a gwobrwyo arferion gorau yn y defnydd o Brentisiaethau ar gyfer dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr. Bydd ffurflenni cais ar gael i’w lawrlwytho o 6 Mawrth ymlaen ar wefan NTfW https://www.ntfw.org/wel/apprenticeships-awards-cymru/awards-categories/ Cynhelir y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar Hydref 31.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud buddsoddiad sylweddol mewn Prentisiaethau fel ffordd ymarferol a chost-effeithiol o adeiladu gweithlu medrus, mynd i’r afael â phrinder sgiliau ac, yn y pen draw, cryfhau economi Cymru.

Mae sefydliadau ledled Cymru’n cael eu hannog i wella perfformiad eu busnes trwy gyflogi prentis. Gwneir y dasg hon yn haws gan y Gwasanaeth Paru Prentisiaethau sy’n canfod prentisiaid posibl ar gyfer cyflogwyr yng Nghymru.

Mae NTfW yn rhwydwaith o 116 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith gyda sicrwydd ansawdd. Mae ganddo gysylltiadau â 35,000 o gyflogwyr ledled Cymru. Mae’r aelodau’n amrywio o ddarparwyr hyfforddiant bach arbenigol i gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd ag awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach a mudiadau trydydd sector.

More News Articles

  —