Ymateb i’r galw am brentisiaethau o safon uchel

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Welsh

pp-sarah-john-2

Wrth i ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith baratoi ar gyfer eu cynhadledd flynyddol yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, mae Sarah John yn rhoi cipolwg i ni ar fyd prentisiaethau.

Mae prentisiaethau’n fwy perthnasol heddiw nag erioed, o ganlyniad i gyflwyno’r Ardoll Brentisiaethau ledled y Deyrnas Unedig a’r Polisi Prentisiaethau yng Nghymru, a gweithgarwch y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol sy’n gysylltiedig â’r Dinas-ranbarthau a’r Bargeinion Twf Rhanbarthol.

Felly, mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn gwneud mwy, ar y cyd â’i aelodau, i helpu Llywodraeth Cymru a chyflogwyr er mwyn sicrhau bod prentisiaethau’n ymateb i’r galw ac yn cyrraedd safon uchel.

Mae’r Polisi Prentisiaethau yng Nghymru wedi arwain at ddatblygiad llwybrau prentisiaethau o Lefel 2 i Lefel 5, gan roi cyfle i’r dysgwyr symud ymlaen trwy eu gyrfa a sicrhau cydweithio rhwng pawb sy’n darparu addysg ôl-16 er mwyn cael y canlyniad a ddymunir, sef ansawdd da.

Bu cynnydd yn y prentisiaethau uwch a ddarperir ar lefel 4 ac uwch sy’n cynnwys cymwysterau proffesiynol ynghyd ag opsiynau traddodiadol yr HNC/HND a’r Radd Sylfaen. Mae cyflogwyr yn sylweddoli bod angen iddynt ddefnyddio costau’r Ardoll Brentisiaethau trwy uwchsgilio’u gweithlu, gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, creu cyfleoedd i recriwtio prentisiaid a buddsoddi yn eu dyfodol, wrth i’w sefydliadau dyfu.

Mae angen i’r llywodraeth gyfan gydweithio er mwyn i Gymru barhau’n llwyddiannus, gan ddwyn ynghyd adrannau sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda chyflogwyr sy’n tyfu a chyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddiad er mwyn alinio’r rhaglenni prentisiadau i’w paratoi ar gyfer y galw yn y dyfodol.

Bydd rôl Bwrdd Cynghori Prentisiaethau Cymru yn hanfodol er mwyn creu a diweddaru rhaglenni prentisiaethau hen a newydd wrth i’r galw gan gyflogwyr newid a bod angen prentisiaethau newydd. Mae gan y bwrdd ran allweddol i’w chwarae’n sicrhau y gellir cynnal ansawdd a bodloni anghenion sector-benodol, yn cynnwys cael cyflogwyr allweddol i gytuno i’r newidiadau.

Bydd yr NTfW yn parhau i gefnogi’r bwrdd wrth i’r gweithgarwch gynyddu. Byddwn yn dal i fod yn gyfryngwr, yn delio ag ymholiadau gan gyflogwyr trwy’r Porth Sgiliau Busnes a thrwy benodi pum aelod newydd o’r staff yn ddiweddar, gyda swyddog yn gweithio ym mhob rhan o Gymru, i arwain cyflogwyr i weithredu prentisiaethau’n llwyddiannus yn eu sefydliadau nhw trwy’r rhwydwaith darparwyr,

Yn ogystal, mae’r NTfW yn cyfrannu’n llawn at ymgynghori ar ddyfodol Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) ar gyfer y sector 16+ yng Nghymru. Trwy bleidio manteision a llwyddiant prentisiaethau yng Nghymru, byddwn yn sicrhau bod gennym raglenni o safon uchel yn y dyfodol.

Bydd llawer o’r uwch-reolwyr a’r arweinwyr sy’n ymwneud â’r sector addysg seiliedig ar waith yng Nghymru yn dod ynghyd yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 28ain o Fehefin ar gyfer cynhadledd flynyddol yr NTfW. Mae’n gyfle iddynt canfod beth sydd o’n blaen wrth i bawb ohonym ymdrechu i sicrhau gweithlu medrus iawn er budd economi Cymru. Gyda CBAC fel y Prif Noddwr ac Agored Cymru a Pearson fel y Noddwyr Cyswllt y flwyddyn yma.

‘Adeiladu economi hynod fedrus ar sylfeini cadarn’ yw thema’r gynhadledd ac ymhlith y prif siaradwyr mae Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Mae pawb ohonom yn awyddus i glywed yr hyn fydd gan y Gweinidog i’w ddweud am gynlluniau Llywodraeth Cymru at y dyfodol.

Mewn blwyddyn pan fynegodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i adeiladu economi gref trwy gyflenwi sgiliau lefel uwch ac, ar yr un pryd, roi pwyslais o’r newydd ar ‘yr economi sylfaenol’, ni fu erioed yn bwysicach darparu dysgu seiliedig ar waith, a hwnnw o safon uchel, yng Nghymru.

Mae’r sector dysgu seiliedig ar waith yn sôn llawer ar yr hyn allai ddigwydd yn y dyfodol ac mae’r gynhadledd yn gyfle gwych i bawb drafod yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau ffyniant i bawb.

Mae’r NTfW yn cynrychioli dros gant o sefydliadau sy’n ymwneud â dysgu yn y gweithle, o ddarparwyr hyfforddiant bach arbenigol i sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd ag awdurdodau lleol, Sefydliadau Addysg Bellach ac elusennau.

More News Articles

  —