Her I Ddarparwyr Hyfforddiant I Lunio Gweithlu Ar Gyfer Dyfodol Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

HER I DDARPARWYR HYFFORDDIANT I LUNIO GWEITHLU AR GYFER DYFODOL CYMRU
Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, sef rhwydwaith o 116 o ddarparwyr dysgu yn y gweithle, wedi cael her i gyflwyno gweledigaeth glir o’r ffordd y mae am gyflenwi’r sgiliau y mae ar economi Cymru eu hangen yn awr ac i’r dyfodol.

Bydd y prif weithredwr, Arwyn Watkins, yn cyflwyno’r her yng nghynhadledd flynyddol NTfW, ‘Llunio Gweithlu’r Dyfodol’, yn Venue Cymru, Llandudno yfory (dydd Mercher) a dydd Iau.

Arwyn Watkins - NTFW Chief Executive

Arwyn Watkins, prif weithredwr Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Mae gan NTfW, sy’n dathlu ei ben blwydd yn 10 oed eleni, gysylltiadau â 35,000 o gyflogwyr ledled Cymru. Mae’r aelodau’n cynnwys darparwyr hyfforddiant bach arbenigol, cwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol, awdurdodau lleol, Sefydliadau Addysg Bellach a chyrff trydydd sector.

Mae’r rhwydwaith yn cyflenwi rhaglenni Prentisiaethau yng Nghymru, 3,000 o’r 4,000 o’r lleoedd sydd gan Twf Swyddi Cymru yn y sector preifat, rhaglenni Hyfforddeiaethau i gael pobl ifanc 16-19 oed yn ôl ar y ffordd i waith neu i addysg bellach neu addysg uwch, yn ogystal â chymorth wedi’i dargedu ar gyfer pobl ar y rhaglen Camau at Waith.

“Yn y degawd diwethaf, rydym wedi gosod sylfaen gadarn i adeiladu arni,” meddai Mr Watkins, cyn-gadeirydd NTfW. “Gyda chymaint o newid ar y gorwel mewn addysg a hyfforddiant, mae’n hanfodol bwysig ein bod yn cyflwyno gweledigaeth glir iawn ar gyfer y Ffederasiwn a’n bod yn cyhoeddi ein nod o sicrhau sgiliau perthnasol a phriodol ar gyfer economi Cymru yn awr ac i’r dyfodol. ”

Mae am weld Bwrdd NTfW yn ymgynghori â’r aelodau a’r rhanddeiliaid cyn cyhoeddi ei amcanion i sicrhau system addysg a hyfforddiant gadarn ar gyfer Cymru. Mae’n awgrymu mabwysiadu nodau The Edge Foundation er mwyn codi proffil addysg alwedigaethol.

Mae wedi pennu chwe nod ac mae’n awyddus i weld gwleidyddion, ymarferwyr a’r cyhoedd yn:

  • Cydnabod bod llawer o lwybrau’n arwain at lwyddiant
  • Sicrhau bod “dysgu trwy wneud” yn cael yr un parch â dysgu academaidd
  • Cynnig addysg dechnegol, ymarferol a galwedigaethol fel rhan hanfodol a gwerthfawr o addysg pawb, ac fel llwybr cydnabyddedig at lwyddiant
  • Rhoi dewis o brofiadau dysgu a llwybrau i bobl ifanc o 14 oed ymlaen, wedi’u seilio ar eu dyheadau, eu doniau a’r hyn y dymunant ei wneud
  • Sicrhau bod yr addysg a’r cymwysterau technegol, ymarferol a galwedigaethol a gynigir mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yn cyrraedd safon uchel a’u bod yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr
  • Sicrhau bod pobl ifanc, beth bynnag eu galluoedd a’u diddordebau, yn gadael y system gyda’r hyder, yr uchelgais a’r sgiliau y mae arnyn nhw ac economi Cymru eu hangen.

“Efallai’ch bod yn gofyn ar ba sail yr ydw i’n argymell y nodau hyn,“ meddai Mr Watkins, sydd hefyd yn rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng. “Mae gen i 12 mlynedd o brofiad uniongyrchol o orfod cymryd adnoddau prin i gyflenwi Sgiliau Sylfaenol mewn rhaglenni Prentisiaethau sydd i fod i ddysgu sgiliau crefft a sgiliau technegol.

“Mae’n rhaid i ni sicrhau’r cydbwysedd cywir gan fod llythrennedd a rhifedd yn sylfaen ar gyfer symud ymlaen a llwyddo.

“Mae digonedd o dystiolaeth ynghylch y sgiliau y bydd arnom eu hangen, beth sy’n gweithio’n dda ac, yn bwysicaf oll, pa gamau y mae’n rhaid eu cymryd i wella’r sefyllfa. Dyma’r amser i sicrhau system addysg a hyfforddiant hyderus ac uchelgeisiol a fydd yn cyflenwi’r sgiliau y mae ar economi Cymru eu hangen er mwyn llwyddo.”

Nod thema’r gynhadledd yw ystyried ffyrdd o godi safon sgiliau a chynyddu sgiliau busnesau trwy gydweithio â sefydliadau eraill.

Ymhlith y prif siaradwyr, bydd Scott Waddington, Comisiynydd Cymru i Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau, a fydd yn sôn am rannu’r buddsoddiad mewn sgiliau a Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau. Bydd Barry Liles, Hyrwyddwr Sgiliau Cymru, yn sôn am werth cystadlaethau o safon fyd-eang; bydd Huw Evans, cadeirydd Bwrdd Prosiect yr Adolygiad o Gymwysterau 14-19 yng Nghymru, yn rhoi adroddiad ar hynt yr adolygiad a bydd yr Arglwydd Ted Rowlands, Llywydd NTfW yn rhoi golwg gyffredinol ar y gynhadledd.

Os hoffech gadw lle yn y gynhadledd neu’r seremoni wobrwyo, cysylltwch â Karen Smith, rheolwr prosiectau NTfW ar: 029 2061 8228 neu: karen.smith@ntfw.org.

More News Articles

  —