Cydweithwyr yn ymgeiswyr terfynol yn yr un categori yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru
Mae dau hyfforddwr gyda’r darparwr hyfforddiant llwyddiannus a leolir yng Nghaerdydd, ACT Limited, ar y rhestr fer ar gyfer yr un wobr yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2015.
Mae Louisa Gregory, 28, a Chris Hughes, 54, ar y rhestr fer o bedwar ar gyfer categori Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo proffil uchel a gynhelir yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd ar ddydd Iau, 29 Hydref.
Mae’r gwobrau blaenllaw yn dathlu cyflawniadau eithriadol y rheiny sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau, wedi dangos ymagwedd ddeinamig tuag at yr hyfforddiant ac wedi dangos ysgogiad, menter, arloesedd, dawn greadigol ac ymrwymiad i wella sgiliau ar gyfer economi Cymru.
Caiff y gwobrau, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), eu noddi gan Pearson PLC a phartner y cyfryngau yw Media Wales. Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Cafodd Louisa, sy’n byw yng Nghaerdydd, ei henwebu oherwydd ei hegni, ei brwdfrydedd a’u dull creadigol o ddysgu. Mae wedi gweithio i ACT Training am dair blynedd a hi bellach yw cydlynydd y Rhaglen Llwybr Cyflym.
“Rwyf eisiau i bob dysgwr gyflawni eu potensial,” dywedodd. “Rwy’n ceisio defnyddio dulliau addysgu arloesol a’u hysbrydoli i fod yn greadigol ac yn chwilfrydig.”
Mae’n annog pobl ifanc i ddefnyddio technoleg; mae rhai o’i dysgwyr wedi creu fideo wedi ei animeiddio o bwysigrwydd cyfathrebu ar gyfer cyflogaeth. Mae Louisa hefyd yn eu hannog i gymryd rhan yn codi arian ar gyfer elusennau lleol.
“Mae gennyf angerdd aruthrol tuag at yr hyn rwyf yn ei wneud. Mae gweld person ifanc wedi ei ymgysylltu a’i ysbrydoli i ddysgu, yn ogystal â derbyn heriau newydd, yn fy ysgogi’n fawr,” dywedodd. “Roeddwn wrth fy modd yn 2014/15, bod 27 o’r 30 o ddysgwyr y gweithiais gyda nhw wedi mynd ymlaen i gael gwaith amser llawn.”
Roedd Chris Hughes yn rheolwr manwerthu am 20 mlynedd cyn symud i mewn i hyfforddiant. Ef bellach yw tiwtor y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) gydag ACT Training, yn cyflenwi hyfforddiant seiliedig ar waith mewn sefydliadau ar draws De Cymru.
Mae’n credu’n gryf mewn teilwra ei ymagwedd tuag at y dysgwr. “Mae gan bawb ffordd wahanol o ddysgu ac mae’n bwysig ystyried hynny,” dywedodd. “Rwy’n defnyddio dulliau gwahanol i ymgysylltu dysgwyr a pharhau i’w hysgogi.”
Mae hefyd yn awyddus iawn i ddefnyddio technoleg, gan annog dysgwyr i ddefnyddio eu ffonau a’u llechi. “Rwy’n sylweddoli bod llawer o ddysgwyr wedi cael anhawster gydag aseiniadau am fod y taflenni gwaith yr oeddwn yn eu dosbarthu yn rhy eiriol,” dywedodd.
“Penderfynais ddefnyddio Ap o’r enw Popplet yn lle hynny, sy’n fy ngalluogi i rannu siartiau a mapiau meddwl. Mae hyn wedi arwain at aseiniadau o ansawdd llawer gwell yn ogystal â mwy o aseiniadau’n dod i mewn ar amser.”
Dywedodd Chris, sy’n byw ger y Coed Duon: “Rwy’n cael boddhad gwirioneddol trwy helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd, cael eu cymwysterau a datblygu yn eu gyrfaoedd.”
Mae ganddo Ddiploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac mae wedi dechrau Diploma Lefel 5 mewn Hyfforddi a Mentora. “Ar ôl hyn, rwy’n bwriadu dod yn fwy rhugl a hyderus yn yr iaith Gymraeg,” ychwanegodd.
Llongyfarchodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Louisa, Chris a’r 36 arall ddaeth i’r brig. “Mae gennym brentisiaid eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn llwyfan perffaith i ni ddathlu eu gwaith caled a’u cyflawniadau,” dywedodd.
“Mae darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr sy’n mynd yr ail filltir i gefnogi eu prentisiaid yr un mor bwysig. Mae datblygu pobl ifanc medrus yn hanfodol i’n heconomi. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i raglenni hyfforddiant fel Prentisiaethau ond mae’n rhaid i fuddsoddiad fod yn gyfrifoldeb a rennir gyda’r sector addysg, busnesau ac unigolion.”
More News Articles
« Ymgeisydd terfynol gwobr dysgwr, Louis, yn edrych ymlaen at yrfa yn y Fyddin — Sefydlu System Gyda’r Gorau yn y Byd ar gyfer Prentisiaethau yng Nghymru »