Sefydlu System Gyda’r Gorau yn y Byd ar gyfer Prentisiaethau yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae darparwyr hyfforddiant o bob rhan o Gymru’n cyrraedd Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd heddiw ar gyfer cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Yma, mae’r Cadeirydd, Peter Rees, yn sôn am yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.

Gan Peter Rees, cadeirydd NTfW.

Peter Rees, NTfW Chair

Peter Rees, Cadeirydd NTfW

Ar ôl gweithio mewn nifer o swyddi ym meysydd hyfforddiant ac addysg bellach ac uwch ers bron 40 mlynedd, dydw i ddim yn gallu cofio cyfnod pan oedd dysgu seiliedig ar waith, yn enwedig hyfforddiant i brentisiaid, yn cael cymaint o sylw a chydnabyddiaeth fel elfen allweddol yn y ‘sbectrwm’ addysg ymhlith gwneuthurwyr polisïau, cyflogwyr ac, yn wir, rieni a phobl ifanc!

Rwy wrth fy modd bod NTfW wedi gwneud cyfraniad sylweddol at y drafodaeth hon yn ddiweddar gyda’n hadroddiad, ‘Gwerth Prentisiaethau i Gymru’. Cafodd yr astudiaeth dderbyniad da gan ein holl randdeiliaid ac mae wedi cyfrannu at ein trafodaeth gyda’r pleidiau gwleidyddol wrth iddynt baratoi eu maniffestos ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru y flwyddyn nesaf.

Yn ogystal â chynyddu’r cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ar ffurf prentisiaethau, rydym yn gofyn i bwy bynnag fydd yn ffurfio’r llywodraeth nesaf i ganolbwyntio ar wella’r gadwyn gyflenwi cyn i’r prentis ddechrau ar ei daith addysgol ac yn ystod y daith honno.

Yng nghyfarfod lansio’r adroddiad, roeddwn wrth fy modd yn clywed y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, yn rhoi “ymrwymiad absoliwt” Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu prentisiaethau. Bydd gan y llywodraeth ran allweddol i’w chwarae yn cyfrannu at ein ‘Golwg 20:20 – Tuag at System Sgiliau gyda’r Gorau yn y Byd’, sef thema cynhadledd flynyddol NTfW heddiw.

Y gynhadledd yw ein man cychwyn ar gyfer sicrhau bod y gadwyn gyflenwi’n addas at ei diben. Mae’n rhaid i ni, ddarparwyr hyfforddiant a’n partneriaid, anelu at sicrhau’r un amlygrwydd i brentisiaethau ag a geir mewn gwledydd llwyddiannus eraill yn Ewrop gan feithrin sgiliau a chynhyrchiant yma, yng Nghymru.

Yn ogystal â chael dysgu beth a gyflawnir mewn gwledydd eraill, mae gennym gyfle i’w roi mewn cyd-destun Cymreig, gan gydnabod ei bod yn rhaid i ni sicrhau cyfleoedd i’n holl bobl ifanc symud o’r ysgol i waith ac i sgiliau uwch.

Bydd ein siaradwyr blaenllaw a’n gweithdai yn helpu i ddangos i ba gyfeiriad y mae angen i ni, fel sector, fynd wrth ymdrechu i adeiladu system sgiliau gyda’r gorau yn y byd. Rwy’n edrych ymlaen at glywed sut y dylai ein darpariaeth adlewyrchu anghenion cyflogwyr a’n diwylliant ni yng Nghymru. Heddiw, yng, yng nghyd-destun y diwylliant hwn, rydym yn lansio ein llawlyfr arferion da wrth ddarparu cymwysterau galwedigaethol yn ddwyieithog a thrwy gyfrwng y Gymraeg mewn dysgu seiliedig ar waith. Caiff y llawlyfr ei gydariannu gan NTfW a Llywodraeth Cymru.

Mae’n rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion dysgwyr, gweithredu mewn ffordd gynhwysol, gwella ansawdd y ddarpariaeth yn barhaus, bod yn ddyfeisgar wrth ymateb i gyfleoedd sy’n cael eu creu gan gyflogwyr a’r llywodraeth, bod yn barod i ddysgu gan eraill a gweithio ar bob lefel er budd ein holl brentisiaid.

Rydym ni, ddarparwyr hyfforddiant, yn wynebu heriau a chyfleoedd mawr, nid yn lleiaf trwy gydfuddsoddi a’r ffordd y mae ardoll Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar brentisiaethau yn effeithio arnom yng Nghymru. Yn awr, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda i ymateb i’r heriau hyn.

More News Articles

  —