Rheoleiddio a Goruchwylio Addysg a Hyfforddiant Ôl Orfodol: ymateb gan y sector addysg bellach

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn croesawu nifer o argymhellion a wnaed mewn adroddiad newydd ar reoleiddio a goruchwylio addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’r adroddiad, sy’n canolbwyntio ar yr angen i gyflwyno ffurfiau newydd o ddysgu ac addysgu 16+, yn argymell creu corff annibynnol newydd i gydlynu ac arloesi ar bob lefel o addysg ôl-orfodol ar draws Cymru.

Mae’r adroddiad, Tuag at 2030: Fframwaith ar gyfer datblygu system addysg ôl-orfodol o’r radd flaenaf i Gymru, a ysgrifennwyd gan yr Athro Ellen Hazelkorn ac a gyhoeddwyd ar 10 Mawrth 2016, yn galw am strwythurau a systemau gwell ar lefel genedlaethol sy’n gallu mynd i’r afael â diffyg hyblygrwydd y system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol gyfredol yng Nghymru. Ychwanega at y nifer gynyddol o adroddiadau a datganiadau sy’n galw am fwy o gyfleoedd am sgiliau lefel uwch yng Nghymru.

Mewn sefyllfa sy’n adleisio Maniffesto ColegauCymru, Sgiliau ar gyfer Cenedl Lewyrchus, ac adroddiad NTfW, Gwerth Prentisiaethau yng Nghymru, mae’r Athro Hazelkorn yn cydnabod yr angen i Lywodraeth nesaf Cymru i weithio i gyflwyno gweledigaeth gyflawn ar gyfer y system ôl-orfodol. Gan hynny, mae’r ddau sefydliad yn cymeradwyo’r adroddiad yn y ffordd y mae’n rhoi ar gychwyn modd i sicrhau bod gan Gymru systemau a strwythurau yn eu lle i alinio anghenion cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd y genedl ac i ddarparu sgiliau cynaliadwy yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, yn awr ac ymhell i’r dyfodol.

Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru: “Mae’r Llywodraeth bresennol wedi gweithio gyda ColegauCymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a phartneriaid eraill i wella mynediad i lwybrau dysgu galwedigaethol, adnabod gwerth opsiynau dysgu galwedigaethol ôl-16 ar lefel genedlaethol, a chefnogi tyfiant prentisiaethau. Ond mae strwythurau wedi dal Cymru yn ôl rhag medru bod yn ddigon ystwyth i fedru darparu system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol di-dor sy’n gweithio i ddysgwyr, cyflogwyr ac entrepreneuriaid ar bob lefel.

“Fel y mae’r adroddiad yn nodi, mae angen mynd i’r afael â nifer o faterion ar lefel strategol er mwyn symud at system sy’n fwy effeithlon, effeithiol ac, yn fwy na dim, sy’n gynaliadwy. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cyfle cynnar yn nhymor cyntaf y Cynulliad nesaf fynd i’r afael â’r gwendid strwythurol cynhenid sydd yn y systemau cynllunio ac ariannu cyfredol.

“Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Llywodraeth a’r Cynulliad newydd yn gynnar yn y tymor newydd wrth archwilio’r materion a’r argymhellion a godwyd yn yr adroddiad ac, yn arbennig, ar y modd y gall y swyddogaethau statudol a strategol sy’n freiniedig ar hyn o bryd yn y Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a chyrff eraill gael eu cyflawni ochr yn ochr â rôl strategol gliriach.”

Dywedodd Peter Rees, Cadeirydd Gweithredol NTfW: “Mae NTfW eisioes wedi galw am adolygiad o’r system addysg ôl-orfodol ac rydym yn falch o weld bod adroddiad yr Athro Hazelkorn yn edrych ar osod y system addysg ar drywydd sy’n fwy ymatebol. Mae ar ein economi angen system addysg sy’n cydnabod bod dysgu rhan amser a dysgu yn y gweithle yn gallu bod yr un mor heriol yn addysgol â dysgu pynciau academaidd mewn ystafell ddosbarth. Mae dysgu yn y gwaith yn llawn mor addas i ddysgwyr mwy abl a thalentog.

“Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Llywodraeth a’r Cynulliad newydd i archwilio’r materion a godwyd a’r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad.”

More News Articles

  —