Ar ôl gyrfa y tu ôl i’r llenni, mae Sue yn cael sylw

Postiwyd ar gan karen.smith

Sue Jeffries, one of the stars of Wales’ work-based learning sector.

Sue Jeffries, un o sêr y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.

English | Cymraeg

Ar ôl dros 30 mlynedd o brofiad ym maes cynhyrchu rhaglenni teledu, cychwynnodd Sue Jeffries ei chwmni hyfforddi ei hunan yn arbenigo mewn prentisiaethau ar gyfer swyddi’n amrywio o ddylunio gwisgoedd i effeithiau arbennig.

A hithau’n rheolwr gyfarwyddwr Sgil Cymru, sy’n rhan o’r diwydiant yn Stiwdios Pinewood yn Rhymni, mae Sue’n brif asesydd ar gyfer tair prentisiaeth yn y cyfryngau ar lefelau 3 a 4.

Yn awr, mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd yn cystadlu i fod yn Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Mae gan Sue lu mawr o gysylltiadau ac mae’n defnyddio arbenigwyr yn y diwydiant i fod yn aseswyr llawrydd i gynnig hyfforddiant hyblyg sy’n ateb gofynion y BBC, ITV a chwmnïau annibynnol o ran cynhyrchu rhaglenni teledu.

Yn hytrach na mynd i’r coleg am ddiwrnod yr wythnos, mae’r prentisiaid yn dilyn blociau dysgu yn y stiwdios, wedi’u trefnu o gwmpas amserlenni cynhyrchu, ac mae hyn yn dod yn ffordd gyffredin iawn o gael mynediad i’r diwydiannau creadigol.

Mae Sue yn asesu yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae’r prentisiaethau, trwy BBC Cymru, wedi ehangu i fyd radio, chwaraeon a dewis amlblatfform. Mae ei dull o ddefnyddio gweithdy recriwtio i ganfod darpar brentisiaid wedi’i gydnabod gan Creative Skillset fel enghraifft o ymarfer gorau ac mae Sue yn siarad mewn cynadleddau a digwyddiadau er mwyn recriwtio’r genhedlaeth nesaf o weithwyr yn y cyfryngau.

Dywedodd Sue, sy’n byw ym Mhontcanna, Caerdydd: “Bu llawer o heriau dros y blynyddoedd er mwyn sicrhau bod y prentisiaethau hyn mor llwyddiannus ag y maen nhw heddiw. Rwy’n cymryd cyfrifoldeb personol dros ddysgwyr Sgil Cymru ac yn ymrwymo i sicrhau eu bod yn dal i lwyddo.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Sue ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —