Rhowch lais i brentisiaid mewn penderfyniadau am brentisiaethau, meddai’r Gweinidog

Postiwyd ar gan karen.smith

Ch-Dd: Kelly Edwards, Pennaeth Ansawdd Dysgu Seiliedig ar Waith NTfW; Sarah John, Cadeirydd Cenedlaethol NTfW; Eluned Morgan Gweinidog yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes; Peter Munday, Ymgynghorydd, Education and Training Foundation; Alex Rollason Dirprwy Lywydd UCM Cymru, Cymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid a Dr Esther Barrett, Arbenigwr Pwnc (Addysgu, Dysgu ac Asesu), Jisc.

Ch-Dd: Kelly Edwards, Pennaeth Ansawdd Dysgu Seiliedig ar Waith NTfW; Sarah John, Cadeirydd Cenedlaethol NTfW; Eluned Morgan Gweinidog yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes; Peter Munday, Ymgynghorydd, Education and Training Foundation; Alex Rollason Dirprwy Lywydd UCM Cymru, Cymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid a Dr Esther Barrett, Arbenigwr Pwnc (Addysgu, Dysgu ac Asesu), Jisc.

Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, yn awyddus i brentisiaid gael mwy o lais mewn penderfyniadau am brentisiaethau.

Ym mhrif araith yr ail Gynhadledd Addysgu, Dysgu ac Asesu a drefnwyd gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd, dywedodd wrth 200 o gynadleddwyr o fyd dysgu seiliedig ar waith fod dysgwyr yn bartneriaid allweddol yn y gwaith o sicrhau llwyddiant y system brentisiaethau yng Nghymru.

“Mae angen i ni ganfod ffyrdd creadigol o roi llais y dysgwr wrth galon y system,” meddai’r Gweinidog. “Bydd lleisiau dysgwyr yn ganolog i ddatblygiadau yn y dyfodol.”

Addawodd y byddai’n mynd i’r afael â’r “anghyfartalwch enfawr” sydd rhwng llwybrau academaidd a rhai galwedigaethol yng Nghymru. “Rwy’n benderfynol na chaiff dysgu galwedigaethol a dysgu seiliedig ar waith eu gweld fel perthynas tlawd i lwybrau academaidd,” meddai.

“Mae prentisiaeth o safon uchel mor werthfawr, os nad yn fwy gwerthfawr, na gradd o ran y potensial i ennill cyflog.”

Diolchodd i’r cynadleddwyr am helpu i sicrhau bod Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd y nod o 100,000 o brentisiaethau yn nhymor presennol y Cynulliad, ond pwysleisiodd bod angen prentisiaethau o safon uwch er mwyn cefnogi dysgwyr, cyflogwyr ac economi Cymru.

Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn cael sgiliau priodol fel y gallant ystyried cychwyn eu busnesau eu hunain ac ymuno â’r miloedd o bobl eraill hunan-gyflogedig sy’n gyrru economi Cymru, meddai.

Canolbwyntiodd ar feysydd yr oedd angen eu gwella, yn cynnwys gwneud rhagor o ddysgu yn y gweithle, gwella datblygiad sgiliau a rhoi cyfle i ddysgwyr ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ogystal, galwodd y Gweinidog am gyfleoedd ym maes hyfforddi a datblygu fel y gall ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith wella safonau dysgu.

Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Alex Rollason sydd newydd ei ethol yn ddirprwy lywydd UCM Cymru, cynrychiolydd Cymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid a phrentis peirianyddol yng Ngholeg Cambria – y prentis cyntaf yn y Deyrnas Unedig i’w benodi’n swyddog gydag UCM.

Croesawodd sylwadau’r Gweinidog a chytuno y dylai prentisiaid gael llais ar benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw ynglŷn â’u prentisiaethau. Hoffai weld Llywodraeth Cymru’n ei gwneud yn haws i ddysgwyr allu newid o lwybrau academaidd i rai galwedigaethol os ydynt yn sylweddoli eu bod wedi gwneud y dewis anghywir.

Soniodd am ei brofiad ef fel prentis a dywedodd fod angen i bobl ifanc mewn ysgolion a’u rhieni gael gwell cyngor am yrfaoedd a’r holl opsiynau sy’n agored iddynt yn hytrach na dim ond prifysgolion.

Canmolwyd yr aelodau am wella’u harferion dysgu ac addysgu gan Sarah John, cadeirydd NTfW, ond dywedodd bod bob amser le i wella ac i gofleidio themâu ehangach. Gobeithiai y byddai’r cynadleddwyr yn rhannu arferion gorau a’r syniadau newydd a gawsant yn y gynhadledd gyda chydweithwyr, dysgwyr a chyflogwyr.

Cyhoeddodd Sarah fod yr NTfW, trwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi llwyddo i ymgysylltu â mwy o gyflogwyr ers iddynt gael yr holl awgrymiadau o Borth Sgiliau Busnes Cymru a bod y galw am brentisiaethau uwch wedi codi chwech y cant i 22%.

Erbyn hyn, mae mwy o gydweithio rhwng y rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau Addyg Bellach ac Addysg Uwch ac mae’r negeseuon cadarnhaol am brentisiaethau wedi arwain at gynnydd yn y galw gan ddysgwyr a rhieni.

Yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, mae llwybrau prentisiaethau newydd yn cael eu creu, mae rhagor o weithwyr yn cwblhau prentisiaethau uwch ac mae mwy o bwyslais ar sectorau blaenoriaeth a bennir gan Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.

Cafodd y gynhadledd, ‘Grymuso dysgwyr i sicrhau ffyniant yn y dyfodol’, ei chefnogi a’i rhanariannu gan Lywodraeth Cymru.

Ymhlith y siaradwyr roedd Peter Munday, ymgynghorydd o’r Education and Training Foundation, a amlinellodd y camau roedd ei sefydliad wedi’u cymryd i godi safonau ac i sicrhau rhagoriaeth ymhlith athrawon ac aseswyr.

Bu Dr Esther Barrett, arbenigwr mewn dysgu ac asesu gyda Jisc, sefydliad nid-er-elw’r sectorau addysg uwch, addysg bellach a sgiliau yn y Deyrnas Unedig ym maes gwasanaethau a datrysiadau digidol, yn sôn am ddyfodol lle byddai robotiaid yn cymryd swyddi y mae pobl yn eu gwneud yn awr.

Daeth Hayden Llewellyn, prif weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg, â’r gynhadledd i ben trwy ganolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn y dyfodol ar ôl iddynt gofrestru gyda’r Cyngor. Dywedodd fod 2,600 – mwy nag a ragwelwyd yn wreiddiol – o ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith wedi cofrestru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

More News Articles

  —