Prentisiaethau’n helpu James i yrru ei yrfa ymlaen yng Nghlwb Golff Maesteg
Mae James Matthewman wedi gwneud strocen feistrolgar wrth ddewis gwneud prentisiaeth yng Nghlwb Golff Maesteg.
Yn ogystal â chwblhau Prentisiaeth mewn Rheoli Tir Chwaraeon a Garddwriaeth, a ddarparwyd gan Goleg Pen-y-bont, mae wedi’i ddyrchafu’n ddirprwy brif ofalwr y maes ac wedi ennill ysgoloriaeth gan y British and International Golf and Greenkeepers Association (BIGGA), i gydnabod ei ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Mae James, 36, o Faesteg, yn falch iawn o’r ysgoloriaeth, un o ddim ond pump a ddyfarnwyd yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Yn ogystal, cafodd ei enwi’n Ddysgwr y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith gan Goleg Pen-y-bont – y wobr gyntaf iddo ei hennill erioed – am ennill cymhwyster cysylltiedig â’i brentisiaeth mewn Saesneg a Mathemateg.
Mae ei awydd i ddysgu’n parhau ac mae’n gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Arwain a Rheoli gyda’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) ac yn gwella ei Gymraeg.
I gydnabod ei lwyddiant, mae James wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.
Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.
Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.
Mae James yn hyrwyddo Clwb Golff Maesteg ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynhyrchu fideos tiwtorial i ddangos gwelliannau i’r cwrs a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae hynny wedi helpu i gynyddu’r aelodaeth o 300 i fwy na 500.
Oherwydd y llwyddiant hwn, cafodd ei benodi i redeg cyfrif cyfryngau cymdeithasol adran De Cymru o BIGGA. Mae hynny wedi arwain at fwy o rwydweithio gyda cheidwaid y meysydd mewn clybiau golff eraill.
“Mae gofalu am feysydd golff yn gofyn am lawer o sgiliau a gallwch gael boddhad mawr o’r gwaith, ond mae llawer iawn i’w ddysgu hefyd,” meddai. “Dyna pam roeddwn i’n meddwl bod llwybr prentisiaeth yn berffaith.
“Er fy mod eisoes wedi cael llawer o hyfforddiant ar ddefnyddio peiriannau ac offer, mae angen llawer iawn o wybodaeth arnoch ar ben hynny er mwyn sicrhau bod cwrs golff mewn cyflwr rhagorol. Mae Clwb Golff Maesteg yn lle gwych sydd â photensial mawr.”
Mae James wedi bod yn cydweithio â’i reolwr Stephen Trickey i ddatblygu cynllun pum mlynedd i reoli’r cwrs golff mewn ffordd gynaliadwy, gan neilltuo rhai mannau heb eu torri er mwyn hybu bywyd gwyllt ac arbed costau tanwydd.
Wrth ganmol sgiliau cyfathrebu “gwych” James, dywedodd Colin Thomas, rheolwr cyfleusterau Clwb Golff Maesteg: “Mae’r ffaith ei fod yn ymfalchïo gymaint yn ei waith yn ysgogi staff eraill y maes.
“Gan ei fod wedi cyflawni cymaint, nid yn unig yn ei swydd, ond fel unigolyn, mae’r clwb wedi’i ddyrchafu’n ddirprwy brif ofalwr y maes.”
Wrth longyfarch James a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.
“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.
“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.
“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.
More News Articles
« Kiera’n goresgyn anawsterau gan wneud prentisiaeth er mwyn helpu cleifion — Blwyddyn dda i asiedydd sy’n cystadlu yn rownd derfynol WorldSkills UK »