Bachgen yn ei arddegau o Rondda yn ennill gwobr brentisiaeth ar ôl cyflawni’r “amhosibl”

Postiwyd ar gan Events Team

English | Cymraeg

Gwynfor Jones receives the Foundation Apprentice of the Year award from sponsor, Nicola Thornton-Scott of NPTC Group of Colleges.

Gwynfor Jones yn derbyn gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn gan noddwr Nicola Thornton-Scott o Grŵp Colegau NPTC.

Gwynfor Jones, in the forest with chain saw.

Gwynfor Jones, Prentis Sylfaen y Flwyddyn

Mae Gwynfor Jones, bachgen yn ei arddegau o Gwm Rhondda, sy’n rhoi’r diolch i drefniant dysgu seiliedig ar waith am ei helpu i gyflawni “yr amhosibl”, wedi cael ei gydnabod â gwobr brentisiaeth genedlaethol.

Cafodd Gwynfor, 18, o Dreherbert, ei enwi’n Brentis Sylfaen y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 a gynhaliwyd yn ICC Cymru, Casnewydd.

Ar ôl cael trafferth yn canolbwyntio yn yr ysgol, ac ofni y byddai cael ei ynysu’n gymdeithasol yn ystod pandemig Covid yn llesteirio ei ddatblygiad fel oedolyn, mae Gwynfor wedi ffynnu ers cwblhau Prentisiaeth Sylfaen, ac mae bellach yn gwirfoddoli yn ei gymuned.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau a sefydliad dyfarnu arbenigol ar gyfer diwydiant. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Cwblhaodd Gwynfor Brentisiaeth Sylfaen mewn Cadwraeth Amgylcheddol drwy Goleg Pen-y-bont a Croeso i’n Coedwig, partneriaeth gymunedol yn Rhondda Fawr Uchaf sy’n cysylltu trigolion â natur.

Ac yntau wedi bod yn gwirfoddoli gyda Croeso i’n Coedwig ers ei fod yn 13 oed, cymerwyd ef o dan adain y bartneriaeth ar ôl cwblhau ei arholiadau TGAU, ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny, gan helpu gyda nifer o brosiectau amgylcheddol a gwneud gwahaniaeth go iawn.

Wrth ddal ei wobr, dywedodd Gwynfor: “Dw i’n dal i fod mewn sioc. Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill a dw i’n ddiolchgar i bawb sydd wedi dod â fi mor bell â hyn. Ar ôl ennill y wobr yma, dw i nawr yn teimlo y galla’ i gyflawni cymaint mwy yn fy mywyd.

“Fy mreuddwyd fwyaf fyddai symud i Ganada am ychydig flynyddoedd a dysgu sgiliau newydd mewn gwaith coed a rheoli, unrhyw beth sy’n ymwneud â natur. Ar hyn o bryd dw i’n rheoli coetir ac yn rhedeg melin lifio.”

“Roedd fy hyder i’n isel yn yr ysgol gan nad oeddwn i’n gweld fy hun fel ‘plentyn clyfar’ a doedd gen i ddim sgiliau defnyddiol Ond ers dechrau fy mhrentisiaeth, mae fy hunan-gred a’m hyder wedi datblygu y tu hwnt i beth y gallwn fod wedi’i ddychmygu.

“Roeddwn i hefyd yn ofni yn ystod Covid fy mod i wedi colli fy sgiliau cymdeithasol yn sgil ynysu, ond diolch i ‘mhrentisiaeth, dw i wedi bod yn cyflawni ‘yr amhosibl’ drwy roi cyflwyniadau i blant mewn ysgolion, i’r cyhoedd ac mewn digwyddiadau cymunedol yn fy ngweithle.”

Fel gweithiwr dwyieithog, mae Gwynfor wedi cyfrannu at fideos sy’n hyrwyddo addysg alwedigaethol yn Gymraeg a Saesneg.

Yn ogystal â’i waith, mae’n cefnogi sesiynau therapi coetir, gan weithio ar sail un i un, mae’n gwirfoddoli ddwy noson yr wythnos gyda Plant y Cymoedd, ac mae’n swyddog cymorth cyntaf awyr agored ac yn arweinydd beicio mynydd.

Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fe hoffwn i longyfarch nid yn unig enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu.

“Mae’n bwysig arddangos eu llwyddiannau, gan fod hynny’n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.”

Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: “Dw i am longyfarch yr holl enillwyr a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae eu straeon nhw ynghylch yr effaith fawr y gall prentisiaethau ei chael yn drawiadol, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaol a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Fe fyddan nhw’n rhan hanfodol o’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000.

 

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —