Gwobr brentisiaeth uchel ei pharch ar gyfer goroeswr ffrwydrad nwy i’ch ysbrydoli
Mae gwobr brentisiaeth uchel ei pharch wedi cael ei chyflwyno i fenyw a wnaiff eich ysbrydoli go iawn, a ailadeiladodd ei bywyd a datblygu gyrfa lwyddiannus ar ôl goroesi ffrwydrad nwy.
Ar 24 Mehefin 2020, newidiodd bywyd Jessica Williams am byth. O fewn munudau i gyrraedd adref, claddwyd y fam o Flaendulais a’i dau fab ifanc o dan dunelli o rwbel wrth i ffrwydrad nwy daro ar hap, gan ddymchwel eu tŷ teras.
Treuliodd fisoedd yn yr ysbyty yn cael nifer o lawdriniaethau, ond lai na thair blynedd yn ddiweddarach roedd wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant, Arwain a Rheoli gyda’r darparwr hyfforddiant ACT, ac mae nawr yn defnyddio ei phrofiad trawmatig i ysbrydoli a gwella eraill.
Cydnabuwyd gwytnwch anhygoel a thaith ddysgu Jessica pan gafodd ei henwi’n Brentis Uwch y Flwyddyn yn seremoni bwysfawr Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yn ICC Cymru.
Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.
Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau a sefydliad dyfarnu arbenigol ar gyfer diwydiant. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.
“Mae’r holl beth wedi cymryd fy ngwynt, a dw i’n teimlo balchder mawr o fod wedi bod ar y daith yma,” meddai Jessica, 34, ar ôl derbyn ei gwobr. “Roeddwn i mor ddiolchgar i gyrraedd y rownd derfynol, a doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n ennill, ond mae’n braf cael y gydnabyddiaeth a dw i wir yn ei gwerthfawrogi.
“Ar ôl bod drwy gymaint, mae’n braf dod allan y pen arall gyda’r wobr yma. Mae’n golygu nad oes ots beth rydych chi wedi bod drwyddo yn eich bywyd, y gallwch chi gyflawni unrhyw beth!
“Dw i’n caru fy swydd cymaint, a dw i ddim yn credu bod gofal plant yn cael y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu. Mae yna gyfleoedd i symud ymlaen, a phrofiadau dysgu newydd bob amser.”
Wrth edrych yn ôl ar y ffrwydrad, dywedodd Jessica: “Mae’n wyrth bod pawb ohonon ni wedi goroesi. “Pan es i’n ôl i ddysgu ym mis Mai 2021, roeddwn i’n ysu i roi trefn ar fy mywyd.
“Diolch i’r brentisiaeth, dw i wedi gweld cynnydd personol aruthrol. “Dw i wedi mynd o fod yn ddifrifol wael, yn ymladd am fy mywyd, i fod yn arweinydd meithrinfa llwyddiannus. Dydy fy nhaith ddim wedi bod yn un hawdd, ond mae wedi bod yn anhygoel.”
Fel arweinydd meithrinfa Sêr Bach y Cwm, sy’n feithrinfa Dechrau’n Deg yn Ysgol Golwg y Cwm yn Ystradgynlais, mae Jessica yn grymuso ei chydweithwyr, yn gwella’r diwylliant o waith tîm, a hefyd wedi sicrhau tua £20,000 i wella’r cyfleusterau.
Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fe hoffwn i longyfarch nid yn unig enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu.
“Mae’n bwysig arddangos eu llwyddiannau, gan fod hynny’n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.”
Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: “Dw i am longyfarch yr holl enillwyr a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae eu straeon nhw ynghylch yr effaith fawr y gall prentisiaethau ei chael yn drawiadol, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaol a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Fe fyddan nhw’n rhan hanfodol o’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.”
I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000.
More News Articles
« Bachgen yn ei arddegau o Rondda yn ennill gwobr brentisiaeth ar ôl cyflawni’r “amhosibl” — Mae Laura, a enillodd wobr brentisiaeth, yn angerddol dros ddysgu a gwaith tîm »