Mae Laura, a enillodd wobr brentisiaeth, yn angerddol dros ddysgu a gwaith tîm

Postiwyd ar gan Events Team

English | Cymraeg

Apprentice of the Year award winner Laura Chapman with sponsor Angharad Lloyd-Beynon City & Guilds.

Enillydd gwobr Prentis y Flwyddyn, Laura Chapman, gyda Angharad Lloyd-Beynon o’r noddwr, City & Guilds.

Laura standing in the office.

Laura Chapman, Prentis y Flwyddyn.

Mae angerdd yr arweinydd tîm, Laura Chapman, dros ddysgu wedi cael ei wobrwyo â gwobr genedlaethol sy’n destun balchder.

Cafodd Laura, sy’n gweithio i MotoNovo Finance yng Nghaerdydd, ei henwi’n Brentis y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 a gynhaliwyd yn ICC Cymru, Casnewydd.

Ymunodd y cyn-ddisgybl o Ysgol Maesteg, sy’n 21 oed, â’r cwmni cyllid a benthyciadau ceir ar gontract o 18 mis pan oedd yn 17 oed ar ôl dewis ennill a dysgu ar brentisiaeth, a wnaeth ei thrawsnewid o fod yn ferch ifanc swil yn ei harddegau i fod yn arweinydd tîm hyderus.

Symudodd ymlaen yn gyflym o Ddiploma BTEC Lefel 2 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr TG Proffesiynol i Brentisiaeth TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu; Tystysgrif Fersiwn 4 ITIL; a, bellach, ILM Lefel 3 mewn Rheoli gydag ALS Training.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau a sefydliad dyfarnu arbenigol ar gyfer diwydiant. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

“Dw i mor hapus a balch fy mod i eisiau crio,” meddai Laura emosiynol, ar ôl derbyn ei gwobr. “Mae’r wobr yma yn rhywbeth eithaf personol, gan ei fod yn golygu fy mod i’n ddigon da.

“Dw i wedi cael llawer o amheuon am fy ngallu fy hun, ond mae hyn nawr yn dangos imi fy mod i’n dda ac y galla’ i gyflawni pethau yn fy ngyrfa. Dw i wedi cael cefnogaeth wych ac mae gen i reolwr anhygoel.”

Wrth siarad am ei thaith ddysgu, ychwanegodd Laura: “Yn achos pob cymhwyster, dw i wedi gallu cymhwyso’r dysgu’n uniongyrchol i’m rôl yn syth. Mae’r ddau beth yn mynd law yn llaw, felly mae’n gwneud synnwyr i barhau i ddysgu. Dw i eisoes wedi rhoi fy mryd ar Brentisiaeth Uwch mewn Rheoli!

“Dw i’n rhannu fy stori gyda fy nhîm ac yn dweud wrthyn nhw pa mor ddefnyddiol yw prentisiaethau i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch gyrfa.”

Mae’r wybodaeth a’r sgiliau mae hi wedi’u hennill wedi rhoi hwb i’w hyder, ac mae nawr yn arwain tîm o wyth dadansoddwr, yn datrys materion TG i fwy o gwsmeriaid ac yn cael effaith gadarnhaol ar y busnes.

Yn fuan ar ôl ei dyrchafiad i rôl arweinydd tîm, fe aeth ati i ddelio ag ôl-groniad o geisiadau drwy gyflwyno dangosfwrdd i flaenoriaethu gwaith a oedd yn cyrraedd. Mae hi hefyd wedi cyflwyno camau i wella morâl a pherfformiad staff a hybu cynhyrchiant 50% drwy annog aelodau’r tîm i gydweithio a chynnig syniadau.

Mae Laura hefyd yn gweithio gyda staff datblygu talent y cwmni ac ALS Training i hyrwyddo prentisiaethau o fewn ei thîm.

Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fe hoffwn i longyfarch nid yn unig enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu.

“Mae’n bwysig arddangos eu llwyddiannau, gan fod hynny’n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.”

Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: “Dw i am longyfarch yr holl enillwyr a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae eu straeon nhw ynghylch yr effaith fawr y gall prentisiaethau ei chael yn drawiadol, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaol a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Fe fyddan nhw’n rhan hanfodol o’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.”

‌I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000.

Back to top>>

More News Articles

  —