Panel yn trafod ffyrdd newydd o wireddu potensial pobl ifanc er budd BBaChau yng Nghymru
Ffyrdd newydd o roi plant ysgolion cynradd ac uwchradd mewn cysylltiad â chyflogwyr a darparwyr prentisiaethau er mwyn llenwi bylchau sgiliau oedd o dan sylw gan banel o arbenigwyr yr wythnos ddiwethaf.
Bu’r panel yn ceisio ateb y cwestiwn: “Sut mae prentisiaethau o fudd i Gymru?” yng nghynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), a gynhaliwyd am y tro cyntaf ers y pandemig a hynny yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru), Casnewydd. City & Guilds oedd y noddwr pennaf.
Y panelwyr oedd Ben Cottam, pennaeth y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) yng Nghymru, Helena Williams, cyfarwyddwr datblygu corfforaethol ALS ac ACT, Leigh Hughes, cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PSPRC), a Liam Owen, rheolwr gweithredol Cymru, Frog Bikes ym Mhont-y-pŵl.
Buont yn trafod ffyrdd o wireddu potensial trwy brentisiaethau er mwyn grymuso pobl ar gyfer y dyfodol, atgyfnerthu cyflogwyr a hybu ffyniant economaidd.
Bu’r panelwyr yn sôn am yr her o ymgysylltu ag ysgolion, pobl ifanc a’u rhieni i’w haddysgu am y cyfleoedd i ddatblygu gyrfa a’r llwybrau dysgu sydd ar gael drwy brentisiaethau.
Dywedodd Mr Cottam mai’r her i’r FSB a’i aelodau oedd sut i ymateb i’r doniau sydd ar gael mewn ysgolion a chyrraedd atynt.
Awgrymodd Mr Owen y gellid creu cronfa ddata o gyflogwyr a fyddai’n barod i rannu prentis er mwyn darparu’r amrediad angenrheidiol o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad mewn busnesau bach a chanolig (BBaChau).
Awgrymodd hefyd y gallai awdurdodau lleol chwarae rhan allweddol drwy gynnig rhyddhad ardrethi busnes i gyflogwyr pe baent yn cyflogi prentis.
Dywedodd Mr Hughes fod PSPRC wedi dysgu mai’r ffordd orau o ymgysylltu â phobl ifanc yw eu rhoi nhw’n gyntaf trwy wrando ar yr hyn y mae arnynt ei eisiau a chyhoeddi deunyddiau mewn iaith y gallant ei deall.
Pwysleisiodd Mrs Williams fod darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn awyddus i gydweithio â’r FSB i ddysgu BBaChau ac ysgolion am brentisiaethau y gellir eu haddasu i ateb anghenion cyflogwyr.
Mae’r adroddiad ‘Pontio i Fyd Gwaith’ a ysgrifennwyd gan Hefin David, AoS, ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn ymchwilio i’r berthynas rhwng darparwyr addysg, diwydiant a chyflogwyr. Mae’r adroddiad yn nodi arferion da i helpu ysgolion cynradd ac uwchradd a cholegau i feithrin cysylltiadau â busnesau, entrepreneuriaid a chyflogwyr.
Dywedodd Mr Cottam ei fod wedi gweld enghreifftiau da o BBaChau o Gymru’n ymgysylltu â dysgwyr ifanc i roi profiadau ystyrlon o fyd gwaith iddynt. Mae ar bobl ifanc angen pwynt mynediad i fusnesau a ddylai hyrwyddo’r cyfleoedd a’r posibiliadau sydd ar gael, meddai.
Awgrymodd Mr Owen y gallai BBaChau herio meddyliau creadigol pobl ifanc drwy roi problemau cysylltiedig â gwaith iddynt eu datrys er mwyn “agor eu llygaid i fyd gwaith”.
Dywedodd Mrs Williams y gall fod yn anodd i’r rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith fynd i ysgolion i sôn wrth y disgyblion am ddysgu galwedigaethol ond bod yna glystyrau o arferion da. Ar hyn o bryd, mae ALS ac ACT yn cydweithio â 22 o ysgolion ac mae addysg alwedigaethol yn dechrau magu momentwm, meddai.
Soniodd Mr Hughes fod y cwricwlwm newydd yng Nghymru yn golygu y gellir datblygu partneriaethau lleol rhwng BBaChau ac ysgolion yn eu hardal “Dydi diwydiant ddim wedi dal i fyny eto gan fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd, felly mae’n rhaid i ni weithio ar godi ymwybyddiaeth,” meddai.
“Fel Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol, rydym yn awyddus i ddatblygu partneriaeth ar gyfer ffyniant. Mae arnom eisiau i bob busnes ffynnu ac i bob unigolyn wneud y gorau o’u bywyd oherwydd mae gan bawb botensial. Rydyn ni’n ceisio rhoi’r offer i bobl wireddu eu potensial.”
Ar ôl y gynhadledd, dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW, a oedd yn cadeirio sesiwn y panel: “Yn fy marn i, roedd yn drafodaeth fuddiol iawn achos roedd gennym ni leisiau Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol, BBaCh, darparwr dysgu seiliedig ar waith a’r Ffederasiwn Busnesau Bach.
“O dan y cwricwlwm newydd yng Nghymru, mae’n ofynnol i bawb ohonom ymgysylltu â phlant ac athrawon i’w helpu i ddeall bod prentisiaethau ar gael ar gyfer pobl o bob gallu. Mae angen inni atgyfnerthu neges Llywodraeth Cymru bod gwneud prentisiaeth yn ‘ddewis doeth’.”
More News Articles
« Mae Laura, a enillodd wobr brentisiaeth, yn angerddol dros ddysgu a gwaith tîm — Siaradwyr yn galw am gydweithredu er mwyn ateb anghenion prentisiaid a chyflogwyr »