Mae Amy yn datblygu gyrfa lwyddiannus drwy ddysgu seiliedig ar waith

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Amy Evans in the workplace with machinery

Amy Evans, ar y rhestr fer ar gyfer Prentis Uwch y Flwyddyn.

Mae cwblhau prentisiaeth uwch mewn pedair blynedd wrth weithio’n llawnamser fel peiriannydd mewn sefydliad byd-eang wedi tanio brwdfrydedd am reoli prosiectau yn Amy Evans, un o’r rhai sydd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr.

Mae Amy, sy’n 42 oed ac o Ben-y-bont ar Ogwr, bellach yn beiriannydd prosiect cymwys gyda Zimmer Biomet, cwmni sy’n arweinydd byd eang mewn technoleg feddygol, ac mae wedi cael ei chydnabod am nodi gwelliant yn y broses weithgynhyrchu a fydd yn arbed £180,000 y flwyddyn ac yn lleihau’r defnydd o sylweddau sydd wedi’u gwneud o doddyddion.

Cwblhaodd Amy ei Phrentisiaeth Uwch mewn Uwch Weithrediadau Gweithgynhyrchu (BEng) ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gynharach eleni. Mae hi’n diolch i’w phrofiad dysgu seiliedig ar waith am feithrin yr hyder ynddi i ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau, ac arwain a rheoli prosiectau sy’n cyfrannu at lwyddiant cyffredinol y cwmni.

Mae Amy bellach wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 ar gyfer rownd derfynol Prentis Uwch y Flwyddyn.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

“Mae ymgymryd â’r brentisiaeth wedi gwella fy hyder a fy hunan-barch yn sylweddol, ac wedi agor drysau ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol,” meddai Amy.
“Wrth i mi ennill a meithrin fy sgiliau a gwybodaeth newydd, mae fy hyder yn fy ngallu wedi cynyddu. Rwyf bellach yn mynd i’r afael â phrosiectau a heriau gyda mwy o sicrwydd ac wedi dod yn fwy rhagweithiol o ran ymgymryd â thasgau newydd.”

Yn sicr, mae’r cwmni wedi sylwi ar hyn, ac maent wedi gwobrwyo Amy am wella eu proses rheoli prosiectau, sydd wedi arwain at well gwelededd, cyfathrebu, olrhain ac adrodd i gefnogi prosiectau presennol a gwella’r paratoadau ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

“Mae’r ymrwymiad a ddangoswyd gan Amy i gwblhau ei phrentisiaeth wrth wneud swydd beirianneg llawnamser mewn sefydliad mor brysur yn dipyn o gamp, gan ei bod wedi delio’n rheolaidd â phwysau gwaith brys, terfynau amser y coleg ac arholiadau,” meddai Christian Teague, rheolwr prosiect gweithrediadau.

“Rwy’n credu bod ei phrentisiaeth wedi atgyfnerthu ei dewis gyrfa ym maes peirianneg ac wedi tanio brwdfrydedd gwirioneddol am reoli prosiectau. Mae’r ymrwymiad, y dycnwch a’r twf a ddangoswyd gan Amy drwy gydol y broses hon yn fy ngwneud yn falch iawn o’i chael hi fel rhan o’r tîm.”

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Amy a’r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.
“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o’n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phobl hwyl iddynt gyda’u hymdrechion yn y dyfodol.”

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: lyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 6 03000

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —