Dros 60 o gyflogwyr yn lleisio pryder ynghylch toriadau posibl i brentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae dros 60 o gyflogwyr o bob rhan o Gymru wedi dod ynghyd i alw am ddiogelu cyllid ar gyfer rhaglen brentisiaethau flaenllaw Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau ffyniant economaidd Cymru.

Evan in the laboratory

Mewn llythyr agored, mae cyflogwyr yn dweud y bydd y toriadau i’r rhaglen brentisiaethau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 19 Rhagfyr 2023 yn cael effaith ddinistriol ar brentisiaid, cyflogwyr, a chymunedau, gan arwain at gyfnod heriol iawn i’r sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.

Mae’r toriad arfaethedig o 24.5% – £38m – yn gyfuniad o doriad o 3.65% i’r gyllideb brentisiaethau a cholli’r cyllid a arferai ddod o’r Undeb Ewropeaidd. Daw’r toriad ar ben yr £17.5m a dorrwyd yn ddiweddar o’r gyllideb brentisiaethau.

Gallai olygu y bydd 10,000 yn llai o brentisiaid yn gallu dechrau’r flwyddyn nesaf, gyda’r gostyngiadau’n effeithio’n anghymesur ar bobl ifanc, a phobl yn y grwpiau economaidd-gymdeithasol isaf.

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a ColegauCymru wedi tynnu sylw yn y gorffennol at bryderon ynghylch yr effaith ar brentisiaethau ac arlwy ehangach addysg bellach pe bai cyllidebau’n cael eu lleihau.

Dywedodd cyfarwyddwr strategol NTFW, Lisa Mytton:
“Rhaid i ni ddweud ‘diolch yn fawr’ wrth y 65 o gyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth drwy dorri eu henwau ar y llythyr agored, yn mynegi eu pryder am y toriadau trychinebus y bwriedir eu gwneud i’r gyllideb brentisiaethau.

“Bydd yr effaith yn enfawr ar gyflogwyr sy’n talu’r ardoll brentisiaethau ac ar gyfleoedd miloedd o bobl ifanc Cymru ar gychwyn eu gyrfa. “Dydi hi ddim yn rhy hwyr, cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb derfynol ar gyfer 2024-’25 ar 27 Chwefror, i osgoi niwed trychinebus a di-droi’n-ôl i’r rhaglen brentisiaethau yng Nghymru.

“Mae sgiliau ac addysg bellach yn sylfaenol i’n hadferiad economaidd. Dyma’r amser i fuddsoddi yn ein dysgwyr a’n gweithwyr.”

Mae NTFW yn rhwydwaith o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru sy’n cyflenwi prentisiaethau i gyflogwyr mewn ystod eang o sectorau. Mae’r darparwyr yn ysbrydoli busnesau, eu gweithluoedd a’r gymuned ehangach ym mhob rhan o Gymru i ddefnyddio prentisiaethau i gyrraedd eu nod.

Mewn ymateb i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk:
“Wrth i Gymru ymdopi â chyfnod economaidd cythryblus, colegau yw’r peiriant sgiliau sy’n angenrheidiol i ysgogi ein hadferiad economaidd, ac mae’n hanfodol nad yw mewnfuddsoddiad y dyfodol yn cael ei niweidio.

“Mae’r gyllideb ddrafft yn gambl enfawr i economi a chymunedau Cymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru ailfeddwl a gwrthdroi’r penderfyniad trychinebus i dorri’r rhaglen brentisiaethau.”

Mae darparwyr hyfforddiant a cholegau addysg bellach yn sylfaenol er mwyn creu Cymru decach, wyrddach a chryfach, ond mae arnynt angen cyllid cynaliadwy fel y gallant gefnogi dysgwyr a gwasanaethu cyflogwyr.

Mae’r cyfuniad o’r toriadau i’r gyllideb brentisiaethau a gostyngiadau mewn cyllid mewn mannau eraill yn golygu bod storm berffaith yn wynebu’r sector o ganlyniad i’r cynigion yn y gyllideb ddrafft.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —