Goroesi ffrwydrad erchyll a chyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Jessica sitting at a desk in the nursery

Goroesodd Jessica Williams ffrwydrad ac mae wedi cyrraedd rownd derfynol Prentis Uwch y Flwyddyn.

Ar 24 Mehefin 2020, newidiodd bywyd Jessica Williams am byth. Diwrnod digon cyffredin oedd hwnnw i’r fam i ddau o blant o Flaendulais, a oedd wedi bod yn mwynhau’r heulwen gyda’i phlant cyn mynd adref i aros am ei phartner, Mike, i ddychwelyd o’r gwaith.

Ond cyn pen dim, cafodd Jessica, benyw 34 oed, a’i meibion ifanc eu claddu dan dunelli o rwbel ar ôl i ffrwydrad nwy annisgwyl ddymchwel eu tŷ teras, a gadael Jessica ag anafiadau a newidiodd ei bywyd.

Treuliodd fisoedd yn yr ysbyty yn cael nifer o lawdriniaethau, ond llai na thair blynedd yn ddiweddarach roedd wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Arwain a Rheoli Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant gyda’r darparwr hyfforddiant ACT, ac mae nawr yn defnyddio ei phrofiad erchyll i ysbrydoli a gwella eraill.

Bellach, mae Jessica ar y rhestr fer yng nghategori Prentis Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 .

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Wrth edrych yn ôl, dywedodd Jessica:
“Y diwrnod hwnnw, fe chwalodd fy myd a newidiodd fy mywyd. Mae’r ffaith i bawb ohonon ni oroesi yn wyrthiol.

“Pan es i nôl i ddysgu ym mis Mai 2021, roeddwn i’n ysu am gael fy mywyd mewn trefn. Diolch i’r brentisiaeth, rwyf wedi gweld cynnydd personol aruthrol.

“Rydw i wedi mynd o un pegwn i’r llall, o fod yn ddifrifol wael ac yn ymladd am fy mywyd, i fod yn arweinydd meithrinfa llwyddiannus. Mae’n anhygoel, ond mae wedi bod yn daith anodd.”

Fel arweinydd meithrinfa Sêr Bach y Cwm, sy’n feithrinfa Dechrau’n Deg yn Ysgol Golwg y Cwm yn Ystradgynlais, mae Jessica yn grymuso cydweithwyr ac yn gwella’r diwylliant gwaith tîm a hefyd wedi sicrhau tua £20,000 o gyllid i wella’r cyfleusterau.

“Mae Jessica yn aelod rhagorol o’r tîm ac mae’n cydweithio â’i phartner rhannu swydd er mwyn arwain y lleoliad i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r plant a’u teuluoedd,” meddai Judith Hickey, pennaeth yr ysgol.

“Mae stori Jessica yn wirioneddol ryfeddol – mae wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel 5 er gwaethaf damwain erchyll sydd wedi newid ei bywyd. Mae ei dycnwch wedi dod i’r amlwg, ac er gwaethaf yr heriau andwyol a niferus, mae Jess wedi ymdrechu i ddyfalbarhau a goresgyn unrhyw her a ddaw i’w rhan. ”

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Megan a’r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.
“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o’n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol.
Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phobl hwyl iddynt gyda’u hymdrechion yn y dyfodol.”‌

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: lyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 6 03000

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —