Dyfodol disglair o flaen Jacob, sy’n brentis peirianneg “eithriadol”

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Jacob at work

Jacob Marshall, peiriannydd “eithriadol.”

Mae dyfodol disglair o flaen y prentis peirianneg mecanyddol Jacob Marshall, sydd wedi creu argraff ar ei gyflogwr a’i asesydd gyda’i sgiliau a’i safon uchel o waith.

Mae Jacob, sy’n 20 oed ac yn byw ym Mhontypridd, yn cael ei gyflogi gan Combined Engineering Services (CES), cwmni peirianneg a dylunio ym Mrynmawr, mewn partneriaeth ag Aspire Blaenau Gwent, a ffurfiwyd yn 2015 er mwyn llenwi bwlch mewn sgiliau gweithgynhyrchu yn yr ardal.

Mae’n gobeithio cwblhau ei brentisiaeth yr haf hwn, ac mae eisoes wedi cwblhau cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg. Bellach, mae’n gweithio ar tuag at Dystysgrif Genedlaethol Uwch Lefel 4 mewn Peirianneg yng Ngholeg Penybont a hoffai symud ymlaen i astudio Diploma Cenedlaethol Uwch.

Mae Jacob nawr wedi cael ei roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 fel un sydd wedi cyrraeddgyfer y rownd derfynol yng nghategori Talent Yfory.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW). Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Mae CES yn meithrin gweithwyr ac yn rhoi hyfforddiant mewnol cynhwysfawr iddynt, gyda chymorth Aspire Blaenau Gwent. Mae prentisiaid peirianneg yn ennill profiad eang yn y gweithdy gyda’r nod o gynhyrchu gwneuthurwyr offer cwbl gymwys a fydd yn datblygu gyda’r busnes wrth iddo ehangu.

Wedi’i fentora gan wneuthurwr offer profiadol, mae Jacob wedi rhagori ar ddisgwyliadau’r cwmni, gan gyflawni gwaith o ansawdd uchel yn gyson, cwrdd â therfynau amser prosiectau a helpu ei dîm i ragori ar ei darged perfformiad blynyddol.

Mae’n hapus i ymgymryd â gweithgareddau heriol. Yn ddiweddar, pan oedd ei gydweithwyr yn brysur yn gweithio ar archeb fawr, gofynnwyd i Jacob a dylunydd arall addasu peiriant pwysig. Gwnaed hyn yn amserol ac yn llwyddiannus.

“Heb os, mae Jacob yn gaffaeliad i’r cwmni ac mae’n cael effaith gadarnhaol iawn ar ffigurau gwerthiant pob mis,” meddai Stephen Williams, rheolwr gyfarwyddwr CES. “Rydym yn disgwyl iddo ddod yn rhan annatod o’r tîm, gan wneud cyfraniad pendant i lwyddiant a thwf yr adran.”

Dywedodd Jacob, sy’n parhau yn nhraddodiad y teulu o weithio fel peirianwyr: “Rwy’n sicr yn meddwl mai prentisiaethau yw’r dyfodol oherwydd rwy’n ennill cyflog wrth ddysgu mewn swydd rwy’n dwlu arni.”

Dywedodd David Rees, cydlynydd prentisiaethau Coleg y Cymoedd ar ran Aspire: “Mae Jacob yn brentis eithriadol, mae’n gorgyflawni yn gyson yn ei astudiaethau academaidd. Mae ei sylw at fanylion, brwdfrydedd a natur hoffus wedi cyfuno i greu peiriannydd rhagorol ar gyfer y dyfodol.”

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Jacob a’r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.
“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o’n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phobl hwyl iddynt gyda’u hymdrechion yn y dyfodol.”

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL:
“Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: lyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 6 03000

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —