Katie yn canolbwyntio ar gyrraedd targedau newid hinsawdd Rhondda Cynon Taf

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Katie on site wearing hi-vis clothing

Katie Trembath, yn canolbwyntio ar gyrraedd targedau newid hinsawdd.

Mae’r Prentis Uwch, Katie Trembath, yn rhan allweddol o ymdrech Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gyrraedd targedau heriol ar newid hinsawdd a datgarboneiddio.

Fel swyddog lleihau carbon, mae Katie, sy’n 27 oed ac yn dod o Gwm Clydach, yn ymwneud â datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr, gan gynnwys datblygu fferm solar chwe megawat a chynlluniau trydan dŵr, yn ogystal ag ystod o waith arall i leihau ôl troed carbon y cyngor.

Mae sgiliau a gwybodaeth a ddysgwyd ganddi yn ystod ei Phrentisiaeth Uwch mewn Rheoli Prosiectau, a gyflwynwyd gan ALS Training, a chymhwyster Prince2 yn allweddol i’w gwaith. Mae ôl-radd i ategu ei dyletswyddau hefyd yn opsiwn yn y dyfodol.

Mae Katie nawr wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 fel un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Talent Yfory.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW). Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Mae Katie wedi rhagori ar ddisgwyliadau drwy reoli prosiectau a dod o hyd i atebion arloesol i heriau wrth i’r cyngor geisio dod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.

Ar ôl cael Gradd Prifysgol Agored mewn Gwyddorau Amgylcheddol a Daearyddiaeth, cafodd Katie swydd gan y cyngor fel swyddog graddedig ynni a lleihau carbon ym mis Mehefin 2022. Cyn hynny, bu’n gweithio ym maes rheoli manwerthu am saith mlynedd, gan ennill Prentisiaeth mewn Rheoli Manwerthu.

Mae’n frwdfrydig dros leihau carbon ac ynni adnewyddadwy, mae’n rhannu arfer gorau gyda chynghorau eraill ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Garbon, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, tirfeddianwyr a pheirianwyr.

“Rwyf wedi bod â diddordeb mewn ynni adnewyddadwy a lleihau carbon ers yn ddim o beth, sy’n amserol iawn gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi pwysau ar y sector cyhoeddus yng Nghymru i fod yn Sero Net erbyn 2030,” meddai Katie.

“Does dim dwywaith bod y brentisiaeth uwch wedi fy helpu yn fy ngwaith ac mae’n berffaith ar gyfer rheoli prosiectau. “Rwyf am ddatblygu fy ngyrfa wrth wneud gwahaniaeth yn y gymuned lle rwy’n byw.”

Dywedodd Jon Arroyo, rheolwr ynni a lleihau carbon Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae Katie wedi profi i fod yn gaffaeliad gwych i’r Tîm Ynni Ystadau Corfforaethol a bydd ganddi ddyfodol cyffrous yn gweithio gyda thechnolegau newydd ac arloesol i fynd i’r afael â’r her Sero Net.

“Mae ei hymroddiad a’i hymrwymiad i’w gwaith wedi bod yn rhagorol a bydd yn sicr yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â her newid hinsawdd fwyaf y byd.”

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Katie holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.
“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o’n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phobl hwyl iddynt gyda’u hymdrechion yn y dyfodol.”

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL:

“Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: lyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 6 03000

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —