Cynhadledd i ganolbwyntio ar brentisiaethau a sgiliau i sicrhau twf economaidd

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Caiff cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) ei hatgyfodi ym mis Mawrth ar y thema ‘Prentisiaethau, Sgiliau ar gyfer Twf Economaidd yng Nghymru’.

Gyda chynlluniau dadleuol Llywodraeth Cymru i leihau cyllid prentisiaethau yn gefnlen iddi, bydd y gynhadledd a gynhelir yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru), Casnewydd ar 22 Mawrth, yn ystyried ac yn trafod sut y mae prentisiaethau o fudd i Gymru.

Apprentices at Persimmon Homes in Swansea

Prentisiaid yn Persimmon Homes yn Abertawe

Y prif siaradwyr fydd Rhian Edwards, dirprwy gyfarwyddwr addysg bellach a phrentisiaethau yn Llywodraeth Cymru a Philip Blaker, prif weithredwr Cymwysterau Cymru.

Y siaradwyr eraill fydd cyfarwyddwr strategol NTFW Lisa Mytton, rheolwr polisi, rhanddeiliaid a phartneriaethau City & Guilds (y Cenhedloedd ac Iwerddon) Angharad Lloyd Beynon, a phrif weithredwr Agored Cymru Darren Howells. City & Guilds yw noddwr pennaf y gynhadledd.

Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar “fynd ati heddiw i adeiladu llwyddiant yfory” a bydd yn cynnwys trafodaeth gan banel o gyflogwyr. Bydd y cynadleddwyr yn trafod sut i gyflawni potensial trwy brentisiaethau, grymuso pobl ar gyfer y dyfodol, grymuso cyflogwyr a sbarduno ffyniant economaidd.

Bydd y gweithdai’n cynnwys ‘Economi a seilir ar sgiliau yng Nghymru: Tyfu BBaChau trwy ddatblygu sgiliau’, sef pwnc Ben Cottam o FSB Cymru. ‘Meincnodi trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau’ fydd testun Emma Banfield, rheolwr prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, a ‘Cymraeg 2050 – datblygu gweithlu ar gyfer Cymru ddwyieithog’ fydd yn cael sylw Lisa O’Connor, rheolwr academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Ymhlith y gweithdai eraill bydd ‘Recriwtio, cadw staff a rheoleiddio proffesiynol’ gyda Hayden Llewellyn, prif weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg, ‘Yr Asesydd a’i rôl ganolog ac allweddol ym mhrofiad y prentis’ gyda Mark Evans a Jassa Scott o Estyn, a ‘Stigma iechyd meddwl mewn gweithleoedd’ gyda Rachelle Bright o Amser i Newid Cymru (TtCW).

‘Archwilio sut y gall technolegau digidol wella profiad prentisiaid o ran dysgu ac asesu’ fydd pwnc Dean Seabrook, uwch-reolwr cymwysterau, Cymwysterau Cymru a bydd Rhys Daniels a Michael Webb o Jisc Cymru yn canolbwyntio ar ‘Ffeindio’ch ffordd trwy gyfleoedd a heriau AI’.

Dywedodd Angharad Lloyd Beynon, rheolwr polisi, rhanddeiliaid a phartneriaethau City & Guilds (y Cenhedloedd ac Iwerddon):
“Mae City & Guilds yn falch o gael bod yn noddwr pennaf cynhadledd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, gan bwysleisio sut y gall prentisiaethau a sgiliau sbarduno twf economaidd. Rydym yn credu mewn grymuso unigolion â’r wybodaeth a’r arbenigedd i hybu ffyniant, gan feithrin dyfodol lle mae sgiliau’n llunio economi lewyrchus.”

Gallwch brynu tocynnau o ntfw.org/wel/cynhadledd-ntfw-2024. Os hoffech fanylion pecynnau noddi eraill y gynhadledd, cysylltwch â rheolwr cyfathrebu a marchnata NTFW, Karen Smith ar 07425 621709 or ebostio: Karen.Smith@ntfw.org.

Gyda’r nos, ar ôl y gynhadledd, bydd cinio i gyflwyno Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yn yr un man.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —