Cyllid i staff Prentisiaethau, Hyfforddeiaethau a DSW i helpu ag Allgáu Digidol ac Iechyd Meddwl

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Pan ddaeth y cyfnod clo cyntaf a’r angen i gadw pellter cymdeithasol ym Mhrydain ym mis Mawrth 2020, llwyddodd darparwyr dysgu seiliedig ar waith i gyflwyno dulliau dysgu o bell. Bu’n rhaid parhau â’r drefn honno wrthi ni wynebu cyfnodau clo eraill. Fodd bynnag, daeth yn amlwg bod llawer o ddysgwyr heb y dyfeisiau, y feddalwedd na’r gallu i gysylltu â’r rhyngrwyd er mwyn parhau i ddysgu o bell.

Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi cyllid o £1.6 miliwn i gefnogi rhai sy’n cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith ar hyfforddeiaethau a phrentisiaethau ledled Cymru, gan helpu darparwyr i sicrhau bod eu dysgwyr yn gallu cymryd rhan mewn dulliau dysgu digidol a dysgu o bell. Bu’r arian yn help i ddarparwyr fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau cyffredin oedd yn golygu bod dysgwyr wedi’u hallgáu’n ddigidol neu fod ganddynt ofynion ychwanegol er mwyn cymryd rhan yn y dysgu.

Bydd y cymorth hwn yn ei gwneud yn haws i’r dysgwyr hyn gymryd rhan a symud ymlaen. Roedd llawer ohonynt o dan anfantais am nad oedd ganddynt offer digidol a meddalwedd addas, neu ddim ond cyfle cyfyngedig i’w defnyddio, ac nad oedd ganddynt gysylltiad dibynadwy â’r rhyngrwyd, os o gwbl.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros £500k o gyllid ychwanegol i’r sector dysgu seiliedig ar waith i hybu iechyd meddwl a lles dysgwyr a staff. Mae hyn yn cydnabod effaith Covid-19 a’r pandemig ar iechyd meddwl a lles dysgwyr ac ymarferwyr. Mae’n help mawr fel y gall darparwyr ddal ati i gynnig rhai o’r dulliau arloesol y maent wedi’u cyflwyno er mwyn sicrhau bod iechyd meddwl a lles dysgwyr a gweithwyr dysgu seiliedig ar waith yn dal i gael blaenoriaeth yn ystod y pandemig.

Defnyddiwyd yr arian tuag at sesiynau cwnsela ar gyfer staff a dysgwyr, gweithgareddau DPP ar gyfer ymarferwyr, ymwybyddiaeth ofalgar a chostau staffio. Mewn rhai achosion, mae wedi golygu bod darparwyr wedi gallu ehangu’r hyn a gynigir ganddynt i gynnwys gweithgareddau’n ymwneud â iechyd meddwl dysgwyr.

Tasg yr NTfW fu cydlynu’r cynlluniau, cynnig arweiniad i’r darparwyr ar y broses ymgeisio a chaffael a chydweithio’n uniongyrchol â Llywodraeth Cymru ar ran y rhwydwaith darparwyr er mwyn sicrhau bod y broses o sicrhau’r cyllid yn gweithio’n esmwyth. Yn ogystal, bydd yr NTfW yn cyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru’n gwerthuso’r defnydd a wnaed o’r arian a’r effaith a gafodd.

More News Articles

  —