Billy Elliott’ Pen-y-bont ar Ogwr yn dawnsio i’r brig

Postiwyd ar gan karen.smith

Adam Taylor - Dysgwr Cymhwyster Galwedigaethol (VQ) y Flwyddyn 2012

Mae ‘Billy Elliott’ go iawn o Ben-y-bont ar Ogwr, sydd wedi achosi effaith anferthol ar y byd dawns gyda’r fath o ddawn ac ymrwymiad nad oedd bron byth wedi cael ei weld gan ei diwtoriaid coleg o’r blaen, wedi ennill gwobr Cymru-eang am ei ymdrechion.

Enwyd Adam Taylor, 18, o Ben-y-bont ar Ogwr, fel Dysgwr Cymhwyster Galwedigaethol (VQ) y Flwyddyn, gwobr a gynhelir yn flynyddol er mwyn nodi Dydd VQ (20 Mehefin), ac i ddathlu cyflawniadau’r rhai hynny sydd wedi rhagori mewn dysgu ymarferol a chysylltiedig â gwaith.

Cymeradwywyd Adam am ei frwdfrydedd ac angerdd am ddawns, rhywbeth sydd eisoes wedi ennill nifer o anrhydeddau iddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ar raglen ‘Don’t Stop Believing’ Sianel 5 ill dau. Cydnabyddwyd y dyn ifanc hefyd gydag ysgoloriaeth o £60,000 i ysgol ddawns glodfawr yn Llundain.

Gorchfygodd Adam gystadleuaeth gadarn gan bum dysgwr arall o bob rhan o Gymru, bob un wedi’i roi ar y rhestr fer oherwydd ei ymrwymiad a thalent a ddangoswyd tra’n ennill cymwysterau galwedigaethol o golegau a chanolfannau hyfforddi.

Cyflwynwyd y gwobr i’r egin ddawnsiwr, gan gyn-seren rygbi Jonathan Davies mewn seremoni wobrwyo broffil-uchel a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, i ddathlu Dydd VQ.

Wrth siarad am y gwobr Dysgwr Cymhwyster Galwedigaethol y Flwyddyn (VQ), fe dywedodd Adam: “Yr wyf wrth fy modd fy mod wedi ennill y gwobr, roedd yn sioc anferthol ond rwy’n falch iawn.

“Fe wnes i ddechrau dawnsio pan oeddwn i’n 12 mlwydd oed ac fe wneud i gwympo mewn cariad gyda fe, fe wnaeth rhai pobl dweud eu bod yn meddwl fod gen i’r ddawn i’w wneud fel gyrfa felly fe wnes i benderfynu cofrestri yng Ngholeg Pen-y-Bont ar Ogwr.

Pan oeddwn i yno fe wnaeth fy nhiwtoriaid awgrymu i mi wneud cais i Ysgol Celfyddydau Perfformio Bird yn Llundain, roedd yna dros 20,000 o geisiai ond roeddwn i’n un o’r rhai lwcus ac fe ges i fy ngwobrwyo gyda ysgoloriaeth, rwy’n caru pob munud ohono.

Ar ôl i mi orffen hyfforddi dwi eisiau perfformio yn y West End am rhai blynyddoedd ond wedyn fe hoffwn i ddod yn ôl i Gymru i ddechrau ysgol dawnsio fy hun ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.”

Enwebwyd Adam, sy’n ddeunaw oed, gan ei diwtor yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr ble mae e wedi creu argraff gyda’i ymrwymiad i ddysgu, sydd wedi’i helpu wrth gyflawni clod triphlyg mewn Diploma Lefel 3 mewn Theatr Gerddorol.
Yn sgil perfformiadau anghygoel mewn dawns bale, jas, tap a hip hop mae’r dyn ifanc yn ei ar-ddegau wedi derbyn gwobr o ysgoloriaeth dair blynedd o £60,000 yng Ngoleg Celfyddydau Perfformio Bird byd-enwog yn Llundain.
Mae Adam hefyd wedi gwibio i enwogrwydd ar y sgrin fach trwy ei aelodaeth o’r grŵp dawnsio lleisiol TrueDynamix a gyrraeddodd rownd derfynol rhaglen chwilio am dalent Sianel 5, ‘Don’t Stop Believing’

Cynhelir Dydd VQ yn flynyddol i ddathlu llwyddiant miloedd o bobl ledled Cymru sy’n cyflawni gymwysterau galwedigaethol yn llwyddiannus, mewn amrywiaeth eang o bynciau fel saernïaeth, therapi prydferthwch a gofal plant. Fe’i trefnir yng Nghymru gan Golegau Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac fe’i ariannir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Llongyfarchodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert, bawb oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar eu cyflawniadau, ymrwymiad a thalent sy’n eu gosod ar wahân i’w cyfoedion.

Meddai: “Hoffwn longyfarch Adam Taylor ar ennill gwobr eleni. Mae e a phob un o derfynwyr eleni wedi profi y gallwch chi fynd ymhell gyda chymwysterau galwedigaethol ac rwy’n gobeithio y bydd eu storïau’n ysbrydoliaeth i bobl eraill. Yn aml dydy cymwysterau galwedigaethol ddim yn mwynhau’r proffil uchel maen nhw’n ei haeddu ond maen nhw’n aruthrol o werthfawr wrth baratoi pobl ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus mewn llawer o feysydd gwahanol. Mae safon y dysgu galwedigaethol hyn, fel a arddangosir gan y bobl ragorol yma, yn gonglfaen dyfodol Cymru fel economi cystadleuol.”

Y pum terfynwr arall oedd darpar beiriannwr Scott Kihlberg, 22, o Benarth, gweithwraig ofal a datblygiad plant, Sian Preddy, 37, o Ben-y-bont ar Ogwr, a orchfygodd fyddardod dwfn i gyflawni marciau uchaf yn ei chwrs gradd sylfaenol.
Hefyd yn y ras oedd y seren gwallt a phrydferthwch ar ei chynnydd, Charlotte Nicholls, 22, o Wrecsam, hyfforddwraig chwaraeon dan hyfforddiant a neidwraig uchel, Sian Swanson,19, o’r Drenewydd, a dewin cigyddiaeth, Tomos Hopkin, 18, o Bontardawe.

Mae eu storïau o lwyddiant yn cynrychioli storïau cannoedd o ddysgwyr ar draws Cymru sy’n dangos y ffordd i nifer gynyddol o bobl ifanc yng Nghymru sy’n dewis dilyn dysgu galwedigaethol bob blwyddyn.

Wrth siarad yn y digwyddiad Dydd VQ Day amlygodd y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, llysgennad Dydd VQ a chyn-brentis, Jonathan Davies, y pwysigrwydd o hyfforddiant galwedigaethol tra’n canmol cyflawniad Adam.

Meddai Mr Davies: “Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd dysgu sgiliau galwedigaethol, baswn i’n annog dysgwyr a phobl ifanc yng Nghymru i wneud y gorau o gyfleoedd ar gyfer dysgu ymarferol a hyfforddiant gweithredol, mae’r amgylchedd gweithio’n cynyddu hyder a hunan-barch tra’n darparu’r gallu i ddelio â phobl o bob cefndir.

“Dw i wrth fy modd i fod yn Llysgennad Dydd VQ yng Nghymru ac i gyflwyno’r seremoni wobrwyo. Roedd yn anrhydedd i gwrdd â’r terfynwyr, hoffwn i eu canmol nhw am eu dysgu ac yn arbennig Adam am ei gyflawniadau rhagorol ym myd dawns.”

More News Articles

  —