Taflen Newyddion NTfW – Mehefin 2012

Postiwyd ar gan admin










Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Apprenticeships Awards Cymru

Wythnos yn unig sy’n weddill cyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais – hanner dydd ar dydd Iau 28 Mehefin. A ydych chi wedi cyflwyno cais eto?

Bydd Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n cydnabod llwyddiant unigolion, cyflogwyr a darparwyr dysgu mewn 13 dosbarth gwahanol.

Cliciwch yma i gael gwybod rhagor ac i lawrlwytho’r ffurflenni ymgeisio:
Fersiwn Saesneg »
Fersiwn Gymraeg »

Yn ôl i’r brig »

Arian am Oes

Money For Life Challenge Winners

Yn dilyn llwyddiant ardderchog tîm Her Arian am Oes Cymru, Don’t Buy Posh, Save Your Dosh o ACT Pen-y-bont ar Ogwr yn Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig yn Llundain ym mis Mai, mae NTfW a ColegauCymru wedi cytuno i weithio gyda Lloyds TSB fel y partneriaid yng Nghymru ar gyfer y prosiect y flwyddyn nesaf eto. Bydd y prosiect yn dechrau ym mis Medi 2012 ac fe gynhelir lansiad llawn cyn y gystadleuaeth. Os hoffech gymryd rhan yn y prosiect neu gael rhagor o wybodaeth am y prosiect a’r cyllid sydd ar gael, ewch i www.moneyforlifechallenge.org.uk

I weld manylion buddugoliaeth ardderchog y tîm yn Llundain ym mis Mai, cliciwch yma

Os hoffech wybod rhagor neu os oes gennych gwestiwn, cysylltwch â Clara Weekley. Ebost: clara.weekley@ntfw.org

Yn ôl i’r brig »

Rhaglen Cynllun Peilot y Gronfa Blaenoriaethau Sector (SPFP)

Arweinir y Rhaglen SPFP gan yr Adran Addysg a Sgiliau (DfES) a’i nod yw treialu gweithgareddau strategol ar brosiectau gyda’r Cynghorau Sgiliau Sector er mwyn llunio argymhellion a fydd yn sicrhau bod y ddarpariaeth sgiliau ôl-16 yn cael ei chyflenwi mewn ffordd sy’n fwy ymatebol i anghenion cyflogwyr ac yn cyfateb yn well iddynt.

Disgwylir i’r Rhaglen SPFP gyfrannu at gynlluniau i ddiwygio dulliau cyllido addysg ôl-16 (ac eithrio Addysg Uwch) ac felly bydd yn targedu’r cymorth at unigolion, dros 16 oed, gyda hyfforddiant cysylltiedig yn golygu y gallant symud ymlaen o Lefel 1, i Lefelau 2, 3 a 4.

Bydd Gwasanaeth Eiriolwyr yr SPFP yn rhoi gweithgareddau a gychwynnwyd yn llwyddiannus yn y cyfnod peilot ar brawf ac yn eu gwneud yn rhan annatod o’r gwasanaeth. Bydd cysylltiadau estynedig gyda rhanddeiliaid allweddol yn y rhwydweithiau cyflogwyr a darparwyr yn help mawr i ganfod y sgiliau sydd ar gael a’r rhai y mae angen amdanynt yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae’r Gwasanaeth Eiriolwyr presennol yn cynnwys pedwar Eiriolwr Sector SPFP sy’n gysylltiedig â chlystyrau o Gynghorau Sgiliau Sector a phedwar Eiriolwr Rhanbarthol SPFP sy’n gysylltiedig â gwahanol ranbarthau yng Nghymru – y De Ddwyrain, y De, y De Orllewin a’r Canolbarth, a’r Gogledd.

Y De Ddwyrain – Andy Dodge, NTfW
Y De – Rachel Searle, NTfW
Y De Orllewin a’r Canolbarth – Beverley Wilson-Smith, Coleg Gŵyr, Abertawe/Y Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol
Y Gogledd – Rebecca Irving, Prifysgol Glyndwr

Isod, ceir copi o Brospectws Rhaglen Cynllun Peilot y Gronfa Blaenoriaethau Sector (SPFP).
Click to download full report
Saesneg yn unig

Yn ôl i’r brig »

Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru

Leadership & Management Wales

Yn dilyn llwyddiant y prosiect ymchwil eleni rhwng NTfW ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru (ARhC ) i anghenion Microfusnesau yng Nghymru o ran hyfforddiant arweinyddiaeth a rheolaeth, gofynnwyd i NTfW gyflwyno rhagor o bynciau ymchwil posib sydd o ddiddordeb i’r rhwydwaith ac i ARhC.

Mae croeso i aelodau gynnig ymateb neu awgrymiadau addas ar gyfer meysydd ymchwil y gallai ARhC ystyried eu hariannu.

Gallwch ebostio’ch sylwadau at clara.weekley@ntfw.org

Yn ôl i’r brig »

Ymchwiliad i Brentisiaethau

Mae Pwyllgor Menter a Busnes Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal Ymchwiliad i Brentisiaethau yng Nghymru. Gofynnwyd i NTfW ddarparu tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i’r Pwyllgor.

Roedd hwn yn ymchwiliad allweddol i’r sector Dysgu Seiliedig ar Waith, NTfW a’i Aelodau. Felly, roedd yn bwysig bod NTfW yn cyflwyno ymateb mor gryf a chyflawn ag oedd modd er mwyn adlewyrchu gwybodaeth, cryfderau a phrofiad yr Aelodau.

Gofynnodd Bwrdd NTfW i Andy Dodge a Rachel Searle (Eiriolwyr Rhanbarthol Cynllun Peilot y Gronfa Blaenoriaethau Sector (SPFP) sy’n gweithio gydag NTfW) i gynnal ymgynghoriad helaeth i sicrhau bod yr ymateb ysgrifenedig yn cynrychioli barn aelodau NTfW.

Cafodd yr holl dystiolaeth ei chasglu ynghyd mewn adroddiad cynhwysfawr ac fe gafodd yr adroddiad, ynghyd â’r dystiolaeth lafar, dderbyniad da gan y Pwyllgor.

Ceir copi o’r adroddiad isod.
Click to download full report
Saesneg yn unig

Yn ôl i’r brig »

Dinasyddiaeth Fyd-eang

Samaritans National Awareness Day

24 Gorffennaf 2012 – Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o’r Samariaid

Ar 24 Gorffennaf 2012, mae’r Samariaid yn bwriadu codi ymwybyddiaeth o’r gwaith y maent yn ei wneud a chodi arian i’w helpu â phrosiectau. Bydd yr holl arian a godir yn mynd at y Samariaid, sydd yno i helpu pawb. Cychwynnwyd yr elusen ym 1953 ac erbyn hyn mae ganddi 202 o ganghennau a dwsinau o wirfoddolwyr sy’n barod i helpu pobl. Ewch i’r wefan i gael gwybod am ddigwyddiadau, sut y gallwch chi helpu a’r gwaith ardderchog a wneir gan yr elusen hon www.samaritans.org

Yn ôl i’r brig »

News from the Regions

Acorn Learning Solutions

Lisa Mytton

Arwisgwyd Lisa Mytton, Pennaeth Ansawdd gydag Acorn Learning Solutions Ltd, yn Faer Merthyr Tudful ar 16 Mai 2012. Etholwyd Lisa’n gynghorydd annibynnol ym Merthyr yn 2008 ac mae’n cynrychioli ward Vaynor.

Gŵr Lisa, Philip, fydd y Maer Cydweddog a fydd yn ei chefnogi yn ystod ei chyfnod yn y swydd.

Meddai Lisa: Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael bod yn Faer Merthyr Tudful. Hoffwn ddiolch i fy nghydgynghorwyr, fy nheulu, fy ffrindiau a fy nghydweithwyr am eu holl gefnogaeth.

Yn ôl i’r brig »

Viva Espana – Dros y Môr I Drin Gwallt

ISA Training

Mae deg o bobl ifanc o Gymru a Lloegr sy’n trin gwallt am gael cyfle gwych i ennill profiad yn y maes yn Sbaen fel rhan o gynllun cyfnewid arloesol yr haf nesaf.

ISA Training, o Ben-coed ger Pen-y-bont ar Ogwr, yw’r darparwr hyfforddiant annibynnol mwyaf ym maes trin gwallt yng Nghymru ac mae wedi sicrhau cyllid ar gyfer prosiect symudedd gan Raglen Leonardo sy’n rhan o Raglen Dysgu Gydol Oes y Comisiwn Ewropeaidd.

Hwn yw’r prosiect mwyaf o’i fath yng Nghymru ar gyfer pobl sy’n cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith ac yn gweithio tuag at brentisiaeth. Y nod yw rhoi pythefnos o brofiad gwaith yn Tarragona, Sbaen ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf i ddeg o bobl sy’n dysgu sgiliau trin gwallt yn y gweithle.

Bydd dau asesydd galwedigaethol o ISA Training yn mynd gyda’r dysgwyr ac yn asesu eu profiadau yn erbyn safonau City & Guilds er mwyn eu hachredu.

Gwahoddir dysgwyr i wneud cais am y 10 lle a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus a’r ddau asesydd yn mynd ar gwrs Sbaeneg cyn teithio i Tarragona.

Bu rheolwr gyfarwyddwr ISA Training, Shirley Davis-Fox, a’r cyfarwyddwr gweithrediadau, Berni Tyler, yn Sbaen ym mis Ionawr i greu cysylltiadau â’r sefydliad a fydd yn eu croesawu, Institut Cal Lipolis, ysgolion a lletywyr.

Y nod yw meithrin cysylltiadau fel y gellir cyfnewid dysgwyr rhwng Cymru a Sbaen er mwyn iddynt gael profiad o weithio mewn gwahanol wledydd.

Bydd y daith i Sbaen yr haf nesaf yn benllanw dros ddwy flynedd o waith paratoi ar brosiect ‘Oyster’ ISA Training, a seilir ar y dywediad ‘The world is your oyster’. Mae’r cwmni’n awyddus i annog dysgwyr i fanteisio ar gyfleoedd i ddysgu mewn gwledydd eraill.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod Rhaglen Leonardo wedi cymeradwyo’n prosiect ni. Mae hyn yn ddatblygiad gwych yn y prosiect ‘Oyster’,” meddai Mrs Davis-Fox, sy’n aelod o’r Cyngor Trin Gwallt.

“Yn ogystal ag arwain pobl ifanc trwy raglenni dysgu seiliedig ar waith ym maes trin gwallt, rydym yn eu hannog i anelu at y sêr.

“Mae mwy i drin gwallt na shamp_io a thorri gwallt; mae’n yrfa gyffrous a heriol sy’n cynnwys timau artistig, sesiynau tynnu lluniau a steilio ar gyfer sioeau ffasiwn ac rydyn ni’n awyddus i’r dysgwyr gael profiad o’r holl agweddau gwahanol.

“Ein nod yw cynnig cyfleoedd dysgu gwerthfawr i ddysgwyr a staff yng Nghymru, Prydain, Ewrop a’r byd. Mae’r byd yn fach ac mae angen i ni gynnig cyfleoedd cyffrous i bobl sy’n dysgu yn y gweithle. Mae gennym ni lawer i’w ddysgu gan wledydd eraill ac fe allan nhw ddysgu gennym ninnau hefyd.”

Mae ISA Training yn rhedeg rhaglen cyfnewid dysgwyr eisoes, gan gynnig profiadau dysgu i brentisiaid o Gymru mewn salons mewn gwahanol rannau o Gymru a dros y ffin yn Lloegr.

Yn ôl i’r brig »

Gwobr Cyflogai mewn Dysgu

Peter Jarvis

Gadawodd Peter Robert Jarvis, 28 oed, o Gaerdydd, yr ysgol yn 16 oed heb gymwysterau. Mae gan Peter nam difrifol ar ei glyw ac mae’n dibynnu’n llwyr ar gymhorthion clyw i glywed. Mae’n dibynnu ar y rhain ers i salwch amharu ar ei glyw pan oedd yn 7 oed.

Ers iddo ddechrau gweithio fel porthor cegin yng ngwesty Churchills, Caerdydd yn 2005, mae Peter wedi gweithio’n galed ac erbyn hyn mae ganddo NVQ Lefel 2 mewn Sgiliau Coginio. Mae’r llwyddiant wedi gwneud y byd o les iddo – mae’n fwy hyderus ac mae wrth ei fodd yn coginio. Ers 2011, mae Peter yn gyfrifol am baratoi, coginio a gorffen prydau ar gyfer y bwyty, sef yr hyn y mae’n cael y pleser mwyaf o’i wneud.

Mae’n gweithio tuag at Lefel 3 ac wedyn bydd yn gallu symud ymlaen i fod yn gogydd proffesiynol.

‘Roeddwn i’n teimlo’n negyddol iawn gan nad oeddwn i’n dod ymlaen yn dda yn fy ngyrfa,’ meddai Peter. ‘Ond newidiodd fy mywyd pan gwrddais i â Delyth Davies sydd wedi fy enwebu. Roedd gan Delyth agwedd hamddenol iawn. Roedd hi’n gwneud i mi gredu ynof fi fy hunan ac yn cael y gorau allan ohona i. Mae fy mywyd wedi newid yn llwyr ac rwy’n methu credu fy mod i wedi cael cyfle i symud ymlaen i Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol.

‘Fyddwn i ddim wedi gallu symud ymlaen heb gael hwb gan westy Churchills a Delyth Davies i wella fy hunan. Rwy’n gallu dweud yn hyderus wrth bobl sydd yn yr un sefyllfa ag oeddwn i ei bod yn werth mynd yn ôl i ddysgu ac rwy’n gallu dangos sut rydw i wedi symud ymlaen i gael cymwysterau da. Dydi hi byth yn rhy hwyr; y cyfan y mae arnoch ei angen yw rhywun i gredu ynoch chi.’

Yn ôl i’r brig »

Cwrs yng Ngwersyll Kinmel yn helpu i drawsnewid bywydau pobl ifanc – a chyfle i sôn am y profiad yn San Steffan

MP Chris Ruane with Kinmel Camp Graduates

Mae Chris Ruane AS wedi gwahodd 23 o bobl ifanc o ysgolion Sir Ddinbych i gael te gydag ef yn Nhŷ’r Cyffredin ac i ddweud wrth ei gydaelodau sut y mae cwrs datblygiad personol yng Ngwersyll Kinmel wedi helpu i drawsnewid eu bywydau.

Roedd y bobl ifanc 15 a 16 oed yn rhan o Brosiect Potensial Sir Ddinbych a gafodd gymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych. Enwebwyd y myfyrwyr gan gydlynwyr eu hysgolion i fynd ar y cwrs 30-sesiwn fis Medi diwethaf, fel llwybr dysgu gwahanol er mwyn cynyddu presenoldeb, brwdfrydedd a diddordeb.

Datblygwyd prosiect Potensial gan Dîm 14-19 Cyngor Sir Ddinbych yn dilyn prosiect peilot llwyddiannus o’r enw Engage yn Ysgol Uwchradd y Rhyl yn 2010/11. Mae holl ysgolion uwchradd Sir Ddinbych yn cymryd rhan ym Mhrosiect Potensial tan 2014.

Roedd y myfyrwyr a lwyddodd i gwblhau’r cyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus a Sgiliau Gwaith yn dod o Ysgol Uwchradd y Rhyl, Ysgol Brynhyfryd, Ysgol Glan Clwyd, Ysgol Dinas Bran ac Ysgol Blessed Edward Jones.

Meddai Mr Ruane: “Mae’r bobl ifanc hyn wedi creu argraff fawr arna i – maen nhw wedi trawsnewid eu bywydau’n llwyr. Bydd yn bleser gen i eu croesawu fel gwahoddedigion personol i D_’r Cyffredin a chael dangos sut y mae ysgolion Sir Ddinbych yn gosod esiampl y dylai pobl eraill ddysgu oddi wrthi.”

Dywedodd Mr Ruane fod llwyddiant y bobl ifanc yn rhan o welliant ehangach yn niwylliant ysgolion y sir. Roedd llawer llai o absenoldeb a gwaharddiadau nag y bu yn Ysgol Uwchradd y Rhyl yn neilltuol, meddai, ac roedd llwyddiant academaidd y plant wedi gwella. Talodd Mr Ruane deyrnged i Adran Addysg Cyngor Sir Ddinbych am godi safonau addysg yn y sir.

Dechreuodd Ysgol Uwchradd y Rhyl gymryd rhan yn rhaglen Gwersyll Kinmel yn ystod cynllun peilot Engage ac, oherwydd ei lwyddiant, mae wedi’i ehangu i holl ysgolion Sir Ddinbych eleni trwy fframwaith Potensial. Mae’n defnyddio dulliau tebyg i rai’r fyddin i ddysgu disgyblaeth, hunanhyder, gwaith tîm, arweinyddiaeth, onestrwydd, parch atoch eich hunan ac eraill, a dyhead i gyflawni mwy mewn bywyd.

Yn ôl Martin Craven o Hyfforddiant Gogledd Cymru a gynlluniodd y rhaglen ac sydd yn ei chyflenwi: “Mae’r cwrs yn dipyn o her ond mae wedi cipio eu dychymyg ac wedi sicrhau eu bod yn gweithio fel tîm. Mae llawer a fu ar y cwrs y llynedd wedi mynd ymlaen i addysg bellach ac i gychwyn gyrfaoedd gwerth chweil. Rydym yn disgwyl i’r criw eleni fod yr un mor llwyddiannus.

Yn y diwrnod graddio ar ddydd Gwener, Mai 11, cafodd rhieni, athrawon a swyddogion addysg fwynhau arddangosfa o’r sgiliau a ddysgwyd gan y myfyrwyr. Roedd y rhain yn cynnwys dril maes ymarfer a cheisio dod o hyd i rywun oedd yn cuddio mewn coetir.

Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd cwrs rhwystrau’r fyddin. Roedd rhaid gweithio fel tîm a goresgyn ofnau personol, gan ddringo waliau uchel a chroesi llwybr rhaffau uchel.

I orffen, gwelwyd ymarferiad gwacáu adeilad a thrin pobl ar ôl ffrwydrad.

Yn ôl i’r brig »

Safe Haven Training

Safe Haven Training has recently been awarded a Bronze Level Corporate Health Standard via the Welsh Government.
Read more

Yn ôl i’r brig »

Dyddiadau i’ch Dyddiadur

23 Mehefin 2012
TAFWYL 2012 – Digwyddiad DI-DÂL yng Nghastell Caerdydd (12pm-8pm)
Gŵyl Gymraeg Caerdydd – Cerddoriaeth Fyw, Llenyddiaeth, Celfyddyd, Bwyd a Diod, Chwaraeon, Comedi, Ffilm, Drama, Gweithgareddau i’r Teulu. Dilynwch ar Twitter @Tafwl neu Facebook neu ewch i www.tafwyl.org

25 Mehefin 2012
ADCDF a Dysgu Byd-eang: Edrych i’r Dyfodol
ar ddydd Llun 25 Mehefin 10.30am – 4.10pm yn Siambr y Cyngor, y Deml Heddwch, Caerdydd.
Cysylltwch â’r Deml Heddwch i gael gwybod rhagor: 02920 668999

5 Gorffennaf 2012
Digwyddiad NTfW ar Safonau Iaith ar gyfer aelodau NTfW yn unig yn Lantra, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd LD2 3WY Digwyddiad i drafod Dogfen Ymgynghori Comisiynydd y Gymraeg: ‘Safonau mewn perthynas â’r Gymraeg: Beth yw’ch barn? Cliciwch yma

Os hoffech ddod i’r digwyddiad hwn, sydd am ddim, ebostiwch Ryan Evans

4 – 11 Awst 2012
Eleni, cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol, un o wyliau mawr y byd, ar hen faes awyr Lland_ ger y Bont-faen ym Mro Morgannwg.
Cerddoriaeth, dawns, y celfyddydau gweledol, perfformiadau gwreiddiol, digwyddiadau i’r teulu – mae rhywbeth i bawb yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cliciwch yma i gael gwybod mwy.

24 – 25 Hydref 2012
Cynhadledd Flynyddol NTfW yn Venue Cymru, Llandudno. Bydd rhagor o wybodaeth ar y wefan cyn gynted ag y bydd ar gael.

24 Hydref 2012
Gwobrau Cenedlaethol Hyfforddiant a Phrentisiaethau Cymru yn Venue Cymru, Llandudno. Cliciwch yma i gael gwybod mwy.

14-17 Tachwedd 2012
Skills Show yn yr NEC Birmingham.

Yn ôl i’r brig »

More News Articles

  —