Chwech o bobl ddisglair yn serennu mewn dysgu galwedigaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

Peiriannydd dan hyfforddiant sy’n arbed miloedd o bunnau i’w gyflogwyr mewn costau ynni a darpar hyfforddwr chwaraeon sy’n gobeithio ennill medalau rhyngwladol – dim ond dau o’r chwech disglair sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn, Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) Cymru.

Mae’r chwech yn cynnwys myfyrwyr a phrentisiaid sydd wedi syfrdanu eu penaethiaid, eu tiwtoriaid a’u cydfyfyrwyr mewn llefydd fel ffatrïoedd, salonau, meithrinfeydd, canolfannau chwaraeon, siopau cigydd a stiwdios dawns.
Cyflwynir y wobr arbennig ar 20 Mehefin fel rhan o Ddiwrnod VQ, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant y rhai sydd wedi rhagori mewn dysgu ymarferol, seiliedig ar waith, mewn colegau, canolfannau hyfforddi ac ysgolion.
Mae un coleg – Coleg Penybont – eisoes yn serennu eleni trwy gael dim llai na thri o’i ddysgwyr yn y chwech sydd yn y rownd derfynol.

Sian Preddy

Mae Scott Kihlberg, 22, o Benarth, â’i fryd ar fod yn beiriannydd; Adam Taylor, 18, o’r Barri, yn disgleirio yn y celfyddydau perfformio; a Sian Preddy, 37, gweithiwr gofal a datblygiad plant o Ben-y-bont sy’n hollol fyddar, wedi llwyddo’n rhyfeddol yn ei chwrs gradd sylfaen.

Y tri arall yw Charlotte Nicholls, 22, o Wrecsam, sydd â dawn arbennig ym myd trin gwallt a harddwch; Sian Swanson, 19, o’r Drenewydd sydd am fod yn hyfforddwr chwaraeon ac sy’n gobeithio ennill medalau naid uchel; a Tomos Hopkin, 18, o Bontardawe sydd eisoes wedi sefydlu busnes cigydd teithiol ar ôl ennill cymhwyster trwy Hyfforddiant Cambrian.
Mae eu llwyddiant nhw yn ysbrydoliaeth i lawer iawn o bobl ifanc yng Nghymru sy’n dewis dilyn llwybr dysgu galwedigaethol er mwyn datblygu eu gyrfa.

Tomos Hopkin

Cyhoeddir enw’r enillydd mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd ar Ddiwrnod VQ.
Beth bynnag fydd y canlyniad, mae’r rhai sydd ar y rhestr fer eisoes yn creu argraff yn y byd. Mae dawn Adam Taylor wedi sicrhau ysgoloriaeth o £60,000 dros dair blynedd iddo mewn ysgol ddawns enwog yn Llundain, ac mae Scott Kihlberg wedi creu cymaint o argraff ar ei benaethiaid gyda’i syniadau am ffyrdd o arbed ynni ar safle Dow Corning yn y Barri nes eu bod nhw am ariannu ei gwrs gradd fel y gall fod yn beiriannydd.

Mae Sian Swanson eisoes wedi cynrychioli Cymru yn y naid uchel a’i gobaith yw cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014 ac, efallai, y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro yn 2016. Ar ôl ennill Diploma BTEC mewn Hyfforddi Chwaraeon yng Ngholeg Powys, symudodd i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd i ddilyn cwrs gradd mewn chwaraeon.
Gwneud enw iddi ei hunan ym myd trin gwallt a harddwch yw nod Charlotte Nicholls, ar ôl disgleirio yn y maes yng Ngholeg Iâl lle mae’n asesydd ac yn ddarlithydd dan hyfforddiant erbyn hyn.

Bydd y dathliad Diwrnod VQ yn cynnwys digwyddiadau arbennig yng Nghaerdydd a Llandrillo-yn-Rhos lle caiff ymwelwyr droi eu llaw at wahanol sgiliau galwedigaethol. Trefnir y diwrnod yng Nghymru gan ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) gyda chymorth Llywodraeth Cymru ac fe gaiff ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Charlotte Nicholls

Dymunodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert, yn dda i’r chwe myfyriwr yn y rownd derfynol pryd y bydd panel beirniaid yn ystyried yr hyn y maent wedi’i gyflawni, eu hymroddiad a’r ddawn sy’n eu gosod ar wahân i’w cyd-ddysgwyr. Meddai: “Dydi cymwysterau galwedigaethol ddim bob amser yn cael y sylw a’r parch y maen nhw’n eu haeddu ond maent yn eithriadol o werthfawr wrth baratoi pobl at yrfaoedd llwyddiannus mewn llawer o wahanol feysydd. Mae ansawdd dysgu galwedigaethol, fel y mae’r bobl eithriadol hyn yn ei ddangos, yn sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol Cymru fel economi cystadleuol. Rydym wrthi’n ymgynghori ar ffyrdd o sicrhau ein bod yn cadw cymwysterau galwedigaethol ac eraill yn gyfredol fel eu bod yn dal i fodloni gofynion cyflogwyr ac unigolion i’r dyfodol.”

More News Articles

  —