Newyddion diweddaraf Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Yn dilyn Digwyddiad Ymgysylltu â Rhanddeiliaid hynod lwyddiannus gan PSPRC ym mis Mai, mae’r tîm wedi bod yn brysur yn drafftio Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau newydd tair blynedd, 2022-25, ar gyfer y rhanbarth.
Trwy gydweithio â’r Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau a grwpiau clwstwr mewn sectorau blaenoriaeth, cafodd y cynllun ei baratoi a’i rannu â Llywodraeth Cymru. Lansiodd PSPRC y cynllun yn swyddogol yng Ngwesty Mercure, Casnewydd ar 21 Tachwedd gyda chefnogaeth Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru.
Croesawyd pawb i’r lansiad gan Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd, gan roi sylw i Gynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2022-2025 PSPRC, yr ail gynllun tair blynedd. Dywedodd mai pwyslais y cynllun yw sicrhau ‘ffyniant trwy bartneriaeth’.
Mae Addysg, Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd (CEIAG) yn elfen bwysig o’r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau newydd ar gyfer 2022-25 ac yn thema drawsbynciol allweddol. Mae PSPRC yn cydweithio mewn ffordd strategol â Gyrfa Cymru ac, yn ddiweddar, bu’n cefnogi Speakers for Skills yn eu digwyddiad cyntaf yng Nghymru.
Yn fwy penodol, trefnodd PSPRC weithdy profiad gwaith lletygarwch a gynhaliwyd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ac a ddaeth â chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a rhanddeiliaid ynghyd i drafod heriau a chyfleoedd allweddol.
Soniwyd bod angen lleoliadau profiad gwaith o ansawdd da yn y sector lletygarwch i helpu i fynd i’r afael â’r canfyddiadau negyddol sy’n bodoli ar hyn o bryd am y sector.
Mae’n bleser gan PSPRC eu bod wedi gallu cefnogi’r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru. Mae hwn yn cynnig seilwaith cefnogol i gystadleuwyr o Gymru sy’n cymryd rhan yng ngornestau WorldSkills ac mae’n hybu datblygiad sgiliau technegol i safon fyd-eang.
Ym mis Tachwedd, cynhaliwyd rhai o rowndiau terfynol WorldSkills y Deyrnas Unedig yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Yn y rowndiau terfynol, roedd unigolion o dde Cymru’n cystadlu mewn 14 o feysydd sgiliau gwahanol a gallai hyn arwain at gynrychioli Cymru ar y llwyfan byd-eang yn y dyfodol.
Yn olaf, mae PSPRC yn dal i gydweithio â Llywodraeth Cymru ac i weithio trwy nifer o raglenni blaenllaw ym maes sgiliau.
Ym mis Medi, gyda chefnogaeth PSPRC, ailgychwynnodd Llywodraeth Cymru ei Grŵp Sgiliau Dysgu a Chyflogadwyedd Troseddwyr (OLESG). Mae hwn yn cefnogi datblygiad addysg o ansawdd da ar gyfer pobl sydd yn y ddalfa ac mae’n helpu troseddwyr i ymwneud â’r gymdeithas ar ôl cael eu rhyddhau o’r carchar.
Yn ogystal, mae PSPRC yn aelod o grŵp cynghori a sefydlwyd yn ddiweddar er mwyn llywio’r gwaith o gyflwyno rhaglen y Cyfrif Dysgu Personol Gwyrdd. Bydd y grŵp yn rhoi cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru ar y cymwysterau y mae eu hangen i gefnogi Cynllun Sero Net Cymru.
Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
More News Articles
« Technoleg Newydd – Sgiliau Newydd — Darparwyr prentisiaethau’n helpu pobl anabl i gyflawni eu potensial »