Cigydd a Bwrdd Iechyd yn ennill Gwobrau VQ yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Chwith i'r dde: Mark Jones, Cadeirydd ColegauCymru; Enillydd Cyflogwr VQ y Flwyddyn Jill Williams, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr; Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Technoleg, Jeff Cuthbert AC; Enillydd Dysgwr VQ y Flwyddyn Tomi Jones; ac Arwyn Watkins, Prif Weithredwr NTfW.

Bu cigydd ifanc o fri sy’n cyflogi dau brentis, a bwrdd iechyd sy’n ymrwymedig i wella sgiliau staff a gofal cleifion, yn dathlu buddugoliaeth mewn seremoni wobrwyo i ddathlu cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru.

Mae Tomi Jones, Cigydd Ifanc y Flwyddyn Cymru, 22 oed o Langollen, yn ychwanegu ei wobr Dysgwr VQ y Flwyddyn at ei restr faith o wobrau, a gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Wrecsam ennill gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn.

Cafodd y gwobrau a gefnogir gan yr UE eu cyflwyno gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert, mewn seremoni yng Ngholeg Morgannwg, Nantgarw, un o’r tri digwyddiad rhanbarthol ar gyfer Diwrnod VQ yng Nghymru ddoe (dydd Mercher).

Llwyddodd Tomi, sy’n rhedeg Jones’ Butchers yn Llangollen, i guro Leo Hacker, cyn-fyfyriwr Coleg Caerdydd a’r Fro, sydd bellach yn gweithio i westy Royal Garden Hotel, Kensington, Llundain, a Helen Wynne, sydd wedi ennill nifer fawr o wobrau ac sy’n berchen ar Wasanaethau Gofal Plant Blythswood, Wrecsam, yn y rownd derfynol.

Mae gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod dysgwyr sy’n dangos dilyniant a rhagoriaeth amlwg mewn astudiaethau galwedigaethol ac sydd wedi cyflawni’n sylweddol yn eu maes.

“Ennill y wobr hon yw un o’r cyflawniadau gorau yn fy mywyd hyd yn hyn,” meddai’r cigydd talentog, a fydd yn cynrychioli Cymru fis nesaf yng nghystadleuaeth cigydd ifanc Ffederasiwn Cenedlaethol Cig a Bwyd ‘Premier Young Butcher’ yn Birmingham. “Mae’n dangos bod gwaith caled ac ymroddiad yn golygu y gallwch chi gyflawni unrhyw beth rydych chi am ei wneud.”

Cafodd Tomi ei enwebu ar gyfer y wobr gan ei ddarparwr hyfforddiant, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn y Trallwng. Ar ôl cyflawni Prentisiaeth Sylfaenol mewn Sgiliau Manwerthu Cigyddiaeth, mae e bellach yn gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Sgiliau Cigyddiaeth tra’n rhedeg siop a chyflogi dau brentis.

Tomi yw’r drydedd genhedlaeth yn ei deulu i redeg y busnes, ac mae’n frwdfrydig am y diwydiant a hyrwyddo cigyddiaeth fel gyrfa ddiddorol a boddhaus i bobl ifanc.

Llwyddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nantgarw guro’r cwmni gwasanaethau busnes, Capita, a Chyngor Sir y Fflint i ennill Gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn. Mae’r wobr hon yn cydnabod cyflogwyr sy’n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac sy’n gwneud cyfraniad gwirioneddol i wella sgiliau ac ysfa gystadleuol ar lefel genedlaethol.

Mae’r bwrdd iechyd wedi rhoi cymwysterau galwedigaethol wrth wraidd ei hyfforddiant a datblygiad. Sefydlwyd Adran Addysg Galwedigaethol ac, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae 110 o ymgeiswyr wedi ennill cymhwyster lefel dau, tra bod 302 o ymgeiswyr wedi ennill lefel tri.

Mae’r buddion yn cynnwys rheoli stoc yn fwy effeithlon a llai o wastraff, gwellhad sylweddol o ran rheoli heintiau a mwy o gymorth i gleifion yn ystod amser bwyd. Mae gweithwyr cymorth mamolaeth hefyd wedi cael eu cyflwyno drwy ennill y cymwysterau galwedigaethol perthnasol.

Meddai Jill Williams, rheolwr addysg galwedigaethol y bwrdd: “Rydw i wrth fy modd. Mae’r wobr hon i bawb yn y bwrdd iechyd sy’n dilyn cymhwyster galwedigaethol. Nhw yw’r arwyr anhysbys yn aml, ac mae’n wych eu bod nhw’n cael cydnabyddiaeth.”

Bu Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau, yn llongyfarch yr enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol. “Mae’n bwysig bod cymwysterau galwedigaethol yn cael eu hystyried fel yr opsiynau dewis cyntaf i’n dysgwyr mwyaf disglair ac addawol, ac yn aros felly, a bod eu gwerth yn cael ei gydnabod yn llawn. Mae Diwrnod VQ yn chwarae rôl allweddol wrth gyflawni’r amcan hwnnw.

“Un o’m blaenoriaethau ers cael fy mhenodi’n Ddirprwy Weinidog fu sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol yn cael eu cydnabod ochr yn ochr â chymwysterau academaidd ar gyfer eu gwerth i’r unigolyn a’r gymdeithas. Dyna pam, yn dilyn adolygiad annibynnol o gymwysterau, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cymryd camau i sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol yn parhau i fod yn berthnasol, yn werthfawr ac yn addas i’r dyfodol.

“Rwy’n gobeithio y bydd Diwrnod VQ eleni yn ysbrydoli hyd yn oed mwy o unigolion i ystyried llwybr galwedigaethol i lwyddiant, gan wreiddio cymwysterau galwedigaethol ymhellach i’n heconomi a’n bywyd cenedlaethol.”

Meddai Scott Waddington, Comisiynydd Cymru ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau: “Mae cymwysterau galwedigaethol yn cynnig sylfaen gwych i yrfaoedd ym mhob sector o’r economi ac maent yn fframwaith gwerthfawr lle gall pobl ifanc ddatblygu yn y gwaith ac adeiladu ar y sgiliau y mae eu hangen ar ddiwydiant Cymru.

“Mae’n hanfodol bod y cymwysterau hyn ar gael i gynifer o bobl ifanc â phosibl.”

Cynhaliwyd digwyddiadau rhanbarthol Diwrnod VQ eraill yng Nghampws Cei Connah Coleg Glannau Dyfrdwy a daeth Partneriaeth Dysgu Rhanbarthol De Orllewin Cymru â darparwyr dysgu at ei gilydd i drefnu gweithgareddau ymarferol yng Nghanolfan Siopa Aberafan, Port Talbot, Stryd Rhydychen, Abertawe, a Chanolfan Siopa Sant Elli yn Llanelli.

Ni fu cymwysterau galwedigaethol erioed yn bwysicach i’r economi nac i’r unigolyn, am eu bod yn darparu’r gweithwyr dawnus, medrus y mae busnesau mor awyddus i’w cael ac yn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau angenrheidiol i lwyddo mewn addysg a gwaith.

Caiff Diwrnod VQ a’r Gwobrau VQ eu cydlynu yng Nghymru gan ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a chânt eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

More News Articles

  —