Taflen Newyddion – Mehefin 2013

Postiwyd ar gan karen.smith
















Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw hanner dydd ar ddydd Gwener 28ain Mehefin 2013

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gwobrwyo unigolion, darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad y rhaglen Brentisiaethau ledled Cymru.

Bydd y gwobrau’n dathlu ac yn mawrygu llwyddiant y rhai sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau gan ddangos agwedd ddeinamig at hyfforddiant. Byddant hefyd wedi dangos brwdfrydedd a menter, dyfeisgarwch a chreadigrwydd, dealltwriaeth o bwysigrwydd gwella sgiliau er budd economi Cymru ac ymrwymiad i wneud hynny.

Mae’r Gwobrau’n gyfle i chi gael eich cydnabod a’ch gwobrwyo am eich ymroddiad, eich gwaith caled a’ch llwyddiant mewn Prentisiaethau.

Bydd y gwobrau’n cydnabod llwyddiant unigolion, cyflogwyr a darparwyr dysgu dros 15 dosbarth gwahanol.

Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffurflenni cais.

Yn ôl i’r brig»

Cigydd a Bwrdd Iechyd yn ennill Gwobrau VQ yng Nghymru


Bu cigydd ifanc o fri sy’n cyflogi dau brentis, a bwrdd iechyd sy’n ymrwymedig i wella sgiliau staff a gofal cleifion, yn dathlu buddugoliaeth mewn seremoni wobrwyo i ddathlu cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru.

Mae Tomi Jones, Cigydd Ifanc y Flwyddyn Cymru, 22 oed o Langollen, yn ychwanegu ei wobr Dysgwr VQ y Flwyddyn at ei restr faith o wobrau, a gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Wrecsam ennill gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn.

Cafodd y gwobrau a gefnogir gan yr UE eu cyflwyno gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert, mewn seremoni yng Ngholeg Morgannwg, Nantgarw, un o’r tri digwyddiad rhanbarthol ar gyfer Diwrnod VQ yng Nghymru ddoe (dydd Mercher).

Llwyddodd Tomi, sy’n rhedeg Jones’ Butchers yn Llangollen, i guro Leo Hacker, cyn-fyfyriwr Coleg Caerdydd a’r Fro, sydd bellach yn gweithio i westy Royal Garden Hotel, Kensington, Llundain, a Helen Wynne, sydd wedi ennill nifer fawr o wobrau ac sy’n berchen ar Wasanaethau Gofal Plant Blythswood, Wrecsam, yn y rownd derfynol.

Mae gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod dysgwyr sy’n dangos dilyniant a rhagoriaeth amlwg mewn astudiaethau galwedigaethol ac sydd wedi cyflawni’n sylweddol yn eu maes.

“Ennill y wobr hon yw un o’r cyflawniadau gorau yn fy mywyd hyd yn hyn,” meddai’r cigydd talentog, a fydd yn cynrychioli Cymru fis nesaf yng nghystadleuaeth cigydd ifanc Ffederasiwn Cenedlaethol Cig a Bwyd ‘Premier Young Butcher’ yn Birmingham. “Mae’n dangos bod gwaith caled ac ymroddiad yn golygu y gallwch chi gyflawni unrhyw beth rydych chi am ei wneud.”

Cafodd Tomi ei enwebu ar gyfer y wobr gan ei ddarparwr hyfforddiant, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn y Trallwng. Ar ôl cyflawni Prentisiaeth Sylfaenol mewn Sgiliau Manwerthu Cigyddiaeth, mae e bellach yn gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Sgiliau Cigyddiaeth tra’n rhedeg siop a chyflogi dau brentis.

Tomi yw’r drydedd genhedlaeth yn ei deulu i redeg y busnes, ac mae’n frwdfrydig am y diwydiant a hyrwyddo cigyddiaeth fel gyrfa ddiddorol a boddhaus i bobl ifanc.

Llwyddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nantgarw guro’r cwmni gwasanaethau busnes, Capita, a Chyngor Sir y Fflint i ennill Gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn. Mae’r wobr hon yn cydnabod cyflogwyr sy’n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac sy’n gwneud cyfraniad gwirioneddol i wella sgiliau ac ysfa gystadleuol ar lefel genedlaethol.

Mae’r bwrdd iechyd wedi rhoi cymwysterau galwedigaethol wrth wraidd ei hyfforddiant a datblygiad. Sefydlwyd Adran Addysg Galwedigaethol ac, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae 110 o ymgeiswyr wedi ennill cymhwyster lefel dau, tra bod 302 o ymgeiswyr wedi ennill lefel tri.

Mae’r buddion yn cynnwys rheoli stoc yn fwy effeithlon a llai o wastraff, gwellhad sylweddol o ran rheoli heintiau a mwy o gymorth i gleifion yn ystod amser bwyd. Mae gweithwyr cymorth mamolaeth hefyd wedi cael eu cyflwyno drwy ennill y cymwysterau galwedigaethol perthnasol.

Meddai Jill Williams, rheolwr addysg galwedigaethol y bwrdd: “Rydw i wrth fy modd. Mae’r wobr hon i bawb yn y bwrdd iechyd sy’n dilyn cymhwyster galwedigaethol. Nhw yw’r arwyr anhysbys yn aml, ac mae’n wych eu bod nhw’n cael cydnabyddiaeth.”

Bu Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau, yn llongyfarch yr enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol. “Mae’n bwysig bod cymwysterau galwedigaethol yn cael eu hystyried fel yr opsiynau dewis cyntaf i’n dysgwyr mwyaf disglair ac addawol, ac yn aros felly, a bod eu gwerth yn cael ei gydnabod yn llawn. Mae Diwrnod VQ yn chwarae rôl allweddol wrth gyflawni’r amcan hwnnw.

“Un o’m blaenoriaethau ers cael fy mhenodi’n Ddirprwy Weinidog fu sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol yn cael eu cydnabod ochr yn ochr â chymwysterau academaidd ar gyfer eu gwerth i’r unigolyn a’r gymdeithas. Dyna pam, yn dilyn adolygiad annibynnol o gymwysterau, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cymryd camau i sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol yn parhau i fod yn berthnasol, yn werthfawr ac yn addas i’r dyfodol.

“Rwy’n gobeithio y bydd Diwrnod VQ eleni yn ysbrydoli hyd yn oed mwy o unigolion i ystyried llwybr galwedigaethol i lwyddiant, gan wreiddio cymwysterau galwedigaethol ymhellach i’n heconomi a’n bywyd cenedlaethol.”

Meddai Scott Waddington, Comisiynydd Cymru ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau: “Mae cymwysterau galwedigaethol yn cynnig sylfaen gwych i yrfaoedd ym mhob sector o’r economi ac maent yn fframwaith gwerthfawr lle gall pobl ifanc ddatblygu yn y gwaith ac adeiladu ar y sgiliau y mae eu hangen ar ddiwydiant Cymru.

“Mae’n hanfodol bod y cymwysterau hyn ar gael i gynifer o bobl ifanc â phosibl.”

Cynhaliwyd digwyddiadau rhanbarthol Diwrnod VQ eraill yng Nghampws Cei Connah Coleg Glannau Dyfrdwy a daeth Partneriaeth Dysgu Rhanbarthol De Orllewin Cymru â darparwyr dysgu at ei gilydd i drefnu gweithgareddau ymarferol yng Nghanolfan Siopa Aberafan, Port Talbot, Stryd Rhydychen, Abertawe, a Chanolfan Siopa Sant Elli yn Llanelli.

Ni fu cymwysterau galwedigaethol erioed yn bwysicach i’r economi nac i’r unigolyn, am eu bod yn darparu’r gweithwyr dawnus, medrus y mae busnesau mor awyddus i’w cael ac yn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau angenrheidiol i lwyddo mewn addysg a gwaith.

Caiff Diwrnod VQ a’r Gwobrau VQ eu cydlynu yng Nghymru gan ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a chânt eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Yn ôl i’r brig»

Cynhadledd Dwyieithrwydd yn y Sector Dysgu Seiliedig ar Waith

Cynhaliodd Sgiliaith ac NTfW gynhadledd ar ddydd Iau 23 Mai 2013 ar ddwyieithrwydd yn y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.

Cynhaliwyd y gynhadledd yn Ocean Park House, safle ACT Training yng Nghaerdydd, ac roedd yn agored i’r holl reolwyr ac aseswyr sy’n gweithio yn y sector dysgu seiliedig ar waith yn ne, de-ddwyrain a de-orllewin Cymru.

Ar ôl cyflwyniad gan Ryan Evans, Hyrwyddwr Dwyieithrwydd NTfW, cafodd y cynadleddwyr glywed gan ddarparwyr ledled y de (ACT Training Ltd, Torfaen Training Ltd, LLETS Dinas a Sir Abertawe a Choleg Sir Benfro) sydd wrthi’n gweithio’n ddwyieithog neu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal, roedd cyfle i’r rhai Cymraeg eu hiaith fwynhau sesiwn flasu Cynllun Sabathol yr Iaith Gymraeg trwy Brifysgol Caerdydd ac i’r rhai di-Gymraeg gael blas ar gwrs Cymraeg i Oedolion trwy Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg. Roedd cyfle hefyd i ddysgu mwy am y cynllun mentora a rhaglenni eraill y gall Sgiliaith eu cynnig i ddarparwyr.

Yn y prynhawn, cafwyd gweithdai i drafod meysydd y gellid symud ymlaen ynddynt yn y dyfodol a soniwyd am y pecyn Dangosyddion Cymraeg y Gweithle a baratowyd gan CBAC.

Roedd pawb o’r farn ei fod yn ddiwrnod difyr a buddiol. Diolch i bawb a helpodd i drefnu’r achlysur ac a gytunodd i rannu eu profiadau gyda’r gweddill.

Yn ôl i’r brig»

NIACE Dysgu Cymru – Gwobrau Ysbrydoli 2013

Cynhaliwyd Gwobrau Ysbrydoli! i Oedolion sy’n Dysgu yn Stadiwm SWALEC ar 16 Mai a chafodd Lynda Sullivan, 48 oed, ei choroni’n ‘Oedolyn sy’n Dysgu 2013’. Ar ôl cyfnod yn gaeth i’r tŷ, llwyddodd Lynda i ddod yn arweinydd cymunedol ac roedd eisoes wedi ennill y wobr ‘Dysgu Gweithredol ar gyfer Iechyd a Lles’ ar ddechrau’r noson.


Tîm rhaglen 3GS Life Support o Ferthyr Tudful a enillodd wobr ‘Tiwtoriaid y Flwyddyn’. Mae’r tîm yn arbenigo mewn helpu pobl sydd heb lawer o hyder ynddyn nhw eu hunain neu anawsterau dysgu eraill ac maent eisoes wedi helpu dros 250 o bobl.

Yn seremoni Gwobrau Dysgu Ysbrydoli! i Oedolion, cafodd oedolion o bob rhan o Gymru eu gwobrwyo mewn 17 categori. Alison Williams, o Borthaethwy, oedd enillydd gwobr Dysgu mewn Byd Digidol, ac Ann Craft, sy’n cefnogi Tiwtor Iaith Arwyddion Prydain yng Ngholeg Iâl, Wrecsam oedd enillydd Gwobr y Tiwtor Gwirfoddol. Rhannwyd Gwobr y Dysgwr Hŷn rhwng Grahame Wynne, 76 oed, o Wrecsam, ac Edward Clarke, sy’n 98 oed a hefyd o Wrecsam sydd wedi dod yn rhugl mewn Sbaeneg ers ei ben blwydd yn 87.

Roedd y gwobrau eraill yn cynnwys Gwobr Dysgu Grŵp a enillwyd gan Glwb Arwyddion Penmaenmawr a Gwobr Dysgu Teulu a enillwyd gan aelodau teulu Valentine o Sir y Fflint. Ar ôl cael gwybod bod eu mab, Dylan, yn fyddar, dysgodd y teulu Iaith Arwyddion Prydain er mwyn ei helpu. Enillydd gwobr Cyflogai mewn Dysgu oedd Helen Wynne o Wrecsam a gychwynnodd ei busnes gwarchod plant ei hunan er mwyn gofalu am ei phlentyn ei hunan a phlant eraill sydd ag anghenion arbennig.

Enillodd Rhoslyn Griffiths o Goleg Ystrad Mynach y Wobr Cyflawniad Oes ac enillodd Bryn Davies, hefyd o Goleg Ystrad Mynach, y Wobr Gwasanaethau i Ddysgu Gydol Oes. Maria James, o Aberdâr, a enillodd y Wobr Tiwtor Newydd Eithriadol am ei gwaith yn hybu ffyrdd mwy iachus o fyw yng nghymunedau’r Cymoedd. Aeth Gwobr Oedolyn Ifanc sy’n Dysgu i Jonathan Lewis sy’n gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Ieuenctid Merthyr ac yn astudio, ar yr un pryd, am radd er mwyn bod yn Weithiwr Ieuenctid.

Back to top»

Cyfle i Grow and Save ennill prif wobr Her Arian am Oes yn Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig

Grow & Save

Bydd pobl ifanc o Gaerdydd yn teithio i Lundain i gyflwyno’u prosiect rheoli arian i banel o feirniaid uchel eu parch yn y gobaith o ennill y brif wobr yn Rownd Derfynol Her Arian am Oes Lloyds TSB trwy’r Deyrnas Unedig i gyd.

Y tîm o chwech, rhwng 17 ac 19 oed, o ITEC Training Solutions, oedd enillwyr Rownd Derfynol Cymru yn y gystadleuaeth sy’n herio pobl ifanc i ddyfeisio prosiectau i helpu pobl yn eu cymuned i drin arian yn well.

Roedd cynlluniau da eraill o bob rhan o Gymru’n cystadlu ond llwyddodd y tîm o Gaerdydd i blesio’r beirniaid â phrosiect ‘Grow and Save’ a sefydlwyd ar ôl cael grant o £500 gan Her Arian am Oes ddiechrau’r flwyddyn. Helpu pobl i arbed arian trwy dyfu ffrwythau, llysiau a pherlysiau oedd y nod ac fe roeson nhw becynnau i bobl i’w helpu i wneud hynny.

Yn awr, bydd y bobl ifanc yn wynebu timau o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y seremoni yn Amgueddfa Ffilmiau Llunain ar y Southbank ar ddydd Iau 23 Mai. Byddant yn cael cyflwyno’u prosiect i banel beirniaid dylanwadol sef Caroline Rookes, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Cynghori Ariannol; Emma Thomas, Prif Weithredwr YouthNet; Tracey Bleakley, Prif Weithredwr Grŵp Addysg Cyllid Personol (PFEG); Clare Francis, Prif Olygydd Moneysupermarket.com; a Graham Lindsay, Cyfarwyddwr Grŵp Busnes Cyfrifol y Lloyds Banking Group.

Dywedodd Farhin Begum, 19 oed, o Grow and Save: “Rydyn ni i gyd wedi mwynhau’r profiad o gymryd rhan yn Her Arian am Oes ac rydyn ni mor falch o weld bod ein prosiect ni wedi helpu’r gymuned i arbed arian. Mae’n deimlad cyffrous cael mynd i Lundain i’r Rownd Derfynol ac rydyn ni’n falch o gael cynrychioli Cymru.”

Dywedodd Sarah Willingham, buddsoddwr ac arbenigwr cyllid personol sy’n cyflwyno’r Rownd Derfynol: “Mae rheoli arian yn sgil bwysig iawn ac mae’n braf gweld pobl ifanc yn dysgu’r sgiliau ac yn eu trosglwyddo i eraill. Rwy wedi synnu at greadigrwydd a brwdfrydedd y bobl ifanc hyn yn y prosiectau Her Arian am Oes. Maen nhw wedi gwneud y gwaith yn hwyl ac yn ddiddorol ac rydyn ni wrth ein bodd yn eu gweld yn rhannu eu gwybodaeth. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at eu gweld yn y Rownd Derfynol yr wythnos nesaf ac yn dymuno’n dda iddyn nhw i gyd!”

Mae’r bobl ifanc eisoes wedi ennill £1,000 i’w roi i elusen o’u dewis ac, os byddan nhw’n llwyddiannus yr wythnos nesaf, bydd Grow and Save yn ennill £2,500 arall at achos da. Bydd pob aelod yn cael talebau siopa gwerth £100 hefyd a’r cyfle i gydweithio â menter o’r Lloyds Banking Group am flwyddyn.

Meddai Sarah Porretta, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: “Rydyn ni mor falch o bawb sydd yn y rownd derfynol am wneud mater rheoli arian yn hwyl ac am newid bywydau yn eu cymunedau. Mae’n dda’u gweld yn harneisio’r fath greadigrwydd ac mae eu brwdfrydedd a’u hynni wedi creu argraff fawr arnom.

“Nod Her Arian am Oes yw gwneud sgiliau trin arian yn rhan hanfodol o gymunedau ledled y Deyrnas Unedig, ac arfogi pobl ifanc â’r ddealltwriaeth ariannol y mae arnyn nhw’u hangen i wireddu eu potensial. Mae Grow and Save yn chwarae rhan bwysig yn ein helpu i wneud hyn ac felly rwyf am ddiolch iddynt am eu hymrwymiad hyd yma a dymuno’n dda iddynt yn Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig yr wythnos nesaf.”

Bydd Grow and Save yn cystadlu yn erbyn prosiectau Act on Money o Lundain, England; Bouncing Babies o Swydd Antrim, Gogledd Iwerddon a JWCMoney1 o Kilwinning, yr Alban.

Mae Her Arian am Oes yn rhan o raglen Arian am Oes sy’n bartneriaeth unigryw rhwng Lloyds Banking Group a phartneriaid yn y sector addysg bellach yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn cynnwys ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yng Nghymru. Nod y gystadleuaeth yw dod o hyd i’r ffyrdd mwyaf dyfeisgar a llwyddiannus o wella sgiliau rheoli arian pobl ifanc, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae aelodau’r timau rhwng 16 a 24 oed ac mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith neu ddysgu cymunedol i oedolion.

Os hoffech wybod rhagor am Her Arian am Oes, ewch i moneyforlifechallenge.org.uk

Yn ôl i’r brig»

ADCDF

Dathliadau a diwrnodau ymwybyddiaeth yw’r digwyddiadau isod. Mae pob digwyddiad yn cynnwys manylion gwefannau a defnyddiau i helpu i gynllunio gweithgareddau ar gyfer dysgwyr.

18 Gorffennaf 2013 – Nod Diwrnod Mandela yw anrhydeddu gwaddol cyn-arlywydd De Affrica ac ysbrydoli pobl i gymryd camau i helpu i newid y byd er gwell. Rhagor o wybodaeth: www.mandeladay.com

12 Awst 2013 – Sefydlwyd Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid (IYD) gan y Cenhedloedd Unedig yn 2000 fel ffordd o godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â phobl ifanc ym mhedwar ban byd. Mae adnoddau i’w cael yn www.educationscotland.gov.uk

5 Medi 2013 – Rosh Hashanah yw gŵyl Blwyddyn Newydd yr Iddewon ac mae’n para am ddau ddiwrnod. Cewch ragor o wybodaeth yn www.jewfaq.org.uk

20 Medi 2013 – Diwrnod Jeans for Genes yw’r digwyddiad blynyddol a gynhelir gan yr elusen o’r DU i godi arian ar gyfer plant ag anhwylderau genetig. Cewch ragor o fanylion am godi arian yn www.jeansforgenesday.org

21 Medi 2013 – Diwrnod Rhyngwladol Heddwch. Bob blwyddyn ers 1982, cynhaliwyd digwyddiadau ym mhedwar ban byd i nodi ‘Diwrnod Heddwch’. Cewch ragor o wybodaeth a fideo byr yn www.peaceday.org.uk

Yn ôl i’r brig»

News from the Regions

Oscars Prentisiaethau yng Ngholeg Menai

Mynychodd prentisiaid o Goleg Menai a busnesau lleol Seremoni Wobrwyo Prentisiaethau’r coleg yn ddiweddar, noson a drodd i fod yn un o ddathlu mawr. Ar y 6ed o Fawrth, 2013 yng Ngwesty’r Celt yng Nghaernarfon, cymerodd Coleg Menai’r cyfle i longyfarch ei holl brentisiaid ar eu gwaith caled a’u cyflawniadau. Noddwyd y seremoni, sydd bellach yn ei chweched flwyddyn, gan Magnox Ltd a Horizon Nuclear Power, y ddau yn gwmnïau eithriadol o ddylanwadol gyda rôl allweddol i’w chwarae yn nyfodol yr economi yng Ngogledd-Orllewin Cymru.

Rhoddwyd gwobrwyon am y prentis gorau ymhob categori cyflogaeth, ac yna dewiswyd y myfyriwr peirianneg Aron Jones fel yr enillydd cyffredinol ac enillodd anrhydedd Prentis y Flwyddyn Coleg Menai. Mae Aron o Flaenau Ffestiniog wedi ei gyflogi gan REHAU Ffestiniog fel peiriannydd Cynnal a Chadw Trydanol. Mae Aron eisoes wedi arbed llawer o arian i’w gyflogwr drwy wneud arolygon thermograffi o offer electro fecanyddol, gwaith a wnaed yn flaenorol gan is-gontractwr allanol. Mae Aron hefyd yn Llysgennad STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), gan hyrwyddo ei sgiliau i ddysgwyr ifanc. Mae yn annog pobl ifanc i fwynhau pynciau STEM, ac yn eu hysbysu am y cyfleoedd gyrfa unigryw sydd ar gael iddynt.

Dywedodd Aron, “Rwyf wedi fy synnu ac wrth fy modd i fod wedi derbyn gwobr prentis y Flwyddyn 2013. Byddwn yn argymell prentisiaeth i unrhyw un, rwyf wedi medru ennill profiad gwaith real wrth i mi weithio sydd o gymorth mawr. Mae’r cwmni yn gefnogol iawn, ac yn cynllunio fy nanfon ar gyfer hyfforddiant pellach ac rwyf hefyd yn astudio ar gyfer HNC yng Ngholeg Menai.” Roedd yr amrywiaeth o bobl ifanc yn derbyn gwobrau ar y noson yn adlewyrchu’r amrywiaeth o raglenni prentisiaeth ar gael yng Ngholeg Menai yn amrywio o Ofal Plant i Blastro, a Thrin Gwallt a Harddwch i Beirianneg. Hefyd, mi wnaeth yr holl fyfyrwyr a fynychodd y digwyddiad gwblhau eu lleoliad gyda chyflogwyr lleol. Mae gan Goleg

Menai ar hyn o bryd dros 1000 o brentisiaethau gydag ystadegau trawiadol yn perthyn iddynt – mae 94% o brentisiaid y coleg yn cyflawni eu fframwaith llawn o fewn yr amser disgwyliedig, ac mae dros 80% yn cael gwaith.

Mae prentisiaeth yn rhaglen dysgu yn y gweithle a gall barhau o ddwy i bedair blynedd, gyda myfyrwyr yn treulio pedwar diwrnod yn y gweithle yn dysgu crefft ac yn ennill profiad ymarferol gwerthfawr a diwrnod olaf yr wythnos waith yn astudio yn y coleg. Mae prentisiaeth yn cynnig hyfforddiant am ddim i bobl ifanc i roi’r union sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu gyrfa, gyda hyfforddiant rheolaidd yn y sgiliau craidd, a’r cyfle i ennill cymwysterau cydnabyddedig sydd yn cael eu derbyn ymhobman.

Dywedodd Dafydd Evans, Pennaeth Coleg Menai,: “Mae prentisiaethau yn hanfodol i ddatblygu’r sgiliau priodol i gefnogi ein heconomi, ac mae Coleg Menai yn gweithio’n agos gyda’r gymuned fusnes i sicrhau fod yr hyfforddiant mae’r prentisiaid yn ei dderbyn yn cyfrannu at eu cyfranogiad yn y gweithle ac yn helpu iddynt wneud cynnydd yn eu bywydau. Cyflwynir ein gwobr Prentis y Flwyddyn i unigolyn sydd wedi rhagori yn ystod ei leoliad ac yn y coleg. Fodd bynnag, mae’r seremoni wobrwyo hon yn ddathliad ar gyfer ein holl brentisiaid sydd wedi cwblhau eu fframwaith lawn yn llwyddiannus. ”
Dywedodd Richard Foxhall, Rheolwr Cysylltiadau Deiliaid Diddordeb Horizon said: “Mae Coleg Menai yn helpu creu gweithlu medrus iawn ar garreg ei ddrws mewn crefftau o ofal iechyd i adeiladu tŷ, i gadw’r goleuadau ymlaen yn ein tai, ysbytai a ffatrïoedd. Mae’r Gwobrwyon Prentisiaeth yn gyfle ardderchog i adnabod rhagoriaeth ac rydym yn llongyfarch pawb a enwebwyd am eu cyflawniadau . Mae Horizon Nuclear Power yn falch i fod yn gysylltiedig â Choleg Menai, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Coleg dros y blynyddoedd cyffrous sydd i ddod.”

Gan siarad ar ran noddwr y wobr, Magnox Ltd, dywedodd Stuart Law: “Mae Gorsaf Bŵer yr Wylfa wedi hyfforddi cannoedd o brentisiaid ers iddi ddechrau cynhyrchu trydan carbon isel yn 1971. Mae pob un ohonynt wedi gwneud cyfraniad hanfodol i lwyddiant yr Wylfa. Rydym yn falch i gefnogi Coleg Menai i gydnabod a gwobrwyo cyflawniadau arbennig y myfyrwyr yn y digwyddiad pwysig hwn.”

Yn ôl i’r brig»

Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair i Sam Williams

Ymunodd Sam â thîm Owen and Palmer ar ôl cwblhau cwrs Lefel 2 mewn Gosod Trydan yng Ngholeg Menai. Ar ôl pythefnos o brofiad gwaith a lleoliad haf gyda chyflog, cafodd Sam gynnig prentisiaeth gyda’r cwmni.

Yn ystod ei leoliad tair blynedd a hanner, mae Sam wedi rhagori ac wedi dangos ei fod yn aelod gwerthfawr o dîm y cwmni o Fangor.

Sam Williams and Andy Basham

Esboniodd Sam, “Mae’r gwaith rwy’n ei wneud yma gydag Owen and Palmer yn amrywiol iawn. Nid trydanwyr fel y rhai sy’n dod i weirio’ch tŷ chi ydyn ni. Rydyn ni’n gweithio ar gontractau diwydiannol mawr, fel gwaith mewn swyddfeydd ac adeiladau prifysgol. Felly, rwy wedi dysgu llawer o wahanol sgiliau ond, wedi dweud hynny, mae pob job yn wahanol ac rwy’n dysgu rhywbeth newydd bron bob dydd.”

Ar ôl cwblhau ei brentisiaeth, mae Sam yn aelod parhaol o’r tîm ac mae wedi ennill cymwysterau llawn trydanwr.
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Andrew Basham, “Fel cwmni, rydyn ni wedi adeiladu ein gweithlu ar sail prentisiaethau. O’r 28 gweithiwr sydd gennym allan yn y maes, dim ond tri sydd heb wneud prentisiaeth gyda’r cwmni. Mae llawer o’r tîm wedi bod gyda ni ers dros 20 mlynedd, rhai ohonynt ers dros 30 mlynedd, ac wedi dringo’r ysgol i gael swyddi rheolwyr. Yn wir, dyna a wnes i.

“Mae Sam wedi creu argraff ffafriol iawn arnon ni. Roedd yn rhagorol trwy gydol cyfnod ei hyfforddiant ac mae ganddo allu natuiol i ennyn hyder ei gydweithwyr a’n cleientiaid. Am y rheswm hwnnw, rwy’n credu bod gan Sam ddyfodol disglair gyda Owen and Palmer.”

Ar ôl gorffen ei brentisiaeth, mae Sam wedi cwblhau ‘Mesur Cyflawniad 2’ sef cymhwyster ar gyfer trydanwyr sy’n golygu ei fod wedi’i gofrestru gyda JIB y Diwydiant Contractwyr Trydan. Gan fod ei sgôr yn yr arholiad mor dda, argymhellodd y corff dyfarnu, Cymdeithas y Contractwyr Trydan, fod Sam yn cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Hyfforddai y Flwyddyn ECA Edmundson ar gyfer Oedolion.

Yn ôl i’r brig»

Perchennog Busnes A Phrentis Rhagorol Yn Ennill Gwobrau Yn Yr Oscars Addysg

Daniel Keane

Helen Wynne

Daeth dysgwyr, athrawon ac arbenigwyr y diwydiant addysg at ei gilydd neithiwr i anrhydeddu’r cyflawnwyr galwedigaethol mwyaf arbennig mewn noson fawreddog Gwobrau Lion City & Guilds. Roedd prentis o Goleg Glannau Dyfrdwy a pherchennog busnes ymhlith y sawl a gafodd eu cydnabod.

Enwyd Daniel Keane, 20 oed, o Lannau Dyfrdwy yn Brentis y Flwyddyn, oherwydd popeth a gyflawnodd yn ystod ei brentisiaeth cynnal a chadw cerbydau modur. Aeth Helen Wynne, 41 oed, adref i Wrecsam gyda dwy wobr – Dysgwr y Flwyddyn Busnesau Bychain a gwobr Cyflawnwr Rhagorol y Flwyddyn. Dyma wobr fwyaf y noson a chydnabuwyd Helen am ei heffaith barhaol ar deuluoedd ei chymuned, ar ôl iddi sefydlu Blythswood Childminding ac arbenigo mewn gofalu am blant ag anableddau ac anghenion ychwanegol. Read more …

Yn ôl i’r brig»

Coleg Glannau Dyfrdwy yn Dathlu Hyfforddiant Staff Llwyddiannus yn Norbert Dentressangle

Mae Staff Norbert Dentressangle, yr arbenigwyr mewn rheoli cadwyni cyflenwi, wedi bod yn dathlu ar ôl iddynt gwblhau cyrsiau rheoli gyda Choleg Glannau Dyfrdwy yn ddiweddar.
Derbyniodd 22 o staff dystysgrifau am gyrsiau dysgu yn y gweithle, sef, Arwain Tîm Lefel 2 a Rheolaeth Lefel 3. Cyflwynwyd y tystysgrifau mewn seremoni ddathlu gan Steve Jackson, Is-bennaeth, Gwasanaethau Corfforaethol Coleg Glannau Dyfrdwy, ar ôl ei groesawu gan Stella Gregory, Cydlynydd Dysgu a Datblygu Norbert Dentressangle.
Dywedodd Stella: “Mae’n braf iawn cael cydnabod ein staff sydd wedi llwyddo i gyflawni eu targedau dysgu. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu ein perthynas gyda Choleg Glannau Dyfrdwy ymhellach yn y dyfodol, wrth i ni annog rhagor o’n gweithlu i gymryd rhan mewn cyrsiau a datblygu eu sgiliau.” Read more ….

Yn ôl i’r brig»

Seremoni raddio i ddathlu llwyddiant prentisiaid

Cynhaliwyd seremoni raddio i ddathlu llwyddiant Prentisiaid Creadigol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

Mae wyth prentis a oedd yn astudio Digwyddiadau Byw a Gweithrediadau Lleoliadau Diwylliannol newydd gwblhau eu hyfforddiant ac mae chwech ohonynt eisoes wedi cael gwaith. Mae’r prentisiaid wedi symud ymlaen i swyddi yn Amgueddfa Stori Caerdydd, Amgueddfa Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Genero Productions a Chapter.

“Os oes rhywun yn benderfynol o symud ymlaen yn eu gyrfa, byddwn i’n eu cynghori i ystyried prentisiaeth,” meddai Scott Treeby, un o’r rhai a raddiodd. Roedd Scott, sy’n 24 ac yn dod o Aberpennar, wedi troi ei law at nifer o swyddi, yn cynnwys gweithio fel rhan o’r tîm adloniant gyda Haven Holidays cyn cychwyn ar ei Brentisiaeth mewn Digwyddiadau Byw gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Yn ystod ei brentisiaeth, bu Scott yn gweithio ar nifer o ddigwyddiadau yn cynnwys gwyliau bwyd, digwyddiadau codi arian i elusennau a digwyddiadau cerddorol. Bu’n helpu i cydlynu’r gwaith marchnata ac yn rheoli staff achlysurol a gwirfoddolwyr. Bu Gemma Martin, prentis llwyddiannus arall, yn gweithio yng nghanolfan gelfyddydau Chapter, yn helpu’r timau marchnata a blaen tŷ. Roedd Gemma, sy’n 25 ac yn byw yn Nhremorfa, yn mwynhau’r cyfle i rwydweithio a dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd proffesiynol. Erbyn hyn, mae Gemma yn Gynorthwy-ydd Achlysurol yn Swyddfa Docynnau Chapter.

Meddai Gemma: “Fe wnes i fwynhau dysgu am wahanol rannau o’r busnes, yn enwedig sut y mae digwyddiadau ac arddangosfeydd yn cael eu trefnu.” Llwyddodd Owain Parry a Hari Howell i gwblhau eu prentisiaethau yn Amgueddfa Stori Caerdydd.

Dywedodd Hari: “Rwy wedi mwynhau’r cyfle gwych a gefais i ennill profiad yng ngwaith rhedeg amgueddfa o ddydd i ddydd ac rwy wedi dod yn gysurus i weithio y tu ôl i’r llenni. Rwy wedi dysgu llawer ar y cwrs ac wedi gwneud cysylltiadau gwerthfawr gyda chydweithwyr.”

Dywedodd Mike James, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Caerdydd a’r Fro: “Rydyn ni yn y Coleg wrth ein bodd o gael cefnogi’r myfyrwyr hyn a dathlu eu llwyddiant. Fel y coleg cyntaf i fod yn rhan o’r Academi Sgiliau Cenedlaethol yng Nghymru, rydym yn cydweithio’n agos â Sgiliau Creadigol a Diwylliannol i sicrhau bod yr hyfforddiant a’r cymwysterau yn diwallu anghenion yt diwydiant a dyheadau’r myfyrwyr.”

Yn ôl i’r brig»

Shirley ar restr fer Gwobrau Arwain Cymru 2013

Mae Rheolwr Gyfarwyddwr ISA Training, Shirley Davis-Fox, wedi llwyddo i gyrraedd rhestr fer Gwobrau Arwain Cymru eleni mewn cystadleuaeth o safon uchel.

Shirley Davis-Fox

Cyrhaeddodd Shirley’r rhestr fer yn y categori Merched mewn Arweinyddiaeth. Cafodd ei henwebu gan Dawn Elliott, rheolwr datblygu busnes ISA, am ysbrydoli eraill wrth arwain darparwr hyfforddiant annibynnol mwyaf Cymru ym maes trin gwallt a harddwch.

Yn ogystal ag arwain ISA Training, mae Shirley’n cynrychioli Cymru ar y Cyngor Trin Gwallt a hi yw Llysgennad trin gwallt cenedlaethol Worldskills.

Erbyn hyn, mae ISA Training ddeg gwaith y maint yr oedd pan gafodd ei lansio ym 1998. Mae’n cyflogi 62 o staff ac mae’n un o ddim ond tri y cant o’r cwmnïau a achredwyd gan Buddsoddwyr mewn Pobl sydd wedi cyrraedd y Safon Aur.

O dan arweiniad Shirley, mae’r cwmni’n trefnu cynlluniau cyfnewid arloesol gyda dysgwyr o dramor ac mae Salon Cymru yn ddigwyddiad blynyddol bywiog yng Nghaerdydd i ddangos doniau ym maes trin gwallt a harddwch.

Ym mis Mai, bydd deg o brentisiaid trin gwallt a harddwch a dau asesydd o ISA Training yn hedfan i Tarragona, Sbaen am leoliad profiad gwaith arloesol a ariannir gan Raglen Leonardo y Comisiwn Ewropeaidd.

Dywedodd Barbara Chidgey, llefarydd dros Wobrau Arwain Cymru: “Clywn lawer o sôn am bwysigrwydd ac effaith arweinyddiaeth yn ein cymdeithas ni heddiw. Fodd bynnag, tasg Gwobrau Arwain Cymru yw darganfod a dathlu enghreifftiau o arweinyddiaeth go iawn sydd wedi cyffwrdd â bywydau pobl go iawn.

“Unwaith eto, rydym wedi cyrraedd llawer rhagor o bobl ledled Cymru ac rydym wedi cael ymateb enfawr, gydag enwebiadau’n cyrraedd o bob rhan o Gymru ac o swyddi arwain diddorol ac amrywiol. Rwy wedi fy ysbrydoli a fy nghalonogi o ddarllen enwebiadau cynifer o bobl sy’n arwain eu timau neu eu sefydliadau mewn ffordd mor angerddol er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn.”

Dywedodd Dawn Elliott: “Mae Shirley yn arweinydd ysbrydoledig ac mae’n rhyfeddol o gryf a chadarn. Mae’n gweithio’n ddiflino er budd ei staff a’r diwydiant ac mae bob amser yn mynd yr ail filltir i sicrhau bod y sector yn cael ei gynrychioli mewn ffordd ystyrlon a byth yn cael ei danseilio.

“Mae wedi datblygu a meithrin diwylliant ac ethos ISA, trwy ein gwerthoedd sef Ysbrydoli, Llwyddo a Rhyfeddu a daeth Safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl i gadarnhau hyn ym mis Ionawr 2013.”

Yn ôl i’r brig»

Y Môr-filwyr Brenhinol yn rhoi dysgwyr MPCT ar ben ffordd

Heidiodd dysgwyr o Gaerdydd, Casnewydd, Rhymni a Phen-y-bont ar Ogwr i Gastell Caerdydd heddiw gan edrych ymlaen at ddiwrnod gyda’r Môr-filwyr Brenhinol.

Nod y diwrnod oedd dysgu am fywyd Môr-filwyr Brenhinol. Roedd gan y Môr-filwyr nifer o stondinau gweithgareddau i roi prawf ar sgiliau a chadernid y dysgwyr, fel y stondin gweithgareddau laser lle’r oedd angen defnyddio tactegau tanio a chuddio ar dasgau a bennwyd gan y Môr-filwyr Brenhinol.

Roedd nifer o arfau i’w gweld hefyd, yn cynnwys y SA80/LSW a’r GPMG, a systemau arfau mwy cymhleth fel y Gwn Peiriant Grenadau sy’n tanio 30 grenad y funud. Cafodd y dysgwyr gyfle i drafod yr offer ac roedd eu brwdfrydedd yn amlwg.

Roedd cyfle i’r dysgwyr fynd ar y Cychod Zodiac cyflym ar afon Taf gyda rhai o ddynion mwyaf profiadol y Môr-filwyr Brenhinol – taith a oedd yn ddigon i godi gwallt eich pen! Mae MPCT yn falch o gael dweud na chollwyd neb ar y ffordd!

Yng Nghastell Caerdydd, roedd tŵr delfrydol i rai oedd â stumog am uchder i roi cynnig ar abseilio – ffordd dda i ddatblygu hyder.

Ar ddiwedd y dydd, cafwyd arddangosfa ymladd llaw-i-law (anaddas i’r gwangalon) sy’n dangos yr hyfforddiant llym y mae’r Môr-filwyr Brenhinol yn mynd trwyddo a’r peryglon y maent yn gorfod eu hwynebu.

Meddai Tryston Wilkins o’r Rhymni: “Mae hwn wedi bod yn ddiwrnod gwych ac wedi dangos beth y mae’r Môr-filwyr Brenhinol yn ei wneud o ddydd i ddydd. Y peth gorau oedd ein bod ni i gyd wedi cael cyfle i droi ein llaw at rai o’r gweithgareddau.”

Llwyddodd Michael Toye sy’n hyfforddwr gyda MPCT i grynhoi teimladau’r dysgwyr trwy ddweud: “Roedd yn gyfle unigryw i weld sgiliau rhyfeddol y Môr-filwyr Brenhinol drosom ein hunain. EPIC!”

Yn ôl i’r brig»

VSP (Wales) Ltd – Safon Aur i’r Consortium!


Mae’n bleser gan Vocational Skills Partnership (Wales) Ltd gyhoeddi bod pob un o’r pedwar sefydliad sy’n aelodau o’r bartneriaeth wedi cyrraedd Safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl. O’r 30,000 o gwmnïau sydd â statws Buddsoddwyr Mewn Pobl yn y DU ar hyn o bryd, dim ond 1% sydd wedi cyrraedd y safon uchaf, y safon ‘Aur’, ac mae hyn yn cynnwys pob un o bedwar partner VSP: Aspiration Training (Wales) Ltd, Educ8 Ltd, Network Training Services Ltd a TSW Training Ltd.

VSP yw’r unig gonsortiwm yn y rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru sy’n cynnwys pedwar partner cyfartal ac felly mae’n unigryw. O’r dechrau’n deg, mae’r pedwar aelod (pob un ohonynt wedi ennill o leiaf Radd 2 yn adolygiad diweddaraf Estyn) wedi ymrwymo i gydweithio yng Nghymru i gyflwyno addysg alwedigaethol gyda’r gorau yn y byd. Mae’r ffaith fod y pedwar partner wedi cyrraedd safon Aur y cynllun Buddsoddwyr mewn Pobl yn dangos pa mor benderfynol yw VSP o sicrhau safonau uchel trwy’r sefydliad cyfan.

Dyma rai o lwyddiannau eraill VSP yn ddiweddar:

  • cyfradd boddhad o 90% ymhlith dysgwyr yr holl bartneriaid mewn arolwg yn ddiweddar
  • Datblygu adnodd lles dysgwyr a allai fod yn un o’r goreuon yn y sector, www.mywellbeinghub.co.uk
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth y staff o themâu allweddol fel ADCDF, y Gymraeg a Diwylliant Cymru, a Iechyd a Diogelwch
  • Sicrhau un o ddyraniadau mwyaaf Twf Swyddi Cymru yng Nghymru

“Trwy ffurfio VSP, mae’r holl bartneriaid wedi cael cyfle i wella ansawdd eu gwaith. Mae pob partner mewn gwell sefyllfa nag erioed i ystyried ei berfformiad ei hunan a’i gymharu â’r gorau a fu gan VSP i’w gynnig erioed. O ganlyniad i hynny, mae ansawdd saw agawedd ar y gwaith wedi gwella. Mae cael gwybod bod holl aelodau VSP wedi cyrraedd Safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl yn dipyn o gamp ac rydyn ni i gyd yn falch iawn o hynny.” Catherine Jenkins, Rheolwr Contract VSP.

Yn ôl i’r brig»

Prentisiaid yn cael mwy o lais yng Nghymru

Mae cymdeithas newydd – Cymdeithas Genedlaethol Prentisiaid Cymru – a’r brentisiaeth sabathol gyntaf yn rhoi mwy o lais a mwy o gefnogaeth i bobl sy’n cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith.

Mae Cymru’n arwain y ffordd yn rhoi llais i brentisiaid.

Mae Cymdeithas Genedlaethol Prentisiaid Cymru yn gymdeithas newydd sy’n rhoi fforwm i bobl sy’n cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith i ddweud eu dweud er mwyn gwella’u hamgylchedd dysgu. Mae hyn yn gam arloesol i Gymru.

Cam arloesol arall yw cael cynrychiolydd prentisiaid yn ACT Training, y sefydliad mwyaf yng Nghymru sy’n darparu dysgu seiliedig ar waith. Bydd y cynrychiolydd yn treulio blwyddyn sabathol gydag ACT Training, yn debyg iawn i swyddogion sabathol mewn undebau myfyrwyr. Fodd bynnag, bydd y gwaith o gynrychioli cyd-brentisiaid yn ACT yn cael ei drefnu fel prentisiaeth.

Dywedodd Raechel Mattey, Dirprwy Lywydd UCMC:

“Rhoi cyfle i fyfyrwyr gael llais yn eu haddysg yw bara menyn Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru. Nid dim ond y rhai sy’n dysgu yn ystafelloedd dosbarth colegau a phrifysgolion ddylai gael eu cynrychioli.”

“Mae prentisiaid yn fyfyrwyr, wedi’r cyfan, ac maent yn haeddu gwrandawiad. Dyna pam yr ydym wedi creu Cymdeithas Genedlaethol Prentisiaid Cymru. Dyna, hefyd, pam y mae’r mwyaf o’n darparwyr prentisiaid, ACT Training, wedi creu prentisiaeth sabathol i gynrychioli barn pobl eraill sy’n cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith – y gyntaf o’i bath yng Nghymru.

“Yn aml, dydi prentisiaid ddim yn cael eu cynrychioli gystal â dysgwyr eraill yng Nghymru. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn deall y problemau y mae prentisiaid yn eu hwynebu ac yna’u galluogi i ddweud eu dweud er mwyn cael gwell bargen yng Nghymru.”

Dywedodd Caroline Cooksley, Cyfarwyddwr Datblygu gydag ACT:

“Rydyn ni’n falch iawn o gael arwain y ffordd ym Mhrydain gan rhoi lle canolog i lais dysgwyr yn ein gwaith. ACT yw’r darparwr prentisiaethau mwyaf yng Nghymru a bu’n cydweithio â dysgwyr mewn gwahanol ffyrdd ers dros ugain mlynedd er mwyn sicrhau eu bod yn cael gwrandawiad wrth i ni ddatblygu’r ddarpariaeth hyfforddi.

“Gan ei bod yn ddyletswydd arnom sicrhau gwerth am arian a gwneud defnydd cyfrifol o arian y llywodraeth, rydym wedi penderfynu creu pwyllgor llywodraethu – y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig. Mae’n bleser gennym gael cydweithio ag UCMC i greu lle i brentis sabathol eistedd ar y pwyllgor hwn i’n helpu i sicrhau ein bod yn gwrando ar anghenion pob math o ddysgwyr ledled Cymru.”

Yn ôl i’r brig»

Acorn a Met Caerdydd yn ymuno i lansio gradd unigryw seiliedig ar waith

Sarah John


Mae cwmni recriwtio a hyfforddi blaenllaw Acorn Group sy’n gweithredu ledled y Deyrnas Unedig, mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Dysgu Seiliedig ar Waith ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, wedi lansio’r fasnachfraint gyntaf yng Nghymru ar gyfer gradd sylfaen i ddarparwr preifat dysgu seiiedig ar waith.

Nod y Radd Sylfaen (celfyddydau) mewn Ymarfer Proffesiynol Cymhwysol yw rhoi profiad llawn o brifysgol i’r myfyrwyr, gan adael iddynt barhau i weithio ar yr un pryd.

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau arwain a rheoli’r myfyrwyr gyda golwg ar annog eu datblygiad proffesiynol.

Bydd y radd ei hun yn cael ei chyflwyno gan Acorn, sydd â’i bencadlys yng Nghymru, ac yn cael ei hachredu gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd. Dyma’r tro cyntaf i gwmni preifat sy’n darparu dysgu seiliedig ar waith gynnig gradd fel hon yng Nghymru. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio’n arbennig i fod yn hyblyg ac mae’n rhoi cyfle i’r rhai sydd eisoes yn gweithio ym maes rheoli i lunio amserlen sy’n addas iddyn nhw dros ddwy flynedd academaidd a hanner.

Dywedodd Sarah John, Cyfarwyddwr Masnachol Dysgu a Datblygu Acorn: “Yr ysgogiad wrth greu’r radd hon oedd y dylai fod yr un mor fuddiol i gyflogwyr ag i weithwyr. O safbwynt busnes, mae’r cwrs yn cynnig dysgu yn y swydd, gwell cyfraddau cadw staff ac mae’n gofyn am ymrwymiad, gan gyflogwyr, i ddatblygu eu rheolwyr.

“Mae myfyrwyr sy’n gweithio mewn pob math o ddiwydiannau’n cael cyfle i ddewis pynciau, defnyddio’u dysgu a’u profiad blaenorol tuag at gredydau modiwlau, gwella’u rhagolygon ar gyfer gyrfa a dyrchafiad a dangos cymwyseddau trwy ddysgu seiliedig ar waith. Mae cysylltiad agos rhwng y radd ac agenda addysg Llywodraeth Cymru, gan gyfuno cydweithio, dysgu seiliedig ar waith ac astudio rhan-amser a gall fod modd cael eich cyllido i wneud y radd.

Meddai Dr Peter Treadwell, rheolwr a darlithydd yng Nghanolfan Dysgu Seiliedig ar Waith Prifysgol Fetropolitan Caerdydd: “Mae rheolaeth dda yn hollbwysig i unrhyw sefydliad ac mae’n allweddol sicrhau bod gan staff y sgiliau cywir ar gyfer y swydd. Trwy ddarparu cyfle i astudio ar lefel uwch, gall cyflogwyr ddangos i’w staff pa mor werthfawr ydynt iddynt ynghyd â gwella perfformiad eu busnes, teyrngarwch a chyfraddau cadw staff.

“Trwy gynnal y cwrs hwn, rydym yn gobeithio gwneud gradd prifysgol yn fwy hygyrch, gan hybu ansawdd y staff sydd ar gael yng Nghymru yn y pen draw.”

Yn hytrach na thraethawd hir, gall unigolion ddangos eu cymhwysedd mewn asesiad seiliedig ar waith y gellir ei gysylltu ag amcanion eu busnes. Dim ond 14 hanner diwrnod a dreulir allan o’r swyddfa yn ystod y flwyddyn academaidd, gyda diwrnod cynefino ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf.

Mae cyfleoedd hefyd i barhau â’r gwaith academaidd gyda chyfle i droi’r radd sylfaen yn radd lawn trwy ychwanegu credydau.

Yn ôl i’r brig»

Un o sefydlwyr RLP yn symud i feysydd newydd

Karl Napieralla, OBE


Roedd Karl Napieralla, OBE, Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn un o sefydlwyr y Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol(RLP). Gweledigaeth a brwdfrydedd Karl a ddaeth â nifer o gynrychiolwyr ynghyd o wahanol sectorau ac ardaloedd i gynnal y gweithdy cyntaf oll ar Gampws y Graig, Coleg Sir Gâr ym mis Medi 2007. Hyd yn oed bryd hynny, roedd Karl yn rhagweld y lles y gallai’r Bartneriaeth ei wneud i addysg uwch, addysg bellach, rhanddeiliaid yn y trydydd sector a’r sector preifat, ynghyd ag arbenigwyr awdurdodau lleol mewn addysg ac adfywio. Ers y gweithdy cyntaf hwnnw, bu Karl yn cydweithio â chyrff ledled y rhanbarth yn datblygu RLP. O fis Mai ymlaen, bydd Karl yn cydweithio â Llywodraeth Cymru mewn swydd newydd, sef Pennaeth Ymyrraeth a Chefnogaeth mewn Awdurdodau Lleol a Meithrin Gallu Consortia.

Magwyd Karl yn Nyffryn Afan a chafodd ei addysg yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn ysgolion Cymer Afan a Glan Afan. Enynnwyd ei angerdd at addysg pan oedd yn athro o dan hyfforddiant yng Ngholeg Addysg Caerdydd ac yn fyfyriwr ôl-radd yng Ngholeg Polytechnig Gogledd-ddwyrain Llundain. Aeth yn athro i Ysgol Hassenbrook, Essex, lle daeth yn Bennaeth Hanes ac yn Bennaeth Blwyddyn. Ym 1982, cafodd ei benodi’n Uwch Diwtor Tŷ yn Ysgol Cefn Hengoed, Abertawe ac, ym 1986, daeth yn Ddirprwy Bennaeth ac yna’n Bennaeth Ysgol Gyfun Cwrt Sart. Ym 1995, penodwyd Karl yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Ysgolion a Dysgu Gydol Oes yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol newydd Castell-nedd Port Talbot ac, ar ôl cyfnod yn Gyfarwyddwr Dros Dro, daeth yn Gyfarwyddwr Corfforaethol gyda chyfrifoldeb dros Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes yn 2000.

Mae Karl yn credu’n gryf mewn adfywio cymunedau trwy Ddysgu Gydol Oes a datblygu partneriaethau ac mae’n awyddus iawn i godi safonau trwy sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys a thrwy annog rhagor o drigolion Castell-nedd Port Talbot i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, diwylliant a dysgu. Trwy gydol ei yrfa, bu Karl yn hybu dulliau dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol awyr-agored, yn gyntaf fel athro a gwirfoddolwr ac wedyn trwy ymwneud mewn ffordd strategol ag ysgolion a nifer o sefydliadau eraill. Yn 2008, cyflwynwyd OBE iddo gan y Frenhines am ei wasanaethau i Addysg yng Nghymru.

Bu Karl yn chwarae ac yn hyfforddi rygbi, pêl-droed a hoci am flynyddoedd. Erbyn hyn, mae’n cefnogi tîm rygbi y Gweilch a bu’n cefnogi Manchester United erioed. Ymhlith ei ddiddordebau eraill mae golff, teithio, cerdded a Cherddoriaeth Ieuenctid.

Bu’n gadeirydd Grŵp Llywio RLP ers y dechrau ac mae wedi gwneud llawer i hybu’r Bartneriaeth. Dywedodd Dave Gilbert, Cadeirydd Grŵp Strategaeth RLP, “Rydyn ni’n dymuno’n dda i Karl yn ei swydd newydd. Bu ganddo gyfraniad mawr yn llywio hynt y Bartneriaeth ac mae’n un o’r bobl hynny sydd â gweledigaeth o ddwyn ynghyd addysg, sgiliau ac adfywio er budd pobl, byw, dysgu a gweithio yn y rhanbarth. Bydd yn anodd iawn i ddilyn yn ôl ei draed.”

Yn ôl i’r brig»

Dyddiadau i’ch Dyddiadur

18 Hydref 2013
Cynhadledd Flynyddol NTfW
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor

18 Hydref 2013
Gwobrau Cenedlaethol Hyfforddiant a Phrentisiaethau
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor

14-17 Tachwedd
The Skills Show yn yr NEC, Birmingham
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor

Yn ôl i’r brig»

More News Articles

  —