Cymru’n dathlu dylanwad rhaglen rheoli arian

Postiwyd ar gan karen.smith

L-R Jeff Protheroe NTfW, Sarah Porretta Lloyds Bank, Bethan Phillips Llysgennad yr Her Arian am Oes, Janet Finch-Saunders, AC am Aberconwy a Rachel Dodge ColegauCymru

Mewn digwyddiad yng Nghaerdydd, dathlwyd y dylanwad mae pobl ledled Cymru yn cael yn eu cymunedoedd yn sgil cymryd rhan yn rhaglen arobryn Banc Lloyds, Arian am Oes.
Mae Arian am Oes yn rhaglen rheoli arian personol, gyda’r bwriad o wella gwybodaeth, hyder a sgiliau cymunedau ledled y DU i helpu pobl i reoli eu harian yn well.

Mae cymunedau lleol yng Nghymru wedi cymryd rhan yn y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd, fel cwblhau cymwysterau hyfforddiant sydd wedi’u hariannu’n llawn, a chymryd rhan yn yr Her Arian am Oes i unigolion rhwng 16 a 24 oed.

Ers i’r rhaglen ddechrau yn 2010, mae mwy na 2,400 o bobl wedi cael eu hyfforddi i addysgu rheoli arian personol i gymunedau wrth ymgysylltu â 600 o sefydliadau ledled y DU.

Gwnaeth ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, sy’n cyflenwi’r rhaglen yng Nghymru, gynnal y digwyddiad yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd, i ddod â phobl ynghyd sydd wedi sicrhau bod Arian am Oes yn llwyddiant, ac i gyflwyno’r rhaglen i fwy o grwpiau cymunedol a darparwyr dysgu.

Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer Llywodraeth Leol, Janet Finch-Saunders, AC Aberconwy, a wnaeth ganmol yr effaith gadarnhaol mae’r rhaglen yn ei chael ar gymunedau ac unigolion ledled Cymru.

“Yn dilyn yr argyfwng ariannol byd-eang, rydym i gyd wedi teimlo’r esgid yn gwasgu yn sgil y sefyllfa gyllidol anodd,” meddai. “Mae hyn wedi achosi cynnydd mewn dyled bersonol a chynnydd mewn benthycwyr arian parod.”

Mynegodd bryder fod mwy na 90,000 o bobl yng Nghymru wedi defnyddio gwasanaethau benthycwyr arian parod ac roedd hi’n frwdfrydig i hyrwyddo rhaglenni rheoli arian, fel Arian am Oes, i atal pobl rhag syrthio i gylch dieflig o ddyled.

Addawodd y byddai’n trafod y rhaglen Arian am Oes yn y Senedd, wrth i Fil Llythrennedd Ariannol Aelod Preifat, a gynigiwyd gan Bethan Jenkins AC Plaid Cymru, gael ei drafod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod pobl ifanc yn dysgu’r sgiliau i wneud y penderfyniadau cywir gyda’u harian rhwng y broses o ddysgu i ennill cyflog,” ychwanegodd. “Mae’r rhaglen Arian am Oes wedi’i chreu er mwyn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i reoli eu harian yn llwyddiannus a chefnogi’r gymuned ehangach i wneud hynny.”

Dywedodd Allan Griffiths, Llysgennad Cymru Grŵp Bancio Lloyds: “Nod y rhaglen Arian am Oes yw sefydlu sgiliau arian mewn cymunedau ledled y wlad a’u helpu i ffynnu. Gwnaethom benderfynu ei bod yn amser nodi’r effaith fendigedig mae’r rhaglen wedi’i chael ledled Cymru.

“Drwy’r Her Arian am Oes, rydym wedi dyfarnu mwy na 350 o grantiau gwerth £500 i dimau o bobl ifanc ddatblygu prosiectau arloesol sy’n cael effaith barhaol ar wella eu sgiliau rheoli arian eu hunain, yn ogystal â’u ffrindiau â’u teuluoedd.

“Mae’n bwysig meddwl am yr effaith gadarnhaol mae rhaglen Arian am Oes wedi’i chael ac rwy’n edrych ymlaen at weld yr effaith y bydd yn parhau i’w chael ledled y wlad.”

Cyflwynodd ddyfarniadau i bum unigolyn a sefydliad sydd wedi gwneud cyfraniadau aruthrol i lwyddiant y rhaglen yng Nghymru. Ar gyfer cymwysterau Arian am Oes, dyfarnwyd gwobr ymgysylltiad unigol i Siân McDonald o Gartrefi Dinas Casnewydd a derbyniodd Hayley Rees a Ros Protheroe o Hyfforddiant ACT Caerdydd, y wobr am ymgysylltu â sefydliadau.

Ar gyfer yr Her Arian am Oes, dyfarnwyd gwobr noddwr prosiect eithriadol i Ian Reynolds o’r Ganolfan Hyfforddiant a Chyflogaeth yn Abertawe, dyfarnwyd gwobr ymgysylltu â sefydliadau i Lucy Turtle, swyddog menter Coleg Gŵyr Abertawe a dyfarnwyd gwobr am gefnogaeth eithriadol i Kelly Jennings, cydlynydd dysgu a chyfoethogi Coleg y Cymoedd.

Ymhlith y siaradwyr eraill roedd rheolwr y rhaglen Arian am Oes yng Nghymru, Rachel Dodge o GolegauCymru; Llysgennad yr Her Arian am Oes Bethan Phllips; rheolwr gweithrediadau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Jeff Protheroe; swyddog cynhwysiant ariannol Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, Paul Elliot; rheolwr cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro, Felix McLaughlin; a Rick Taylor, tiwtor sgiliau hanfodol yng Ngharchar Caerdydd.

Cafodd gweithdai eu cynnal gan Rick Taylor; Sumim Naher a Sian McDonald o Gartrefi Dinas Casnewydd; Lisa Chilcott o Gyngor ar Bopeth Cyngor Caerffili a Blaenau Gwent; a Jen Williams o Gymdeithas Tai Cadwyn.

Cafodd grwpiau rhwng 16 a 24 oed sydd am fod yn rhan o Her Arian am Oes eleni eu hannog i gyflwyno eu ceisiadau cyn y dyddiad cau ar 22 Tachwedd.

More News Articles

  —