Prentisiaethau’n llenwi bylchau sgiliau yng ngweithlu cwmni gêrs

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Rheolwr cynhyrchu Compact Orbital Gears, Rob Price gyda’r prentisiaid Ruben Clements, Rowan Morgan, Ollie Leadbetter a Luke Jones, sydd wedi cwblhau ei brentisiaeth.

Bu datblygu gweithlu hyblyg â sgiliau amrywiol yn help i sicrhau bod Compact Orbital Gears yn enw blaenllaw yn y diwydiant gêrs arbenigol ers dros hanner canrif.

Mae’r cwmni, sy’n cyflogi 43 yn Rhaeadr Gwy, yn dylunio, yn cynhyrchu ac yn datblygu gêrs pwrpasol ar gyfer cwsmeriaid yn y byd awyrofod, moduron ac ynni glân.

Y gallu hwn i gynnig cynnyrch wedi’i gynllunio’n arbennig yw’r allwedd i lwyddiant y cwmni. Sefydlwyd Compact Orbital Gears yn yr 1960au ac mae’n ymfalchïo yn ei weithlu medrus, ei ysbryd teuluol a’i hanes maith o gyflogi prentisiaid o’r Canolbarth.

Yn awr, mae’r cwmni wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Mae gan Compact Orbital Gears dri phrentis a phump o weithwyr ifanc eraill yn gweithio tuag at gymwysterau Addysg Bellach ar hyn o bryd. Myrick Training a Grŵp Colegau NPTC, Campws y Drenewydd sy’n darparu’r cymwysterau yn cynnwys Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg (Lefel 2), Diploma Estynedig mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg Fecanyddol Lefel 3, HNC Lefel 4 mewn Peirianneg Fecanyddol a BTEC mewn Busnes a Gweinyddu.

Mae’r penderfyniad i ganolbwyntio ar ddatblygu ei gronfa ei hunan o beirianwyr medrus yn talu’r ffordd i Compact Orbital Gears mewn cyfnod o brinder ledled Prydain. Mae’r Rhaglen Brentisiaethau’n cynnig hyfforddiant technegol, gyda chyfarwyddyd arbenigol gan weithwyr profiadol yn y cwmni sy’n rhannu eu sgiliau a’u gwybodaeth gyda’r prentisiaid.

Gan fod Compact Orbital Gears yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu, mae’r staff yn tueddu i aros yn hir a nod hirdymor y cwmni yw cyflwyno peiriannau cyfrifiadurol, modern, a fydd yn ddelfrydol ar gyfer helpu prentisiaid i ddatblygu.

Ym marn y cwmni, mae twf organig yn allweddol i’w lwyddiant, ac mae’n cynnig lleoliadau gwaith i raddedigion ac i ddarpar beirianwyr o ysgolion yr ardal.

Dywedodd Tricia Evans, rheolwr cyllid Compact Orbital Gears: “Ymunodd y rhan fwyaf o’n gweithwyr â’r cwmni fel prentisiaid ac mae un newydd ddathlu 50 mlynedd o wasanaeth gyda ni.

“Er mwyn i’r cwmni barhau i lwyddo i’r dyfodol, mae’n hanfodol ein bod yn datblygu ac yn annog gweithwyr newydd, gan eu bod yn dod â gwybodaeth newydd a syniadau ffres i’r cwmni.”

Dywedodd Nick Jones, rheolwr hyfforddiant a pheirianneg gyda Myrick Training: “Mae Compact Orbital Gears yn dda iawn am ragweld bylchau sgiliau yn ei weithlu ac mae’n awyddus iawn i gefnogi a meithrin doniau yn y cwmni ei hunan.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.
 
“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.
 
“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.
 
“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —