Cyhoeddi enillwyr yn Rownd Derfynol Genedlaethol Cymru Her Arian am Oes

Postiwyd ar gan karen.smith

From left to right: Karl Strangeward-Morgan, Tom Parsons, Ben Johns, Jonathon Brittan, Craig Tiley, Joel Kelly, Jacob Watkins, Josh Corbett and Craig Lawrence celebrate winning the People’s Prize at the Wales National Final of the Money for Life Challenge at the Dr Who Experience in Cardiff.

Chwith i’r dde: Sam Schooler, Tom Jackson, Lowri Bailey, Tom Tweedy, Amy Louise Follett, Pete Vers, Ashley O’Sullivan a Tom Booth o DOSH, yn dathlu ennill Rownd Derfynol Cymru yr Her Arian am Oes yn y Dr Who Experience yng Nghaerdydd.

Mae 2 dîm o Gymru bellach yn cymhwyso am Rownd Derfynol y DU o Her Arian am Oes, sef cystadleuaeth rheoli arian a gynhelir gan Lloyds Banking Group gyda CholegauCymru a Youth Cymru

Mae dau dîm o bobl ifanc yn dathlu heddiw ar ôl cael eu henwi’n enillwyr yn Rownd Derfynol Genedlaethol Cymru o Her Arian am Oes Lloyds Banking Group, sef cystadleuaeth ledled y DU i ysbrydoli gwell sgiliau rheoli arian mewn cymunedau ledled y DU.

Cymerodd 11 tîm o bobl ifanc o Fôn i Fynwy ran yn rownd derfynol, a gynhaliwyd yng nghanolfan y Dr Who Experience yng Nghaerdydd ar ddydd Mawrth 28 Ebrill 2015, lle cyflwynasant eu prosiectau i banel o feirniaid a gwesteion uchel eu parch.

Bydd DOSH, Enillwyr Cenedlaethol Cymru o Acorn Learning Solutions yng Nghasnewydd, nawr yn cyflwyno’u prosiect rheoli arian i banel o feirniaid uchel eu proffil yn Rownd Derfynol y DU, tra bydd Enillwyr Gwobr y Bobl, Gym Value for Money o gampws Crosskeys Coleg Gwent, yn arddangos eu prosiect yn y digwyddiad fydd yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Ffilm Llundain ar 28 Mai. Bydd y ddau grŵp yn cystadlu yn erbyn prosiectau o Loegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn Rownd Derfynol y DU.

Cyflawnodd y timau eu prosiectau dros gyfnod o dri mis ar ôl i grant o £500 gael ei ddyfarnu gan Arian am Oes i roi eu syniadau ar waith.

Enillydd Rownd Terfynol Cenedlaethol Cymru

DOSH (Defining Our Spending Habits) – Acorn Learning Solutions
Anelodd DOSH eu prosiect tuag at fyfyrwyr 16-18 oed sy’n ystyried addysg uwch. Rhoddodd y grŵp sgwrs ar reoli arian mewn chweched dosbarth lleol ac wedyn cynhaliwyd digwyddiad gyda siaradwyr gwadd o wahanol sefydliadau a ranodd eu dealltwriaeth ar bwysigrwydd rheoli arian. Darparon nhw hefyd ‘becyn dechreuwyr’ i fyfyrwyr a oedd yn cynnwys cynghorion cyllidebu a chyngor sydd ar gael ar wefan y tîm.

Enillydd Gwobr y Bobl Cymru

Gym Value for Money – Campws Crosskeys Coleg Gwent
Mae Gym Value for Money yn dîm sy’n cynnwys hyfforddwyr campfa dan hyfforddiant a sylwodd y gallen nhw helpu eu cyfoedion i arbed arian wrth gadw’n iach ar yr un pryd. Gweithion nhw’n benodol gyda myfyrwyr Sgiliau Byw yn Annibynnol a chanddynt anawsterau corfforol neu ddysgu i ddangos iddynt y gallen nhw arbed cannoedd o bunnoedd trwy ddefnyddio campfa’r coleg yn lle dewis preifat lleol.

From left to right: Sam Schooler, Tom Jackson, Lowri Bailey, Tom Tweedy, Amy Louise Follett, Pete Vers, Ashley O’Sullivan and Tom Booth from DOSH, celebrate winning the Wales National Final of the Money for Life Challenge at the Dr Who Experience in Cardiff.

Chwith i’r dde: Karl Strangeward-Morgan, Tom Parsons, Ben Johns, Jonathon Brittan, Craig Tiley, Joel Kelly, Jacob Watkins, Josh Corbett a Craig Lawrence yn dathlu ennill Gwobr y Bobl Cymru yr Her Arian am Oes yn y Dr Who Experience yng Nghaerdydd.

Dyfarnwyd gwobr y beirniaid i Brosiect Teuluoedd Radiate o Charter Housing yng Nghasnewydd hefyd am weithio gyda thenantiaid lleol i sicrhau eu bod yn arbed arian trwy fod yn ynni effeithlon. Trwy wneud hynny, hyfforddon nhw eu haelodau hefyd i osod paneli adlewyrchiadol yng nghartrefi pobl a arweiniodd mewn aelod o’u tîm yn mynd i gyflogaeth amser llawn o ganlyniad i’r prosiect.

Dywedodd Claire Howells, noddwr prosiect DOSH o Acorn Learning Solutions: “Rydyn ni mor gyffrous o fod wedi ennill Rownd Derfynol Genedlaethol Cymru o Her Arian am Oes heddiw. Rwy’n credu ei fod yn destament i’r holl waith caled ac i angerdd ein tîm anghredadwy sydd wedi dysgu cymaint o’r Her hon. Allwn ni ddim aros i gynrychioli Cymru yn y Rownd Derfynol.

Dywedodd Josh Corbett, aelod o dîm Gym Value for Money: “ Rydym yn wirioneddol falch o fod yma heddiw ac mae’r tîm yn hynod falch o fod wedi ennill Gwobr y Bobl Her Arian am Oes. Mae’r Her Arian am Oes wedi rhoi cyfle i ni wneud yr hyn rydym yn ei garu wrth helpu’n cyfoedion a dysgu am reoli arian.” Pleidleisiwyd am Wobr y Bobl gan fynychwyr Rownd Derfynol Genedlaethol Cymru.

Dywedodd Kerry Duke, noddwr Prosiect Teuluoedd Radiate o Charter Housing: “Mae dim ond bod yma yn Her Arian am Oes yn gyffrous tu hwnt i’r tîm ond mae ennill Gwobr y Beirniaid yn hynod bleserus. Mae’n anodd rhoi mewn geiriau faint mae’r grŵp hwn, yn ogystal â’r gymuned y gweithiwn ynddi, wedi’i ennill o’r profiad hwn yn ei gyfanwaith.”

Dywedodd David Rowsell, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn Lloyds Banking Group: “Mae’r Her Arian am Oes sydd bellach yn ei phedwaredd flwyddyn yn parhau i helpu pobl ifanc i greu prosiect rheoli arian a fydd o fantais i’w cymuned leol ac yn eu galluogi i ddatblygu’r sgiliau y mae arnynt eu hangen i reoli eu harian eu hunain hefyd.”

“Mae’r Her eleni wedi gweld timau’n dangos safon uchel o arloesedd ac ymrwymiad a chreodd y sawl yn ein rownd derfynol genedlaethol argraff enfawr ar ein beirniaid. Rydym wrth ein boddau o weld bod cynifer ohonynt eisoes wedi cael effaith gadarnhaol a mesuradwy yn eu cymunedau.”

Mae Arian am Oes yn un o’r rhaglenni craidd wrth wraidd nod Lloyds Banking Group i helpu Prydain i ffynnu. Cynhelir Her Arian am Oes Cymru mewn partneriaeth â CholegauCymru a Youth Cymru.

Dywedodd Rachel Dodge yng NgholegauCymru: “Mae pawb yn y rownd derfynol genedlaethol eleni wedi cyflawni prosiectau o Fôn i Fynwy sy’n mynd i’r afael â materion ariannol go iawn yn eu cymunedau lleol. Codon nhw ymwybyddiaeth ariannol ymhlith cynulleidfaoedd allweddol wrth ddysgu sgiliau rheoli arian eu hunain ar yr un pryd. Dylen nhw ymfalchïo’n fawr yn eu hymdrechion a’r effaith maen nhw wedi’i chael.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Her Arian am Oes, ewch i www.moneyforlifechallenge.org.uk, neu ar Facebook yn https://www.facebook.com/moneyforlifeuk ac ar Twitter yn www.twitter.com/moneyforlifeuk.

More News Articles

  —