Owain y dyn tywydd yn creu cynnwrf gyda chwmni effeithiau arbennig

Postiwyd ar gan karen.smith

Owain Wyn Evans meets a Dalek with Real SFX managing director Danny Hargreaves.

Owain Wyn Evans yn cyfarfod â Dalek gyda rheolwr gyfarwyddwr Real SFX, Danny Hargreaves.

Roedd bryd y dyn tywydd poblogaidd ar BBC Cymru, Owain Wyn Evans, ar yrfa y tu ôl i’r camera cyn iddo gael swydd fel newyddiadurwr a chyflwynydd teledu.

Manteisiodd ar y cyfle’r wythnos hon i roi cynnig ar swydd gyda’r cwmni effeithiau arbennig arobryn, Real SFX yng Nghaerdydd, sy’n gweithio ar gyfresi poblogaidd fel Dr Who, Coronation Street, Casualty a Sherlock, ac fe gafodd ei ‘saethu’ gydag effaith arbennig gwaedlyd realistig.

Cytunodd Owain i ddod yn hyfforddai effeithiau arbennig am y dydd dan arweiniad rheolwr gyfarwyddwr Real SFX, Danny Hargreaves, er mwyn tynnu sylw at werth cymwysterau galwedigaethol wrth arwain at wobrau cymwysterau cenedlaethol yng Nghymru, sef Gwobrau VQ, ar 9 Mehefin a’r Diwrnod VQ cenedlaethol y diwrnod canlynol.

Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru. Ariennir y gwobrau’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Dathliad cenedlaethol o bobl sydd wedi cyflawni llwyddiant mewn addysg alwedigaethol yng Nghymru yw Diwrnod VQ. Nid yw cymwysterau galwedigaethol erioed wedi bod yn bwysicach i’r economi a’r unigolyn; maen nhw’n cyflawni’r gweithwyr hyfforddedig, dawnus y mae busnesau’n gweiddi amdanynt ac yn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau y mae arnynt eu hangen i lwyddo mewn addysg a gwaith.

Gŵyr Real SFX bopeth am werth cymwysterau galwedigaethol, wedi iddynt gael eu henwi’n Gyflogwr Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y llynedd. Mae’r cwmni, sydd wedi ennill gwobrau Crefft BAFTA ers y ddwy flynedd diwethaf am ei effeithiau arbennig ar Dr Who, yn cydnabod gwerth hyfforddi a datblygu gweithlu medrus i gyflawni llwyddiant yn y busnes.

Nid yw llwybr gyrfa Owain wedi bod heb ei broblemau. Yn wreiddiol, dewisodd astudio yn y brifysgol pan adawodd yr ysgol ond teimlai nad oedd y cwrs dylunio theatr wrth ei fodd. Yn y diwedd, hyfforddodd i fod yn newyddiadurwr gyda BBC Cymru, yn cyflwyno rhaglenni plant ar S4C cyn dod yn ddyn tywydd ar y teledu.

“Sylweddolais yn gyflym nad oedd y Brifysgol i mi ac nid oeddwn am wastraffu amser,” meddai. “Mwy na thebyg y byddai’r llwybr gyrfa fydden i wedi’i ddilyn wedi fy arwain at gynhyrchu golygfeydd y tu ôl i’r llwyfan neu oleuo arbenigol.

“Roedd cael cyfle i weithio gyda Real SFX yn arbennig oherwydd dyma yw’r math o waith cyffrous rwy’n ei garu. Gwnes i fwynhau cael golwg agos ar yr effeithiau arbennig ffrwydrol a ddefnyddiwyd i’m saethu.

“Fy hoff ran oedd gweld yr holl offer a chael Danny’n siarad trwy’r holl bethau maen nhw’n eu defnyddio. Roedd gen i beiriant mwg pan oeddwn yn blentyn ac roeddwn yn hunllef yr adeg hynny oherwydd roeddwn i’n malu pethau’n yfflon o hyd.”

Yn dilyn ei brofiad ei hun, mae’n gefnogwr mawr o gymwysterau galwedigaethol a dysgu gydol oes. “Mae cymwysterau galwedigaethol yn bwysig iawn oherwydd maen nhw’n agor rhagor o ddrysau i bobl sy’n eu cyflawni nhw. Mae pobl ifanc yn dechrau sylweddoli nad yw mynd i’r brifysgol yn sicrhau swydd iddynt yn y pen draw.

“Rydw i hefyd yn cefnogi dysgu gydol oes. Er enghraifft, dilynais gwrs y Brifysgol Agored mewn meteoroleg y llynedd er mwyn gwella fy ngwybodaeth ac mae’n sicr wedi fy helpu gyda’m swydd.”

Mae Real SFX a sefydlwyd yn 2008 yn arbenigo mewn propiau atmosfferig, tân, ffrwydron, rigiau mecanyddol, creu modelau a phropiau meddal ar gyfer teledu, ffilm a’r diwydiant digwyddiadau. Mae gan y cwmni, sy’n cyflogi tîm o 10, gyda 25 o weithwyr eraill sy’n gweithio ar eu liwt eu hunain yn teithio o bob cwr o’r wlad, swyddfeydd yng Nghaerdydd, Pinewood Studios Wales a Manceinion yn ogystal â safle yn yr Alban.

Wrth i’r cwmni ymdrechu i gyflogi mwy o dalent lleol, bydd nifer y gweithwyr ar eu liwt eu hunain sy’n teithio’n ôl a blaen yn debygol o gael ei lleihau.

Mae diogelwch o gwmpas effeithiau arbennig byw’n hollbwysig i’r busnes sydd wedi datblygu rhaglen brentisiaeth benodol mewn cyfryngau creadigol a digidol. Mae tri phrentis wedi’u recriwtio dros y tair blynedd diwethaf ac mae cynlluniau i gymryd dau arall eleni.

“Mae’r rhaglen brentisiaeth wedi’i gwreiddio yng nghynllun busnes Real SFX ac yn sgil agor Pinewood Studios Wales a chefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i’r sector, mae potensial enfawr i brentisiaid dyfu gyda ni,” meddai’r cyfarwyddwr Carmela Carrubba.

“Gan fod y diwydiant effeithiau arbennig yn gymharol newydd yng Nghymru, mae yna fwlch mewn sgiliau, felly mae’n bwysig i ni adeiladu’n gweithlu ein hunain. Y rheswm rydym yn hoffi’r cymhwyster Cyfryngau Creadigol yw oherwydd ei fod yn rhoi golwg i’r prentisiaid i’r diwydiant cyfan ac rydym eisiau bod yn gynrychiolydd blaengar fel cwmni effeithiau arbennig yn y diwydiant creadigol.”

Mae Diwrnod VQ, menter a sefydlwyd gan yr elusen addysg annibynnol Edge Foundation, yn cefnogi’r dyhead y dylai cymwysterau galwedigaethol, nad ydynt ond ar gyfer pobl ifanc, yn cyflawni parch cydradd ochr yn ochr â llwybrau addysgol eraill.

Helpa’r Gwobrau VQ yng Nghymru i roi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.

Mae dau gategori gwobr: Dysgwr VQ y Flwyddyn a Chyflogwr VQ y Flwyddyn. Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni wobrwyo i’w chynnal yn y St David’s Hotel, Caerdydd ar noson 9 Mehefin, sef noswyl Diwrnod VQ.

More News Articles

  —