Prentisiaeth yn helpu i ddiogelu dyfodol crefft draddodiadol Gymreig

Postiwyd ar gan karen.smith

Apprenticeship helps secure future of traditional Welsh art-form

Gwilym Bowen Rhys wrth ei waith yn gwneud clocsiau Cymreig.

Yn ogystal â chwblhau prentisiaeth anghyffredin, mae dyn ifanc 24 oed o’r gogledd wedi helpu i ddiogelu dyfodol crefft draddodiadol Gymreig.

Mae Gwilym Bowen Rhys, o Fethel, wedi defnyddio rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru i gwblhau prentisiaeth Fframwaith Lefel 2 gyda Trefor Owen, gwneuthurwr clocsiau o Gricieth.

Mae Gwilym yn ymddiddori’n fawr mewn cerddoriaeth Gymreig, pop a gwerin, ond nid oedd ganddo brofiad o wneud clocsiau cyn dechrau ar ei brentisiaeth.

“Roedd y brentisiaeth yn gam naturiol ymlaen i mi oherwydd fy niddordeb mewn cerddoriaeth draddodiadol Gymreig,” meddai. “Pan sylweddolais fod un o’r unig wneuthurwyr clocsiau llawn-amser yng Nghymru yn gweithio ar stepen fy nrws, roeddwn yn awyddus i sicrhau bod y grefft nid yn unig yn parhau ond yn cael ei throsglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.”

Yn awr, mae Gwilym wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhelir yn Venue Cymru, Llandudno ar 20 Hydref.

Mae’r Gwobrau, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), yn dathlu llwyddiant eithriadol unigolion, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau, Twf Swyddi Cymru a Phrentisiaethau.

Ariannir y gwobrau gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop a chânt eu noddi gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Bu Trefor Owen yn gwneud clocsiau ers 39 o flynyddoedd ac mae wedi dysgu’r technegau traddodiadol i Gwilym gan ddefnyddio pren lleol o goedwigoedd cynaliadwy. Er enghraifft, daw’r pren ar gyfer y gwadnau o stad Glynllifon gerllaw.

Meddai Trefor: “Mae wedi bod yn hwyl cael gweithio gyda Gwilym ar ei brentisiaeth. Mae’n fachgen clyfar sy’n cymryd gwybodaeth i mewn fel sbwng.”

Dywedodd Paul Edwards, Rheolwr y Cyfryngau Creadigol gyda’r darparwr hyfforddiant, Coleg Menai: “Yn ein barn ni, Gwilym ddylai ennill gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn oherwydd ei ymroddiad a’i waith rhagorol. Mae’n dangos potensial prentisiaethau i drawsnewid bywydau, cefnogi’r gymuned a sicrhau bod crefftau traddodiadol yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Cafodd prentisiaeth Gwilym ei hariannu gan y Cyngor Sgiliau Sector Creadigol a Diwylliannol.

Llongyfarchwyd Gwilym a’r 32 arall a gyrhaeddodd rownd derfynol y gwobrau gan Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. “Gallwn ymfalchïo ein bod yn cynnig un o’r rhaglenni prentisiaethau mwyaf llwyddiannus yn Ewrop ac mae cyfraddau llwyddiant yng Nghymru yn dal ymhell dros 80 y cant,” meddai.

Mae meithrin pobl fedrus yn hanfodol er mwyn ein heconomi. Mae gennym brentisiaid gwirioneddol eithriadol yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle delfrydol i ni ddathlu eu gwaith caled a’u llwyddiannau. Mae’r darparwyr dysgu a’r cyflogwyr sy’n mynd yr ail filltir i gefnogi eu prentisiaid yr un mor bwysig.”

More News Articles

  —