Cylchlythyr NTfW – Ebrill 2016

Postiwyd ar gan karen.smith












Y cystadleuwyr sgiliau gorau yng Nghymru yn cael cydnabyddiaeth gan y Dirprwy Weinidog

16.03.16 mh Celebration Event 67

Mae llwyddiannau dysgwyr, myfyrwyr a phrentisiaid Cymru a fu’n cystadlu mewn dwy gystadleuaeth sgiliau fawr wedi’u dathlu mewn digwyddiadau arbennig yng Nghaerdydd.

Ymgasglodd y cystadleuwyr yn y Senedd a Neuadd y Ddinas i gael eu hanrhydeddu am eu camp yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a rownd derfynol WorldSkills UK, a gynhaliwyd yn y Sioe Sgiliau yn yr NEC yn Birmingham fis Tachwedd diwethaf.

Yn ystod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, bu prentisiaid, gweithwyr cyflogedig a dysgwyr mwyaf dawnus y wlad yn cymryd rhan mewn cystadlaethau yn amrywio o adweitheg i ddatblygu gwefannau, a dyfarnwyd medalau efydd, arian ac aur i’r cystadleuwyr â’r sgoriau uchaf yn eu maes.

Yn rownd derfynol WorldSkills y DU yn yr NEC yn Birmingham, bu mwy na 600 o bobl o bob cwr o’r DU yn cymryd rhan mewn mwy na 60 o gystadlaethau i geisio ennill y teitl ‘y gorau yn y DU’.
Yn ystod y digwyddiadau yng Nghaerdydd, bu’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, yn cyflwyno tystysgrifau cydnabyddiaeth i’r 18 o bobl ifanc sydd ar y rhestr fer fel rhan o garfan y DU.

Yn y Senedd, cydnabuwyd cystadleuwyr o bob math o ddiwydiannau, o ddylunio gwefannau i greu nwyddau gweledol – gan gynnwys Simon Davies, cystadleuydd cyntaf Cymru yn yr Abilympics, sef cystadleuaeth sgiliau i bobl ag anableddau ac anawsterau dysgu.

Cafodd aelodau carfan y DU, ynghyd â’u teuluoedd, eu gwahodd hefyd i ginio dathlu yn Neuadd y Ddinas, lle cyflwynodd hyrwyddwr Cymru WorldSkills, Barry Liles, blaciau i’r bobl ifanc a’u cyflogwyr am y cymorth a’r anogaeth maen nhw wedi’u rhoi i aelodau’r garfan.

16.03.16 mh Celebration Event 258

Meddai’r Dirprwy Weinidog: “Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle perffaith i gydnabod llwyddiannau cystadleuwyr gorau Cymru yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ac yn rownd derfynol WorldSkills y DU. Maen nhw i gyd wedi bod yn ymarfer ers misoedd ac mae’n bwysig adlewyrchu a dathlu eu gwaith caled a’u penderfynoldeb.

“Mae cystadlaethau sgiliau yn helpu i godi safonau mewn perthynas â sgiliau galwedigaethol a dangos i’r byd y doniau sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae pob unigolyn a gydnabuwyd wedi gwneud yn wych a byddan nhw’n esiamplau heb eu hail i ysbrydoli pobl ifanc yng Nghymru.”

Meddai Alfie Hopkins, 17 oed o Lanelli, a enillodd fedal efydd mewn dylunio gwefannau yn Sioe Sgiliau y llynedd: “Dw i ddim wedi bod i’r Senedd o’r blaen, felly mae cael dod yma gyda ’nhad a chael cydnabyddiaeth am fy nghyflawniadau yn brofiad arbennig iawn i mi.

“Dim ond y dechrau yw heddiw. Mae’n gyffrous iawn i feddwl efallai y bydda i’n mynd ymlaen i gynrychioli’r DU yn Abu Dhabi flwyddyn nesaf os bydda i’n cael fy nghynnwys yn nhîm y DU. Rydw i wedi cyfarfod â rhai pobl a fu’n cystadlu yn WorldSkills yn São Paulo y llynedd, ac mae hynny wedi fy ngwneud i’n fwy penderfynol nag erioed.

“Does dim llawer o gyrsiau dylunio gwefannau penodol, felly rydw i wedi dysgu llawer o’m sgiliau fy hun ac rwy’n ymarfer llawer yn fy amser hamdden. Fel rhan o’m hyfforddiant i gael fy newis yn nhîm y DU, bydda i’n cael cyfle i ddysgu gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, a fydd yn helpu gyda’r gystadleuaeth yn ogystal â’m rhagolygon cyflogaeth i’r dyfodol.”

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn hyrwyddo pwysigrwydd datblygu gweithlu medrus gyda’r nod o roi hwb i sgiliau lefel uchel yng Nghymru.

Yn ôl i’r brig»

Atebion Polisi – Rhoi Gwybodaeth i Aelodau’r Cynulliad a’u cynnwys mewn gweithgarwch ôl-16

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru wrthi’n gweithio mewn partneriaeth â ColegauCymru a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith i drefnu cyfres o ddigwyddiadau i roi gwybodaeth i Aelodau’r Cynulliad a’u cynnwys mewn gweithgarwch ôl-16.

Mae ein cyfres Atebion Polisi yn dod â ffyrdd gwahanol o feddwl a syniadau newydd i heriau allweddol mewn polisi cyhoeddus. Rydym am ganolbwyntio ar faterion lle y gall dysgu, sgiliau a chyflogaeth helpu i sicrhau twf economaidd, canlyniadau addysgol gwell, cyflogaeth uwch, gwelliannau mewn cynhyrchiant, gwell iechyd a lles, cynhwysiant cymdeithasol, goddefgarwch a chydlyniad, ac ymgysylltu â chymunedau a dinasyddion. Ein nod cyffredinol yw ennyn diddordeb a thrafod sut y gellir gwella polisi cyhoeddus a sut y gellir gweithredu polisïau i helpu i greu cymdeithas sy’n fwy cynhwysol, teg a llwyddiannus.

Cynhelir y digwyddiadau ar 18 Mai, 14 Mehefin, 7 Gorffennaf, 4 Awst ac 13 Medi. Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn ar gael yn fuan.

Yn ôl i’r brig»

Cyflogwyr a dysgwyr ledled Cymru’n cael eu hannog i gynnig am Wobrau VQ

Little Inspirations nurseries owner Jenine Gill (centre) with staff members Samantha Jones Williams (right) and Aimee Griffiths.

Jenine Gill o feithrinfeydd plant Little Inspirations, sef enillydd Gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn llynedd.

Mae Gwobrau VQ yn cydnabod ac yn dathlu rhai sy’n defnyddio cymwysterau technegol, ymarferol a galwedigaethol i sicrhau llwyddiant.

Rhennir gwobrau eleni’n dri chategori – cyflogwr y flwyddyn, dysgwr canolradd y flwyddyn a dysgwr lefel uwch y flwyddyn. Mae’r wobr ganolradd ar gyfer dysgwyr gyda chymwysterau hyd at lefel tri, ac mae’r wobr uwch ar gyfer cymwysterau o lefel pedwar ac i fyny.

Mae Gwobrau’r Dysgwyr yn cydnabod dysgwyr sy’n dangos dilyniant a rhagoriaeth glir mewn astudiaethau galwedigaethol ac sydd wedi gwneud cyflawniadau sylweddol yn eu maes. Canolbwyntia Gwobr y Cyflogwr ar gyflogwyr sy’n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac sy’n gwneud gwir gyfraniad at wella sgiliau a chystadleugarwch cenedlaethol.

Mae’r gwobrau sydd bellach yn eu 9fed blwyddyn yn olynol, yn cyd-daro â Diwrnod VQ ar 8 Mehefin, sef dathliad o gymwysterau galwedigaethol i fyfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr.

Mae’r dyddiad cau i gyflwyno enwebiadau ar 22 Ebrill. Bydd tri yn cyrraedd y rhestr fer ym mhob categori – a gyhoeddir ar ddechrau mis Mai. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar noson 7 Mehefin yng Ngwesty Dewi Sant (St David’s Hotel), Caerdydd, y diwrnod cyn Diwrnod VQ. I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau ac i lawrlwytho ffurflen gais, ewch i diwrnodvq.cymru

Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Mae gwobr VQ yn fwy na dim ond gwobr; mae’n symbol o ymroddiad tuag at eich proffesiwn dethol.

“Defnyddir rhaglenni datblygiad proffesiynol a phersonol ar gyfer staff er mwyn eu galluogi i ddilyn llwybr dysgu i ddiwallu anghenion cwmnïau, cwsmeriaid ac unigolion. Mae gwobrau VQ yn ein helpu i ddathlu’r cyflogwyr a’r dysgwyr hynny yng Nghymru sydd eisoes yn mynd ymhellach o ran datblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.

“Rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru’n cydweithio i fuddsoddi yn y sgiliau iawn ar gyfer llwyddiant er mwyn darparu gweithlu o safon fyd-eang i Gymru er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu.”

Anogir darparwyr dysgu ledled Cymru i drefnu digwyddiadau rhanbarthol i ddathlu Diwrnod VQ ac ymgysylltu gyda dysgwyr o bob oedran. Nid yw cymwysterau galwedigaethol erioed wedi bod cyn bwysiced i’r economi ac i’r unigolyn, oherwydd maen nhw’n cyflawni’r gweithwyr hyfforddedig, dawnus y mae busnesau’n gweiddi amdanynt ac yn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau angenrheidiol i lwyddo ym myd addysg a gwaith.

Yn ôl i’r brig»

Cofrestru i gystadlu yn WorldSkills 2016

WorldSkills

Y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer WorldSkills 2016 yw dydd Iau 7 Ebrill 2016. Dilynwch y dolenni i gael gwybod rhagor am y cystadlaethau a chofrestru i gystadlu.

Chwilio am ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu disgleiriaf Cymru
Mae ymdrech wedi’i lansio i chwilio am ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o wahanol raglenni sgiliau ledled Cymru.

Cynhadledd ‘Cyflogiaith’ yn dod i Gaerdydd ym mis Gorffennaf
Yn dilyn llwyddiant cynhadledd ‘Cyflogiaith’ yn y gogledd ym mis Ionawr eleni, bydd NTfW a Sgiliaith yn cydweithio eto gan gynnal achlysur tebyg yng Nghaerdydd ar 21 Gorffennaf 2016.

Yn ôl i’r brig»

Chwilio am ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu disgleiriaf Cymru

Thorncliffe, Abergele

Thorncliffe, Abergele

Mae ymdrech wedi’i lansio i chwilio am ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o wahanol raglenni sgiliau ledled Cymru.

Mae’r trefnwyr, Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn gwahodd ceisiadau am Wobrau Prentisiaethau Cymru eleni.

Mae’r Gwobrau’n dathlu llwyddiant eithriadol unigolion, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau, Twf Swyddi Cymru a Phrentisiaethau.

Mae’r trefnwyr yn chwilio am ymgeiswyr sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau, wedi dangos agwedd ddeinamig at hyfforddiant ac wedi dangos blaengarwch, menter, dyfeisgarwch, creadigrwydd ac ymroddiad i wella gwaith datblygu sgiliau yng Nghymru.

Ariannir y Gwobrau gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop a chgânt eu noddi gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Eleni, mae 12 gwobr, yn cynnwys dwy mewn dosbarth newydd ar gyfer ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith: asesydd y flwyddyn dysgu seiliedig ar waith a thiwtor y flwyddyn dysgu seiliedig ar waith.

Mae’r dosbarth hwn yn cydnabod ymroddiad, egni a brwdfrydedd ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a’r rhan allweddol y maent yn ei chwarae yn helpu dysgwyr i feithrin sgiliau’r gweithle ac i lwyddo yn eu gyrfa a goresgyn rhwystrau oedd yn eu hatal rhag symud ymlaen yn eu haddysg neu eu gwaith.

Yn y dosbarth Cyflogadwyedd, mae gwobrau ar gyfer dysgwr y flwyddyn (ymgysylltu) a dysgwr y flwyddyn (lefel un) ac, yn y dosbarth Twf Swyddi Cymru, mae gwobr ar gyfer cyflawnydd eithriadol y flwyddyn.

Rhoddir sylw arbennig i Brentisiaethau gyda gwobrau unigol ar gyfer prentis sylfaen, prentis a phrentis uwch y flwyddyn.

Bydd busnesau bach a mawr, ledled Cymru’n cael cyfle i ddod i sylw cenedlaethol gyda gwobrau ar gyfer cyflogwr bychan (1 – 49 o weithwyr), cyflogwr canolig (50 – 249 o weithwyr), cyflogwr mawr (250 – 4,999 o weithwyr) a macro-gyflogwr y flwyddyn (5,000+ o weithwyr). Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill sy’n cefnogi eu gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant.

Mae ffurflenni cais ar gael i’w lawrlwytho o wefan NTFW ac mae angen eu cyflwyno erbyn hanner dydd ar 24 Mehefin.

Yn ôl i’r brig»

Cynhadledd ‘Cyflogiaith’ yn dod i Gaerdydd ym mis Gorffennaf

DSC02532

Yn dilyn llwyddiant cynhadledd Cyflogiaith yn y gogledd ym mis Ionawr eleni, bydd NTfW a Sgiliaith yn cydweithio eto gan gynnal achlysur tebyg yng Nghaerdydd ar 21 Gorffennaf 2016.

Yn y gynhadledd yn y gogledd, bu Cyfoeth Naturiol Cymru, Portmeirion Cyf, Cyngor Gofal Cymru a Hunaniaith yn sôn am eu profiadau a’u gofynion o ran sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Roedd Sgiliaith, Hyfforddiant Arfon Dwyfor, Grŵp Llandrillo Menai a Coleg Cambria yno hefyd yn rhannu arferion da.

Mae NTfW a Sgiliaith wrthi’n trefnu cyflogwyr a darparwyr dysgu seiliedig ar waith ar gyfer yr achlysur yng Nghaerdydd. Mae gwybodaeth am yr achlysur hwnnw i’w weld ar wefan NTfW neu gallwch ebostio ryan.evans@ntfw.org i gael rhagor o wybodaeth.

Yn ôl i’r brig»

Newyddion gan y Rhanbarthau

10fed Adroddiad Data a Gwybodaeth y Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol

Print

Mae’r Bartneriaeth newydd lansio’u 10fed Adroddiad Data a Gwybodaeth. Mae’r adroddiad yn cyflwyno data allweddol o’r Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Ranbarthol mewn themâu a sectorau allweddol. Mae’r adroddiad hwn yn fwy rhyngweithiol na’r rhai cynt ac mae’n rhoi cyfle i ddarllenwyr archwilio gwahanol adrannau, data a themâu.

Mae’r adroddiad hwn yn wahanol i’r rhai blaenorol oherwydd ei fod yn fwy rhyngweithiol, ac yn rhoi cyfle i’r darllenwyr archwilio adrannau, data a themâu ymhellach. Mae ffeithluniau’n rhan fawr o’r adroddiad. Mae’r rhain wedi eu creu i ddangos y nodweddion a gyflwynir yn y rhifyn hwn a gellir eu lawrlwytho drwy’r adroddiad. Mae’r defnydd o ffeithluniau yn golygu bod y cyhoeddiad â mwy o ffocws ac yn haws ei ddefnyddio ac rydym yn gobeithio y bydd ein partneriaid yn mwynhau hynny.

Mae nodweddion yn cynnwys:

  • Cambridge Econometrics – Gwelir yr amcanestyniadau diweddaraf yma, ynghyd â dadansoddiad o’r sectorau mwyaf a’r sectorau lleiaf.
  • Pwysigrwydd Systemau Gwybodaeth Leol – Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar y gwerth ychwanegol y mae systemau gwybodaeth leol yn ei gynnig.
  • Hyfforddiant yr Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Ranbarthol – Mae’r adran hon yn cyflwyno’r pecyn adnoddau athrawon a luniwyd ar y cyd â Gyrfa Cymru ac yn rhoi adborth a gasglwyd o rai sesiynau hyfforddiant.
  • Cipolwg ar y sectorau – Mae’r adran ‘cipolwg’ boblogaidd wedi cael ei gweddnewid! Mae’r crynodebau sectorau newydd â ffeithluniau yn rhoi gwybodaeth allweddol am bob un o’r sectorau â blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Cliciwch yma i weld yr adroddiad yn Saesneg – Cymraeg i ddilyn (disgwyl cyfieithiad)

Dylai’r darllenydd nodi bod yr adroddiad hwn dim ond yn tynnu sylw at ddata pennawd fel catalydd er mwyn i unigolion allu defnyddio’r Arsyllfa os ydynt am archwilio ymhellach. Felly mae’r darllenydd yn cael ei annog i gyrchu’r Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Ranbarthol er mwyn codi unrhyw ddata a allai fod yn berthnasol iddo.

Mae modd gweld yr Arsyllfa drwy’r ddolen ganlynol: http://rlp.infobasecymru.net/ias/default.aspx

Yn ôl i’r brig»

Datblygu Cynllun Gweithredu Cyflogaeth a Sgiliau ar gyfer De-ddwyrain Cymru

LSkIP Banner Bilingual

Mae Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ym mhob un o dri rhanbarth Cymru wrthi’n ymchwilio ac yn datblygu ail fersiwn eu cynlluniau cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol i’w cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2016. Nod y cynlluniau gweithredu fydd diffinio ymateb strategol a chydweithredol rhanddeiliaid i flaenoriaethau sgiliau rhanbarthol ac fe’u defnyddir i gyfrannu at benderfyniadau ynghylch buddsoddi mewn sgiliau fel y gellir sefydlu system sgiliau sy’n seiliedig ar y galw ac yn cyfateb i’r anghenion economaidd.

Er mwyn cefnogi datblygiad y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau yn Ne-ddwyrain Cymru, mae’r Bartneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi (LSkIP) ac aelodau Bwrdd Cyflogaeth a Medrau LSkIP yn cydweithio â rhanddeiliaid i ymgysylltu â diwydiant trwy rwydweithiau a gyda chyflogwyr unigol er mwyn deall yn well beth yw eu hanghenion o ran cyflogaeth a sgiliau. Mae data ac adroddiadau sydd eisoes ar gael yn cynnig golwg eang ond mae iddynt gyfyngiadau o’u hystyried mewn perthynas â swyddi penodol ac, yn aml, nid ydynt yn cynnig digon o ddyfnder nac o ddatansoddi ar lefel ranbarthol. Felly, mae’n bwysig sicrhau bod gwybodaeth wreiddiol ar gael yn haws ac mae LSkIP yn cydweithio â phartneriaid i wneud gwaith ymchwil a fydd yn sichrau bod gwell gwybodaeth ar gael. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi fforwm sgiliau wedi’i greu gan y rhwydwaith Cwmnïau Angori a Chwmnïau Pwysig Rhanbarthol ac ymarferiad ymchwil dwys sy’n tynnu at y terfyn gyda chwmnïau mawr. Bydd y ddau beth hyn yn sicrhau bod data gwell o lawer ar gael a byddant yn hwb i ddatblygiad y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau ar gyfer De-ddwyrain Cymru.

Mae cyhoeddiadau diweddar fel buddsoddiad y Fargen Ddinesig yn y rhanbarth, y Metro arfaethedig, datblygiad ffatri newydd Aston Martin i gynhyrchu ceir moethus yn Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Sain Tathan, a’r cadarnhad y bydd TVR yn dod â’i ffatri newydd i Ardal Fenter Glynebwy, yn hwb mawr i fuddsoddi mewn sgiliau strategol yn ne-ddwyrain Cymru. Bydd LSkIP yn cydweithio â rhanddeiliaid i ddeall effaith y buddsoddiadau hyn a buddsoddiadau eraill ar sefyllfa ehangach cyflogaeth a sgiliau ledled y rhanbarth.

Yn ogystal ag asesu’r elfennau sy’n hybu’r economi ledled y rhanbarth, mae LSkIP yn gweithio i sicrhau gwell dealltwriaeth o’r seilwaith dysgu, a natur, maint, lleoliad a chyflenwad y ddarpariaeth ddysgu yn rhanbarth y de-ddwyrain. Mae cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, Addysg Uwch, Addysg Bellach, TUC Cymru a’r trydydd sector yn cyfrannu at ddatblygu dealltwriaeth o’r hyn y bwriedir ei ddarparu a’r hyn sydd ar gael yn awr. Yn ogystal, bydd ymarferiad ymchwil i ganfod pa ddarpariaeth a gynigir yn awr neu yn y dyfodol trwy waith a ariannir gan Ewrop yn helpu â’r dadansoddiad ehangach o’r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer swyddi a sgiliau wrth ddatblygu’r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau ar gyfer de-ddwyrain Cymru.

Caiff y cynllun gweithredu drafft ei baratoi mewn partneriaeth â chynrychiolwyr rhanddeiliaid ar Fwrdd Cyflogaeth a Medrau’r De-ddwyrain a Gweithgor Craidd LSkIP. Cynrychiolir aelodau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru gan Sarah John, Acorn a Grant Santos o Educ8. Os hoffech ragor o wybodaeth am y Bartneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi, ewch i www.lskip.cymru, ebostiwch lskip@wlga.gov.uk neu ffoniwch 029 2046 8670.

Yn ôl i’r brig»

Prentis Uwch Darren yn codi trwy’r rhengoedd yn Stena Line

Stena-Line-app-wk
Mae’r cyn cynorthwyydd caban Darren Brown o gwmni fferi Stena Line yng Nghaergybi yn profi bod ‘gall prentisiaeth eich tywys i unrhyw le’.

Ers ymroi ei hun i dyfu yn y busnes ym 1999 â Phrentisiaeth lefel tri mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid, mae o wedi codi’n gyson trwy’r rhengoedd â phob cymhwyster newydd y mae wedi’i gyflawni ac yn ddiweddar cafodd ddyrchafiad i gydlynydd y DU ar gyfer y gweithrediad Gwasanaethau ar y Llong ar y lan.

Mae llawer o waith caled ac ymrwymiad wedi’i baru â dilyniant gyrfa a datblygiad personol a bellach mae Darren, 41, yn annog dysgwyr awyddus ledled Cymru i fanteisio ar bob cyfle prentisiaeth sydd ar gael iddynt

Roedd yn oruchwylydd warws a chynorthwyydd caban pan ddechreuodd ei yrfa gynnar ac mae dyrchafiadau wedi dilyn wrth iddo wneud cynnydd i Brentisiaeth Uwch lefel pedwar mewn rheolaeth. Bellach mae bron â chwblhau Prentisiaeth Uwch lefel pump ac mae eisiau parhau i lefel saith i barhau i herio ei hun.

Darparwyd yr holl gymwysterau gan reolwr Gogledd Cymru Cwmni Hyfforddiant Cambrian Dawne Thomas, sy’n gweithio yng Nghaergybi. Ariennir rhaglenni Prentisiaeth gan Lywodraeth Cymru â chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Gan arwain y tîm yn y DU, mae ei rôl amrywiol yn cwmpasu popeth o gefnogi gweithgarwch masnachol ar fferis Stena Line, cefnogi datblygiad bwydlenni, cefnogi systemau, rhestri erthyglau, adroddiadau ariannol i gefnogi gwaith ailwampio llongau.

“Nid yw unrhyw ddau ddiwrnod byth yr un peth yn fy swydd,” meddai Darren, sy’n byw yng Nghaergybi ac yn treulio oddeutu pedwar diwrnod y mis yn Sweden, lle mae Pencadlys Stena Line a’i warws Canolog.

“Bob tro dwi wedi cwblhau prentisiaeth dwi wedi cael dyrchafiad. Efallai bod yna elfen o fod yn y lle cywir ar yr amser cywir, ond credaf fod dysgu sgiliau newydd hefyd wedi bod yn ffactor wrth benderfynu.

“Y peth pwysig ynglyn â dilyniant dysgu yw ei fod yn atgyfnerthu’r hyn rydych eisoes yn ei wybod ac yn gwneud i chi ddechrau meddwl yn ehangach. Mae Stena Line yn gwmni arloesol iawn ac mae hynny’n ysgogi staff i barhau i wthio i’r lefel nesaf.

“Yn dilyn y cymwysterau mae fy nghydweithiwr a minnau wedi’u cwblhau, mae’r cwmni’n gobeithio peilota Prentisiaeth Uwch mewn Bwyd a Diod ar lefelau pedwar a phump.

“Gwelwn botensial mawr i grwp o staff ar ein llongau Stena Line i ddatblygu fel y genhedlaeth nesaf o reolwyr i gefnogi cynllunio dilyniant. Mae’n bwysig bod y bobl hyn sy’n datblygu’n cael yr un cyfleoedd ag y cawsom ni.

“Mae’n waith caled cyflawni Prentisiaeth Uwch ond mae’n rhoi cymaint o wefr pan fyddwch yn ei gwneud ac mae’n cadw’r ymennydd yn egnïol. Mae’n hawdd iawn cael eich dal yn arferion ailadroddus busnes modern, ond trwy gyflawni’r cymwysterau hyn cewch eich gorfodi i stopio, gwerthuso a datblygu ffyrdd newydd o feddwl.

“Rwyf wedi gyrru fy nhîm i’w cynorthwyo wrth gyflawni eu nodau o brentisiaethau lefel tri ac mae pawb ohonynt wedi gweld y manteision. Mae hyfforddiant yn ein helpu i gadw ein gweithlu a gyrru safonau gwasanaeth ar ein llongau sy’n gyrru canlyniadau gwych yn y pen draw.”

Canmolodd y gefnogaeth hyblyg, wedi’i deilwra’n arbennig y mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn darparu i ddysgwyr Stena Line. “Gwnaethom edrych ar wneud cymhwyster tebyg â Phrifysgol Bangor ond nid oedd y rhaglen yn ddigon hyblyg i anghenion ein busnes,” meddai.

“Mae dysgu gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian yn cael ei deilwra i weithio mewn busnes sy’n symud yn gyflym ac mae Dawne, a oedd arfer gweithio i Stena Line, yn gwybod yn union sut rydym yn gweithredu. Mae’n bartneriaeth wych – nid oes unrhyw beth byth yn ymddangos i fod yn ormod o drafferth iddynt.”

Dawne oedd rheolwr Darren yn Stena Line, a dywedodd ei bod wedi gweld datblygiad a thwf trawiadol yn ei sgiliau ac arddull rheoli gyda phob cymhwyster y mae wedi’i gyflawni dros y blynyddoedd.

“Mae Darren yn ddysgwr ardderchog ac mae bob amser yn awyddus i ddatblygu er ei fod yn ddyn prysur iawn,” ychwanegodd. “Ni allaf ei ganmol gormod.”

Yn ôl i’r brig»

Seremoni Fawreddog i Brentisiaid Grŵp Llandrillo Menai

winners_GLL4776 (Large)

O blith 2,000 o brentisiaid, dau brentis ym maes busnes gipiodd y prif wobrau yng Ngwobrau Prentisiaethau Grwp Llandrillo Menai yn ddiweddar.

Gwahoddwyd prentisiaid o Goleg Llandrillo a Choleg Menai, ynghyd â’u cyflogwyr a chynrychiolwyr o fusnesau lleol, i’r seremonïau a gynhaliwyd i wobrwyo prentisiaid ar gampws Llandrillo-yn-rhos ac yn Neuadd Friars, Coleg Menai.

Y siaradwyr gwadd oedd cyn-gyfarwyddwr RWE Npower, Andy Billcliff, yn Llandrillo-yn-rhos, a Mark Salisbury o Pwer Niwclear Horizon ym Mangor.

Yng Ngholeg Llandrillo cyflwynodd y Pennaeth, Dafydd Evans, y wobr uchaf ei bri sef ‘Prentis y Flwyddyn 2016’, ynghyd â siec o £100 a thlws gwenithfaen, i Emily Jones o Gyffordd Llandudno. Roedd Emily eisoes yn un o 11 enillydd o ystod o feysydd rhaglen oedd wedi ennill £100 yn gynharach yn ystod y noson.

Cyhoeddwyd mai Gwilym Rhys o Fethel ger Caernarfon, sy’n gweithio i’r Clocsiwr, Trefor Owen oedd ‘Prentis y Flwyddyn 2016’ yng Ngholeg Menai. Cyflwynwyd ei wobrau iddo gan Janice Lewis, Pennaeth Dros Dro Coleg Menai a Mark Salisbury, Rheolwr Hyfforddi Pwer Niwclear Horizon oedd yn noddi’r digwyddiad.

Roedd yr amrywiaeth o bobl a dderbyniodd wobrau yn y seremoni’n adlewyrchu’r ystod o raglenni prentisiaeth sydd ar gael yng Ngrwp Llandrillo Menai; roeddent yn amrywio o raglenni Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant i raglenni Cyfrifiadura, rhaglenni Peirianneg a rhaglenni Cerbydau Modur.

Curodd Emily a Gwilym dros 2,000 o brentisiaid eraill o Grwp Llandrillo Menai i ennill y prif wobrau.

Ymunodd Emily â Chartrefi Conwy fel prentis ym maes Gweinyddu Busnes – ei swydd lawn amser gyntaf ers gadael yr ysgol. Gan nad oedd erioed wedi gweithio yn yr amgylchedd hwn o’r blaen roedd y swydd yn un heriol a bu’n rhaid i Emily ddysgu’n gyflym sut i flaenoriaethu amrywiaeth o orchwylion.

Cyn hir roedd wedi sefydlu ei hun fel rhan annatod o’r tîm, a gan eich bod yn gyson yn cynhyrchu gwaith o ansawdd uchel mae galw mawr am ei gwasanaeth. Mae ei rheolwr wedi nodi bod dealltwriaeth Emily o’i rolau a’i chyfrifoldebau yn “uwch o lawer na’r hyn sy’n ddisgwyliedig” ac adlewyrchir hyn gan lefel y ddealltwriaeth a ddangosir yn y cofnodion a gynhyrchir ganddi mewn cyfarfodydd cymhleth.

Ymwelodd Emily a chydweithiwr ag ysgol leol i hyrwyddo gwerth prentisiaethau gan rannu ei phrofiadau ac ateb cwestiynau ar brentisiaethau. Mae hefyd wedi bod yn flaenllaw wrth drefnu nifer o ddigwyddiadau elusennol a chymunedol.

Penderfynodd tiwtoriaid Gwilym gefnogi ei brentisiaeth mewn gwneud clocsiau er mwyn sicrhau bod crefft draddodiadol sy’n rhan annatod o ddiwylliant Cymru, ac a gysylltir â dawnsio traddodiadol mewn Eisteddfodau, yn cael ei chynnal. Roedd hyn yn fater o frys gan fod un o glocswyr llawn amser hynaf Cymru ar fin ymddeol.

Roedd y rhaglen a ddilynwyd gan Gwilym yn dysgu iddo’r dulliau a’r technegau traddodiadol sydd eu hangen i gynhyrchu clocsiau â llaw – o glocsiau dawnsio i glocsiau gwaith.

Roedd prentisiaeth Gwilym â Trefor Owen yn unigryw yn yr ystyr nad oedd yn cael ei gyflogi gan y cwmni ei hun. Yn hytrach, roedd Gwilym yn cael ei gyflogi gan Gyngor Sgiliau’r Sector Diwylliant a Sgiliau – yn dilyn ymyrraeth gan y Tywysog Siarl ei hun. Roedd perygl gwirioneddol y byddai’r sgiliau unigryw sydd eu hangen i gynhyrchu clocsiau yn cael eu colli yng Nghymru. Gan mai menter fusnes fach yw hon, camodd Coleg Menai a’r sector Diwylliant a Sgiliau i’r adwy i sicrhau nad oedd y sgiliau’n cael eu colli, a bod Gwilym yn gallu bwrw ei brentisiaeth.

Ar ddiwedd ei brentisiaeth, roedd Gwilym wrth ei fodd i gael llythyr o Clarence House yn ei longyfarch. Roedd hyn yn cwblhau proses y rhoddodd y Tywysog Siarl gychwyn arni.

Mae Gwilym yn gobeithio parhau i feithrin ei sgiliau gwneud clocsiau, a dechrau ei fusnes ei hun maes o law fydd yn canolbwyntio ar glocsiau dawnsio.

Roedd ystod eang o fusnesau o’r sector cyhoeddus a phreifat yn cael eu cynrychioli yn y Seremonïau Gwobrwyo Prentisiaid, gan gynnwys ysgolion cynradd a grwpiau chwarae o Sir Ddinbych, Gwynedd a Chonwy, y Gwasanaethau Ambiwlans, Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Conwy.

Pleser o’r mwyaf gan y ddau Bennaeth oedd cael cydnabod cyflawniadau’r prentisiaid yn y seremonïau, ac roeddent yn falch eu bod yn cael cyfle i rannu eu llwyddiant gyda’u cyflogwyr, cynrychiolwyr o fyd diwydiant a’r sector cyhoeddus, a staff y coleg. Mae Grwp Llandrillo Menai wedi bod yn ymwneud â hyfforddiant seiliedig ar waith ers nifer o flynyddoedd ac mae ganddo enw rhagorol am weithio mewn partneriaeth â chyflogwyr a sefydliadau hyfforddi eraill yng Ngogledd Cymru.

Rhaglen ddysgu seiliedig ar waith, a all bara rhwng dwy a phedair blynedd, yw prentisiaeth. Bydd myfyrwyr yn treulio pedwar diwrnod yn dysgu crefft, derbyn cyflog ac yn cael profiad ymarferol gwerthfawr ac ar ddiwrnod olaf yr wythnos waith, byddant yn astudio yn y coleg.

Yn ôl i’r brig»

Tri o’r de yn rhannu syniadau am ennyn diddordeb pobl ifanc gyda chwmni pensiynau mawr

Scottish Widows

Mae ymgyrch gan dri o bobl ifanc o dde Cymru i ddysgu eu cenhedlaeth am bwysigrwydd cynllunio a chynilo at y dyfodol wedi dod i sylw un o brif gwmnïau pensiynau Prydain.

Cafodd Nikita Tandy o Gaerdydd, Christie Buckeridge o Ben-y-bont a James Williams o Faesteg grant gan Fanc Lloyds ar ôl creu argraff ar y beirniaid yn Her Arian am Oes y llynedd. Cystadleuaeth i hybu sgiliau rheoli arian mewn cymunedau ledled y Deyrnas Unedig yw hon.

Cyn rownd derfynol Gymreig y gystadleuaeth, daeth cyfarwyddwr pensiynau a buddsoddiadau Scottish Widows, Ronnie Taylor, o’r Alban i gwrdd â’r tri sy’n brentisiaid gydag ISA Training ym Mhen-y-bont, y cwmni annibynnol mwyaf sy’n darparu hyfforddiant trin gwallt yng Nghymru.

Dywedodd y tri wrth Mr Taylor y dylai darparwyr pensiynau ddefnyddio iaith symlach a llai o jargon ar daflenni pensiynau ac y byddai rhoi gwybodaeth ar lein yn fwy tebygol o ddenu pobl ifanc. Eu nod oedd ei gwneud yn haws i bobl o bob oed ddeall pwysigrwydd dechrau cynilo ar gyfer pensiwn pan fyddant yn ifanc.

Tynnwyd sylw Mr Taylor at y tîm oherwydd mai hwn oedd dim ond yr ail dro mewn pedair blynedd a mil o brosiectau i un o brosiectau Arian am Oes ganolbwyntio ar bensiynau.

Roedd wedi’i blesio â brwdfrydedd y tri a gwahoddodd nhw i gwrdd â’i dîm ym mhrif swyddfa Scottish Widows yng Nghaeredin i rannu eu syniadau ac i weld y gwaith oedd yn cael ei wneud i ennyn diddordeb pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed.

Cyfarfu Nikita, Christine a James â nifer o arbenigwyr Scottish Widows yn cynnwys Peter Glancy, pennaeth datblygu’r diwydiant, a esboniodd y gwahanol fathau o bensiynau, y cyfreithiau a’r trethi cysylltiedig, a sut roedd arian cwsmeriaid yn cael ei fuddsoddi.

Cawsant gyfarfod hefyd â’r tîm marchnata a chyfathrebu i ddysgu am y gwahanol ffyrdd y maent yn helpu i addysgu pobl ifanc.

“Roedd Ronnie’n awyddus iawn i’n dysgwyr ifanc ni herio eiu dîm ac rydym yn bwriadu paratoi adroddiad iddo gydag graffeg i esbonio’u hymateb,” meddau Clare Jeffries, pennaeth prentisiaethau ISA Training.

“Gobeithio y cân nhw fynd i’r labordy lle mae Scottish Widows yn rhoi syniadau newydd ar brawf pan ân nhw â’u hadroddiad i Gaeredin. Roedd yn ymweliad gwych ac mae wedi’u hysbrydoli i symud ymlaen â’u gwaith o annog pobl ifanc eraill i gynilo ar gyfer y dyfodol ac i ddangos pam y mae’n bwysig dechrau’n fuan.

Maen nhw’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth Scottish Widows ac anogaeth Ronnie sy’n dal yn dangos diddordeb mawr yn eu syniadau. Mae eu ffordd o gyflwyno’u syniadau yn addysgu pobl hŷn fel fi hefyd, oherwydd maen nhw wedi gwneud i mi ystyried a ydw i’n rhoi digon o arian yn fy mhensiwn.”
Dywedodd Mr Taylor: “Mae her Arian am Oes yn gyfle gwych i bobl ifanc ddysgu mwy am ein diwydiant ni a materion ariannol yn gyffredinol.

“Mae eu prosiect Young Pension Payers a’r hyn y maen nhw wedi’i wneud wedi creu argraff fawr arnaf i. Roedd yn braf cael cwmni’r grŵp am y diwrnod a rhannu’r wybodaeth a’r arbenigedd sydd gennym ni gyda nhw. Roedd yn wych gweld y grŵp yn herio’n syniadau ni ac rwy’n credu y gallwn ni ddysgu oddi wrthyn nhw hefyd.”

Fel rhan o’u prosiect, aeth y tri ati i greu cyfri twitter i drafod gydag arbenigwyr yn y diwydiant, recordiwyd pedwar cyfweliad byr gyda phobl ifanc eraill a Maer Maesteg ar gyfer YouTube yn sôn am eu teimladau am bensiynau, gwnaethant waith ymchwil ar-lein ac fe roesant syniadau am arbed arian.

Yn ôl i’r brig»

Busnesau o Gymru’n arwain y ffordd at Brentisiaeth Uwch gyntaf y DU mewn Bancio

Acorn-Principality
Mae dau fusnes uchel eu parch o Gymru yn dathlu llwyddiant chwe o brentisiaid Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn sicrhau Prentisiaeth Uwch mewn Bancio – Lefel 4; y gyntaf ym Mhrydain.

Daeth cwmni Acorn, un o brif asiantaethau recriwtio a hyfforddi arbenigol y Deyrnas Unedig, a Chymdeithas Adeiladu’r Principality ac ei gilydd i greu rhaglen brentisiaethau bwrpasol. Bu chwech o reolwyr y Principality a enwebwyd gan uwch-reolwyr ac adran adnoddau dynol y Principality yn gweithio ar y ddiploma dros 18 mis. Trwy hyn, roedd y myfyrwyr yn gallu esbonio ffactorau allweddol ym meysydd deddfwriaeth, rheoliadau a risg sy’n berthnasol i wasanaethau ariannol manwerthu ac yn gallu deall goblygiadau a dulliau gweithredu Bancio Manwerthu. Cynhaliwyd digwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gyda’r Gweinidog, Julie James, i gydnabod yr aelodau cyntaf o’r staff i gyflawni’r Brentisiaeth Uwch hon.

Yn ôl i’r brig»

Dyddiadau i’ch Dyddiadur

8 Mehefin 2016
Diwrnod VQ

21 Mehefin 2016
Cynhadledd Cyflogiaith

5-6 Hydref 2016
SkillsCymru, Llandudno

12-13 Hydref 2016
Skills Cymru, Caerdydd

20 Hydref 2016
Gwobrau Prentisiaethau Cymru

17-19 Tachwedd 2016
The Skills Show

24 Tachwedd 2016
Cynhadledd Flynyddol NTfW

Yn ôl i’r brig»

Digwyddiadau Iaith Gymraeg/Diwylliant Cymreig

30 Mai – 4 Mehefin 2016
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir y Fflint

24 Mehefin – 2 Gorffennaf 2016
Wythnos Tafwyl, Caerdydd

2 – 3 Gorffennaf 2016
Ffair Tafwyl, Caerdydd

18-21 Gorffennaf 2016
Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanelwedd

29-31 Gorffennaf 2016
Gŵyl y Caws Mawr, Caerffili

29 Gorffennaf – 6 Awst 2016
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Sir Fynwy

I gael gwybod rhagor am yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill yng Nghymru, ewch i’r wefan hon: http://www.visitwales.com/things-to-do/whats-on

Yn ôl i’r brig»

Geiriau Cymraeg ar gyfer Y Gwanwyn

[TABLE=15]
Dilynwch @yrawrgymraeg ar drydar ar gyfer ‘Yr Awr Gymraeg’. Ymunwch a’r drafodaeth bob nos Fercher rhwng 8yh a 9yh wrth ddefnyddio #yagym

Yn ôl i’r brig»

More News Articles

  —