Cymryd prentis yn helpu busnes teuluol i ddyblu ei drosiant

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Oswyn Jones (right) Jan Davies and higher apprentice Daniel Roberts from Lelo Skip Hire and Heather Martin (left) of Cambrian Training Company.

Oswyn Jones (dde), Jan Davies a’r prentis uwch Daniel Roberts o Lelo Skip Hire, a Heather Martin (chwith) o Gwmni Hyfforddiant Cambrian.

Mae busnes teuluol bach o’r gogledd, Lelo Skip Hire, sydd wedi dyblu ei drosiant ers iddo recriwtio’i brentis cyntaf bedair blynedd yn ôl, ar y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol o bwys.

I ddechrau, cymerodd Oswyn Jones, sy’n rhedeg y cwmni o Gorwen, ei fab 16 oed Daniel i weithio i’r cwmni ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru yn 2014.

Ers hynny, mae Daniel wedi symud ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy i wneud Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Systemau a Gweithrediadau gyda chymorth Cwmni Hyfforddiant Cambrian, y darparwr dysgu o’r Trallwng.

Wrth i wybodaeth a sgiliau Daniel gynyddu, mae cwsmeriaid y cwmni wedi cynyddu hefyd. Gwelwyd cynnydd o 195% yn y trosiant o ganlyniad uniongyrchol i’w wybodaeth am dechnolegau trin, rheoliadau dyletswydd gofal a pholisïau amgylcheddol ac mae hynny’n golygu bod yn cwmni’n gallu gwneud mwy o waith.

Yn awr, mae Lelo Skip Hire wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd y cwmni’n cystadlu i fod yn Gyflogwr Bach y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Dau weithiwr sydd gan Lelo Skip Hire ac mae’n cynnig gwasanaeth llogi sgipiau gan eu danfon a’u casglu ledled gogledd-ddwyrain Cymru. Mae ganddo gynlluniau i agor safle trwyddedig i ailgylchu’r gwastraff a gesglir gan y cwmni.

“Trwy gael ein safle ni’n hunain, byddem yn ganolfan ailgylchu gyflawn a dyna yw ein nod yn y pen draw.” meddai Oswyn. “Roedd ein mab yn awyddus i ymuno â busnes y teulu erioed ac roedden ninnau’n dymuno iddo barhau i ddysgu a defnyddio’r hyn yr oedd yn ei ddysgu i helpu’r busnes i dyfu.

“Gwelsom fod y Rhaglen Brentisiaethau’n ffordd ddelfrydol o hyfforddi Daniel a datblygu’r busnes. Pan fyddwn mewn sefyllfa i agor ein safle ailgylchu a chyflogi rhagor o staff, byddwn yn cynnwys Prentisiaethau yn y rhan newydd o’r busnes hefyd.”

Roedd Oswyn yn llawn canmoliaeth i bartneriaeth “ffantastig” y busnes gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian. Enwyd Lelo Skip Hire yn Gyflogwr Bach y Flwyddyn yng ngwobrau blynyddol y darparwr dysgu yn gynharach eleni.

Dywedodd Heather Martin, pennaeth uned fusnes Cwmni Hyfforddiant Cambrian:
“Mae Lelo Skip Hire yn dangos y pethau rhyfeddol y gellir eu cyflawni â dim ond un prentis.”

Wrth longyfarch Lelo Skip Hire ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol
Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —