Dysgu Seiliedig ar Waith yng Nghymru: Y daith tuag at wella ansawdd

Postiwyd ar gan karen.smith

Gan Arwyn Watkins,
Cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW)

Yr wythnos yma, cynhelir dwy gynhadledd bwysig – yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd, ddoe ac yn Venue Cymru, Llandudno, yfory (Gwener) – ar gyfer darparwyr dysgu seiliedig ar waith, er mwyn hyrwyddo llawlyfr arferion gorau i’w ddefnyddio i hybu gwelliant parhaus. Mae Cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, Arwyn Watkins, a oedd yn annerch y ddwy gynhadledd, yn disgrifio taith yr aelodau tuag at wella dros y pedair blynedd ddiwethaf.

Mae’r daith wedi bod yn hir a throellog i bawb sy’n ymwneud â chyflenwi Dysgu Seiliedig ar Waith yng Nghymru. Rwy’n cyfeirio’n benodol at y ddwy haen allweddol o Ddysgu Seiliedig ar Waith o dan gontract i Lywodraeth Cynulliad Cymru, sef rhaglenni Adeiladu Sgiliau a Phrentisiaethau.

Ar un adeg, roedd dechrau blwyddyn galendr newydd yn bwrw cysgodion du dros y Rhwydwaith Dysgu Seiliedig ar Waith yn gyfan. Roedd hyn yn dod ar ffurf Datganiad Newyddion gan Estyn ac yna lansiad cyhoeddus Adroddiad Blynyddol y Prif.

Rwy’n cofio cael datganiad newyddion â’r pennawd bras SAFONAU ADDYSG A HYFFORDDIANT YN GWELLA YNG NGHYMRU – ond dysgu seiliedig ar waith yn achos pryder Embargo: 11.00am Dydd Llun 23 Ionawr 2006.

Roedd hwnnw’n drobwynt ar y daith. Teimlwn nad oedd dyfodol i ddysgu seiliedig ar waith gyda’r rhwydwaith cyfredol o ddarparwyr. Ar y pryd, roedd 115 o gyrff yn darparu dysgu seiliedig ar waith o dan gontract, sef 14% yn Awdurdodau Lleol, 20% yn Sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch a 66% yn sefydliadau annibynnol neu’n perthyn i’r Trydydd Sector.

Nôl ym mis Mawrth 2005, wrth gymryd tystiolaeth gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ynghylch Adroddiad Blynyddol 2003-2004, cafodd y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes wybod mai pryder mwyaf Estyn oedd safonau dysgu seiliedig ar waith. Nid oedd digon o hyfforddeion wedi ennill yr holl gymwysterau yr oedd arnynt eu hangen i gwblhau eu fframwaith cymwysterau.

Daeth yn amlwg iawn bod angen i ni yn NTfW edrych yn fanwl ar y dystiolaeth a phenderfynu ar ddull gweithredu strategol er mwyn sicrhau dyfodol dysgu seiliedig ar waith. Felly, pa gamau a gymerwyd gennym mewn Rhwydwaith cystadleuol iawn o ddarparwyr a phawb ohonynt yn sylweddoli na ellid cadw’r status quo?

Llwyddodd yr NTfW i gael arian o’r Quality Investment Fund i ddatblygu llawlyfr arferion da mewn Arwain a Rheoli ar gyfer darparwyr dysgu seiliedig ar waith. A minnau’n is-gadeirydd NTfW ar y pryd, fe wnes i sefydlu a chadeirio grŵp llywio o blith yr aelodau a oedd yn gallu rhannu arferion da yn eu meysydd penodol nhw yn y llawlyfr. Cafwyd cynrychiolaeth gan ein partneriaid APADGOS, ESTYN a Fforwm i gryfhau’r grŵp llywio. Roedd hwn yn gam hollbwysig er mwyn gwella ansawdd.

Mae’r llawlyfr arferion gorau a grewyd yn un o’r prif gerrig milltir ar y daith i wella ansawdd. Cyfrifwyd bod yr Adolygiad o Berfformiad Darparwyr, a gyflwynwyd ar ôl ymgynghori ag NTfW yn 2005 yn ddull grymus o wella ansawdd a safonau hefyd.

Ar hyn o bryd, rydym ar ddiwedd cylch cyfredol y Fframwaith Arolygu Cyffredin ac ar fin cychwyn ar daith newydd. Bydd hyn yn adeiladu ar y pethau gorau a gafwyd trwy rannu arferion gorau trwy gyhoeddi’r llawlyfr arferion gorau a chynnal cyfres o sioeau teithiol i rannu’r neges.

Rydym yn dal yn benderfynol o sicrhau gwelliant parhaus yn y ffederasiwn ac rydym yn ymwybodol o’r heriau sy’n ein hwynebu gyda’r agenda trawsnewid – dull newydd o sicrhau dyfodol dysgu seiliedig ar waith trwy dendro – mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd.

Mae’r sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru yn gyfrifol am gyflenwi sgiliau galwedigaethol i dros 60,000 o unigolion ac mae cyfradd llwyddiant ar raglenni prentisiaeth dros 70% – cynnydd o tua 34% ers 2004/05.

Yn ein gwasanaeth ni, rydym yn cydnabod nad yr hyn yr ydym ni’n ei gyfrannu ond yr hyn y mae’r dysgwr yn ei gael ohono yw “ansawdd”. Er eich mwyn chi, y bobl, mae’n rhaid i ni gael y cydbwysedd yn iawn a sicrhau bod yr holl gyngor ac arweiniad a roddir am yrfaoedd gynnwys prentisiaethau.

More News Articles

  —