Gwobrau Prentisiaethau’n Dathlu Llwyddiant Ysbrydoledig

Postiwyd ar gan karen.smith

Cafwyd cyfle i ddathlu’r dechnoleg ddiweddaraf mewn busnesau blaengar, rhaglenni prentisiaeth pwrpasol sydd wedi’u cynllunio i ateb anghenion gwahanol ddiwydiannau a llwyddiant ysbrydoledig gan unigolion, mewn seremoni wobrwyo fawreddog yng Nghaerdydd neithiwr (Tachwedd 16).

Roedd seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn dwyn ynghyd y goreuon ymhlith dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant sydd wedi dangos ymroddiad llwyr i ddatblygu sgiliau.

Trefnwyd y gwobrau, sy’n tynnu sylw at ragoriaeth ym maes datblygu sgiliau yng Nghymru, gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Prif noddwr y gwobrau oedd Pearson ac roedd Media Wales yn bartner yn y cyfryngau.

Dyma’r enillwyr:

  • Prentis y Flwyddyn, Richard Wilkins, 21, o Airbus, Brychdyn;
  • Prentis Ifanc y Flwyddyn, Tomos Hopkin, 18, o Rhiw-fawr, Abertawe;
  • Prentis Sylfaen y Flwyddyn, Stephen Roberts, o Neatcrown Corwen Ltd, Corwen;
  • Prentis Eithriadol y Flwyddyn, Benjamin Morgan, 23, o Shotton, Glannau Dyfrdwy;
  • Cyflogwr Mawr y Flwyddyn, Kronospan Limited, y Waun;
  • Cyflogwr Canolig y Flwyddyn, Gwesty Mercure Abertawe;
  • Darparwr Hyfforddiant y Flwyddyn i Brentisiaid, Acorn Learning Solutions, Casnewydd.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yng ngwesty Mercure Holland House, Caerdydd lle talodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert, deyrnged i’r dysgwyr, y cyflogwyr a’r darparwyr sy’n ymwneud â phrentisiaethau ledled Cymru am eu hymdrechion ysbrydoledig.

“Hyd yn oed os na chawsant wobr ar y noson, mae gan yr 19 a gyrhaeddodd y rownd derfynol lawer i ymfalchïo ynddo,” meddai. “Mae gan bob un ohonynt stori i’n hysbrydoli, ac maent yn llysgenhadon dros raglenni prentisiaethau Llywodraeth Cymru sy’n cael eu rhan-ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu rhagor o brentisiaethau ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru a pharhau i gefnogi cyflogwyr sy’n barod i gynnig prentisiaethau o safon uchel.”

Dywedodd Cadeirydd NTfW, Arwyn Watkins: “Mae’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn enghreifftiau ardderchog o’r ffordd y gall cyflogwyr, prentisiaid a darparwyr gydweithio i feithrin sgiliau a datblygu gweithlu da ac effeithiol yng Nghymru. Maent yn llysgenhadon ac rwy’n siwr y byddant yn hyrwyddo prentisiaethau fel un o’r atebion ar gyfer adfer yr economi.”

Richard Wilkins, 21, o Acrefair, prentis gyda chwmni awyrofod Airbus ym Mrychdyn a gasglodd wobr Prentis y Flwyddyn. Ddechrau’r mis, dyfarnwyd ef yn gydradd ail yng ngwobr Prentis y Flwyddyn, Cymru, gan y Ffederasiwn Cyflogwyr Peirianyddol.

Yn ystod ei brentisiaeth mewn Peirianneg Awyrenegol Uwch (Logisteg y Gadwyn Gyflenwi), llwyddodd Richard i ganfod sut y gallai’r cwmni arbed dros £170,000 trwy wella’r ffordd o reoli stoc.

Llwyddodd un arall o brentisiaid Airbus, sef Beth Pickering, 21, o’r Wyddgrug i gyrraedd y rownd derfynol hefyd.

Prentis Ifanc y Flwyddyn yw Tomos Hopkin, 18, o Rhiw-fawr ger Abertawe sy’n gigydd. Mae eisoes wedi dangos ei fod yn un o’r cigyddion ifanc gorau trwy ennill gwobr Cigydd Ifanc y Flwyddyn Cymru ddwy flynedd o’r bron a gwobr Grand Slam, Cigydd Ifanc y Flwyddyn Prydain.

Ar ôl cwblhau Prentisiaeth Sylfaen gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, bu’n dangos ei sgiliau mewn arddangosfa gigyddiaeth ryngwladol yn sioe WorldSkills yn Llundain fis diwethaf. Mae hefyd wedi lansio’i fusnes ei hunan, Gwrhyd Mountain Meat, gan werthu cig ardderchog o fferm y teulu o ddrws i ddrws.

“Byddwn i’n sicr yn argymell prentisiaeth achos rydych yn ennill arian wrth ddysgu ac mae’n rhoi crefft i chi,” meddai. “Cefais i dipyn o sioc i ennill gwobr Prentis Ifanc y Flwyddyn. Doeddwn i ddim yn obeithiol o gwbl.”

Stephen Roberts, o Neatcrown Corwen Ltd, Corwen, yw Prentis Sylfaen y Flwyddyn. Mae gan ei gyflogwr gymaint o feddwl ohono fel ei fod yn aml yn gofyn iddo ddatrys problemau ac mae wedi dyfeisio prawf i wneud yn siwr bod seliau diogelwch ar boteli’n gweithio’n iawn

Mae Stephen, sy’n dioddef o ddyslecsia, wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Peirianneg, gan gyfuno’i waith â hyfforddiant yng Ngholeg Iâl, Wrecsam. Erbyn hyn, mae’n symud ymlaen i Brentisiaeth lefel 3.

“Mae arna i eisiau dangos i bobl nad oes raid i chi wneud yn wych yn yr ysgol er mwyn gallu dod ymlaen yn dda,” meddai. “Dw i am redeg fy musnes fy hunan rhyw ddiwrnod ac mi fydda i’n gofalu rhoi cyfle i bobl eraill i lwyddo ac i reoli eu dyfodol eu hunain.”

Aeth gwobr arbennig, Prentis Eithriadol y Flwyddyn, i Benjamin Morgan sy’n dechnegydd cerbydau modur. Llwyddodd i gwblhau ei Brentisiaeth Sylfaen a’i Brentisiaeth tra oedd yn gweithio yn Humphreys Garage ym Magillt, Sir y Fflint ac yn cael hyfforddiant yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy.

Mae Benjamin – sydd newydd briodi – yn gweithio llawn amser yn y garej erbyn hyn ond, am fod ganddo enw da fel technegydd cerbydau rhagorol, mae garejus eraill yn gofyn am ei help yn aml i ddatrys problemau cymhleth ar injans.

“Mi wnes i sylweddoli ei bod yn bwysig cael cymwysterau os ydw i am symud ymlaen yn y diwydiant moduron,” meddai Benjamin.

“Os oes gen i amser neu arian dros ben, maen nhw’n mynd i brynu’r offer electronig diweddaraf i ddarganfod nam ar injans ac ati. Fy nod yw sefydlu fy musnes fy hunan.”

Roedd ei diwtor yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy, Marshall Clayton, wrth ei fodd bod Benjamin wedi ennill y wobr: “Welais i erioed ddysgwr oedd mor awyddus i ragori. Cafodd ragoriaeth ym mhob un o’i arholiadau.”

Enillwyr Gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn oedd Kronospan o’r Waun, sy’n cynhyrchu mwy o nwyddau paneli pren a lloriau laminedig na’r un cwmni arall yn y byd. Yn ôl y Rheolwr Adnoddau Dynol, Ben Hipkiss, dysgu seiliedig ar waith yw dyfodol hyfforddiant peirianyddol ym Mhrydain.

Ers i Kronospan gyflwyno rhaglen brentisiaethau wyth mlynedd yn ôl, daeth recriwtio prentisiaid yn rhan hanfodol o gynllun busnes y cwmni. Mae’r cwmni wedi recriwtio 40 o brentisiaid ac mae llawer ohonynt yn cael eu datblygu’n beirianwyr, yn arweinyddion tîm ac yn fentoriaid ar gyfer y dyfodol.

I Abertawe aeth gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn, i Westy Mercure Abertawe. Aeth y gwesty ati i sefydlu’r cynllun prentisiaethau er mwyn rhoi gwell cyfle i staff newydd a staff presennol a dangos ymroddiad iddynt, ond mae wedi gweld bod darpar weithwyr yn dangos mwy o ddiddordeb hefyd.

Ar hyn o bryd, mae gan y gwesty ddeg o brentisiaid ac mae wedi recriwtio a hyfforddi 26 dros y pum mlynedd diwethaf. Maent yn gweithio ac yn cael hyfforddiant mewn meysydd fel gwasanaethu cwsmeriaid, coginio proffesiynol, goruchwylio ac arwain yn y sector lletygarwch, gweinyddu busnes a gwasanaethau cegin.

“Mae’r holl staff sydd wedi ennill eu cymwysterau mewn gwell sefyllfa i symud ymlaen yn eu gyrfa ac mae nifer ohonynt wedi cael dyrchafiad,” meddai Lynne Huxtable, rheolwr Adnoddau Dynol.

Cwmni Acorn Learning Solutions o Gasnewydd a enillodd wobr Darparwr Prentisiaethau y Flwyddyn. Roedd y beirniaid wedi’u plesio â gwaith arloesi’r cwmni a’r ffordd roeddent eu gwaith dysgu a datblygu yn ychwanegu gwerth gwirioneddol at brofiad prentisiaid a chyflogwyr.

Mae’r cwmni wedi hyfforddi 4,386 o brentisiaid dros y pum mlynedd diwethaf ac, ar hyn o bryd, mae ganddo 1,214 ar ei lyfrau. Darperir prentisiaethau pwrpasol ac unigol ar gyfer llu o gyflogwyr yn cynnwys Little Inspirations, Cassidian, Leading Edge Group, Cyngor Bro Morgannwg, Peacocks, DAS a Zurich.

More News Articles

  —