Galwad olaf i ymgeisio am Wobrau Prentisiaethau Cymru gan fod y dyddiad cau ar 27 Mehefin

Postiwyd ar gan karen.smith

April Davies - Prentis y Flwyddyn 2013

Mae dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru’n cael eu hannog i ymgeisio am Wobrau Prentisiaethau Cymru 2014 cyn y dyddiad cau ar 27 Mehefin.

Mae’r gwobrau, sy’n cael eu trefnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), yn uchel iawn eu parch ac fe gynhelir seremoni wobrwyo a chinio mawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar nos Wener, 31 Hydref.

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn dathlu llwyddiant rhai sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau gan ddangos agwedd ddeinamig at hyfforddiant. Byddant hefyd wedi dangos brwdfrydedd a menter, dyfeisgarwch a chreadigrwydd, ac ymrwymiad i wella sgiliau er budd economi Cymru.

Mae’r gwobrau, sy’n tynnu sylw at ragoriaeth dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ym maes datblygu sgiliau yng Nghymru, yn cael eu noddi gan Pearson PLC gyda chymorth ein partner yn y cyfryngau, Media Wales.

Maent yn cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu-seiliedig-ar-waith sy’n cefnogi eu gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Yn ogystal, maent yn ffordd wych o werthuso gwaith hyfforddi a datblygu, ac o ysgogi unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 13 o ddosbarthiadau eleni, gyda gwobrau ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn, Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu a Lefel Un); Cyflawnydd Eithriadol y Flwyddyn Twf Swyddi Cymru; Prentis Sylfaen y Flwyddyn, Prentis y Flwyddyn, Prentis Uwch y Flwyddyn a Prentis Entrepreneuraidd y Flwyddyn.

Yn ogystal, mae gwobrau Cyflogwr Prentisiaid y Flwyddyn ar gyfer busnesau bach (hyd at 49 o weithwyr), canolig (rhwng 50 a 249), mawr (rhwng 250 a 4,999) a macro (5,000 a mwy).

Yn ogystal â Gwobr Darparwr Prentisiaethau y Flwyddyn, mae Gwobr i Ddarparwr am Ymatebolrwydd Cymdeithasol.

Cewch ymgeisio am ddim ac mae’r ffurflenni cais ar gael o wefannau Llywodraeth Cymru ac NTfW: http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/skillsandtraining/apprenticeships/apprenticeship-awards-cymru/?lang=cy a https://www.ntfw.org/wel/apprenticeships-awards-cymru.

Mae’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates, wedi annog dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant i ymgeisio am y gwobrau er mwyn dangos beth y maent wedi’i gyflawni.

“Rydym wedi gweld cynnydd dramatig yn nifer y bobl yng Nghymru sydd wedi cychwyn prentisiaeth yn y blynyddoedd diwethaf – ychydig dros 28,000 yn 2012/13, o’i gymharu ag 17,900 yn 2011/12,” meddai.
“Yn eu plith, bydd rhai prentisiaid gwir eithriadol ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle i ni ddathlu eu gwaith caled a’u llwyddiannau.

“Yr un mor bwysig, wrth gwrs, yw’r darparwyr hyfforddiant a’r cyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi eu prentisiaid. Dyma’n union pam y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cymaint yn ei Rhaglen Brentisiaethau ac mae’n amlwg bod y buddsoddiad hwn yn talu ar ei ganfed.

Byddwn yn annog cynifer o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ag y bo modd i gymryd rhan yn y gwobrau a dweud wrthym am eu llwyddiant.”

Yn ôl ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae cyfraddau llwyddiant prentisiaethau yng Nghymru yn dal ymhell dros 80%.

Yn ogystal, mae prentisiaid wedi elwa ar gynllun Twf Swyddi Cymru sy’n cael cymorth yr Undeb Ewropeaidd, gydag 82 y cant o’r bobl ifanc yn y sector preifat yn symud ymlaen i waith hirdymor, prentisiaeth neu ddysgu pellach ar ôl cwblhau eu cyfnod o chwe mis.

More News Articles

  —