Hyfforddeiaeth yn helpu Matty i adeiladu dyfodol newydd

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Matthew Lloyd Jones – Traineeship programme and hard work have turned his life around.

Mae Matthew Lloyd Jones wrthi’n adeiladu gyrfa lwyddiannus iddo’i hun – rhywbeth nad oedd yn ymddangos yn bosibl rai blynyddoedd yn ôl.

Roedd Matty, 18 oed, yn cael trafferthion yn yr ysgol a’r coleg ac fe gyfeiriodd Coleg Cambria ef at raglen Hyfforddeiaeth 16 wythnos yr Academi Adeiladu, sy’n cydweithio â Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru, Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu a chwmnïau adeiladu lleol a chenedlaethol.

Bu mewn gweithdai gosod brics a gwaith saer, cymerodd ran mewn dau brosiect cymunedol lle bu’n helpu i adnewyddu Clwb Pêl-droed Rhuthun a Chanolfan Gofal Dydd Oedolion Shotton, ac ymwelodd â safleoedd Wynne Construction a Redrow Construction.

Wrth iddo aeddfedu a datblygu sgiliau cymdeithasol, gwnaeth gwrs ychwanegol Diogelwch ar Safle, Lefel 1 ac enillodd Gerdyn Gwyrdd Labrwr y CSCS sy’n golygu y caiff fynd ar safle adeiladu ar gyfer lleoliad gwaith.

Daeth yn amlwg fod Matty, sy’n byw ym Mwcle, wedi dod o hyd i waith addas gan iddo ffynnu yn y lleoliad gwaith ac iddo gael cynnig prentisiaeth gyda chontractor adeiladu lleol.

Yn awr, mae Matty wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Dywedodd Amy Rowlands o Goleg Cambria: “Pan ymunodd Matty â’r rhaglen doedd ganddo ddim nod a dim diddordeb o gwbl mewn dysgu.

“Er mwyn symud ymlaen, sylweddolodd y byddai angen iddo weithio ar y rhwystrau oedd yn ei ddal yn ôl. Sylweddolodd ei bod yn bryd iddo newid a phrofi i bawb y gallai lwyddo.

“Mae pawb ohonom yn falch iawn o’r daith y mae Matty wedi’i chymryd. Mae wedi aeddfedu’n ddyn ifanc ysbrydoledig sy’n parchu pobl ac sy’n batrwm ar gyfer pobl ifanc heddiw.”

Meddai Matty: “Cyn i mi ymuno â’r cwrs, roeddwn yn berson gwahanol. Roedd yn gas gen i’r ysgol a’r coleg gan eu bod yn ddiflas i mi. Ers i mi ymuno â rhaglen yr Hyfforddeiaeth, rwy wedi gweithio’n galed gyda’r holl wasanaethau perthnasol gan brofi i mi fy hunan ac iddyn nhw y gallwn newid cyfeiriad.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Matty a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —