Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2023 a gaiff eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.

Inspire! Awards banner

Mae’r gwobrau yn rhoi sylw i effaith addysg oedolion a dysgu gydol oes ac yn gyfle i arddangos gwerth buddsoddi mewn cyfleoedd a all newid bywydau.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn croesawu enwebiadau ar gyfer pobl, prosiectau cymunedol a sefydliadau ar draws Cymru sy’n dangos angerdd, ymroddiad ac egni eithriadol i’w gwella eu hunain, eu cymuned neu eu gweithle drwy ddysgu.

Ydych chi’n adnabod dysgwr sy’n ysbrydoli? Gallech fod yn gyrru newid yn y gweithle ac yn datblygu cyfleoedd hyfforddiant ar gyfer cynnydd. A ydych chi’n cael effaith o fewn eich cymunedau lleol ac ehangu mynediad i ddysgu, sgiliau a gwirfoddoli? Ydych chi’n gweithio ar brosiectau amgylcheddol neu yn arloesi yn datblygu llwybrau dysgu ar gyfer sgiliau gwyrdd? Rhannwch eich straeon gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith ar gyfer gwobrau eleni.

Mae deg categori sy’n adlewyrchu ystod eang o ddysgu a sgiliau:

  • Sgiliau Gwaith
  • Oedolyn Ifanc
  • Newid Bywyd a Chynnydd
  • Heneiddio’n Dda
  • Dechrau Arni – Dysgu Cymraeg
  • Gorffennol Gwahanol – Rhannu Dyfodol
  • Sgiliau Hanfodol Bywyd
  • Cymru ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Gwobr Hywel Francis am Effaith Cymunedol
  • Gwneuthurwyr Newid Gweithle

Os ydych angen ychydig o ysbrydoliaeth gyda’ch enwebiad edrychwch ar straeon enillwyr gwobrau y llynedd, mae pob stori yn dangos buddion amlwg dysgu gydol oes.

Caiff y gwobrau eu dathlu fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.

Mae gwybodaeth a dolenni i’r canllawiau a’r ffurflen enwebu ar gael ar wefan y Sefydliad Dysgu a Gwaith.

Dyddiad cau derbyn enwebiadau yw dydd Gwener 31 Mawrth 2023.

Os hoffech siarad gyda rhywun am y gwobrau, anfonwch e-bost yn uniongyrchol at y Sefydliad Dysgu a Gwaith: iinspire@learningandwork.org.uk

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —