Beth mae bod yn Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr yn ei olygu i Itec

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae Ceri Murphy, Rheolwr Gyfarwyddwr Itec, yn esbonio’r daith o drosglwyddo busnes i berchnogaeth gweithwyr, y manteision i weithwyr ac i’r busnes a’r ffordd y mae pobl Itec yn cyfrannu at bresennol a dyfodol Itec ac yn buddsoddi ynddo.

Cyfarwyddwyr ITEC

Steve Davies, Cyfarwyddwr Cyllid; Gareth Matthews, Cyfarwyddwr; Esther Barnes, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol; Ceri Murphy, Rheolwr Gyfarwyddwr a James Pearson, Cyfarwyddwr.

Cymerodd Stephen Doyle, ein Cadeirydd, a minnau y busnes drosodd i ddechrau yn 2008 a bwrw iddi i wella ansawdd a pherfformiad gwasanaethau Itec. Bellach, mae gennym 17 o ganolfannau ledled Cymru a Lloegr ac rydym wedi cynyddu’n aruthrol o 30 aelod o staff i 170 o weithwyr uniongyrchol, pob un ohonynt yn elwa o’r model Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr (EOT).

Pam ddewisoch chi’r model Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr?
Rydyn ni’n falch iawn o’r ffaith mai Itec oedd y darparwr hyfforddiant annibynnol cyntaf yng Nghymru i fod ym mherchnogaeth y gweithwyr. Yn 2019 oedd hynny ac erbyn hyn mae’r busnes cyfan yn eiddo i’n gweithwyr-berchnogion. I Steve a minnau, roedd y newid i’r model EOT yn un organig iawn. Roedden ni bob amser yn edrych ar Itec fel tîm. Busnes sy’n canolbwyntio ar bobl ydyn ni yn y pen draw a heb ein pobl fydden ni ddim yr un peth. Roedden ni’n gwybod beth oedd y risgiau a’r heriau o fod ym mherchnogaeth y gweithwyr, ond dyna oedd y peth iawn i Itec.

Un peth a wnaeth ein cymell i sefydlu Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan y Gweithwyr (EOT) oedd y ffaith bod Steve a minnau yn awyddus i annog diwylliant o undod.

Pwy bynnag ydych chi, ar ba lefel bynnag rydych chi yn y busnes mae gennych chi yr un faint o hawl â phawb arall. Mae’n ffordd o gadw ein staff a’u gwobrwyo am eu gwaith caled, ac maen nhw’n cael rhannu llwyddiant y cwmni cyfan.

Sut mae’r model EOT wedi effeithio ar Itec?
Rwy’n credu bod gweithredu model EOT wedi golygu newid sefydliadol a diwylliannol i ni a bod y daith yn parhau. Rydyn ni bob amser yn dysgu ein gweithwyr beth y mae’n ei olygu i fod â chyfran bersonol yn y sefydliad a sut mae eu gwaith yn cyfrannu at y busnes ehangach, er lles iddo. Mae’r model wedi bod yn gyfrwng i greu haen ychwanegol o gyfathrebu o’r gwaelod i fyny.

Mae modelau perchnogaeth gweithwyr wedi tyfu cryn dipyn ym myd busnes dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a bu twf sylweddol ers i ni roi’r model hwn ar waith. Mae llawer o ymchwil yn awgrymu bod gan fusnesau sydd ym mherchnogaeth y gweithwyr berfformiad gwell, profiadau gwell, a’u bod yn gadarnach ac yn ymateb yn fwy gwydn i’r farchnad. Yn achos Itec, dywed ein gweithwyr ei fod yn rhoi mwy o nod i’w gwaith am fod cysylltiad rhwng llwyddiant y busnes a chyflawniad a thwf personol.

Mae rhoi sefydliad yn nwylo gweithwyr sy’n rhannu’r un gwerthoedd, yr un diwylliant, a’r un ethos â’i sylfaenwyr, wir yn llywio annibyniaeth y sefydliad hwnnw, ac yn cyfrannu at gadernid hirdymor y cwmni.

Beth nesaf i Itec?
Yn y dyfodol, gobaith Itec yw cynnal a datblygu ein diwylliant sy’n canolbwyntio ar bobl arno a bod yn lle y mae pobl yn awyddus i ddod i weithio iddo trwy greu cyfleoedd gwych i’r bobl sy’n cyfrannu fwyaf at y busnes. Yn y pen draw, ein prif nod yw parhau i gyflawni ein contractau, yn cynnwys rhaglen newydd Twf Swyddi Cymru+, gan eu bod yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl yn y cymunedau lle’r ydym yn gweithio.

Eleni, rydym yn dathlu ein 40fed blwyddyn yn y gwaith. Gobeithio y caf wahoddiad yn ôl i’r 60 mlwyddiant ac y bydd Itec yn dal i dyfu a ffynnu, creu swyddi, adeiladu gyrfaoedd, a buddsoddi mewn pobl.

ITEC Skills and Employment

More News Articles

  —