Jamie’n codi eto gydag Airbus ar ôl ei wneud yn ddi-waith

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Jamie Stenhoff – seren ifanc gydag Airbus.

Mae Jamie Stenhoff sy’n beiriannydd dylunio wedi codi eto i serennu gyda’r cwmni awyrofod Airbus ar ôl cael ei wneud yn ddi-waith.

Collodd Jamie, sy’n 24, ei waith pan gaewyd safle Marshall Aviation Services ym Mrychdyn gerllaw.

Erbyn hyn, mae’n gobeithio ennill Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn am yr ail dro yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Enillodd y wobr am y tro cyntaf yn 2016 ac, yn ogystal, enillodd Wobr Prentis Uwch y Flwyddyn, Cymru, gyda’r EEF a gwobr y Rising Star yng ngwobrau’r Deyrnas Unedig.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Cefnogwyd Jamie gan Airbus i gwblhau prentisiaeth yr oedd eisoes wedi’i dechrau gyda’i gyflogwr blaenorol ac erbyn hyn mae ganddo res o gymwysterau, yn cynnwys Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf (BEng) mewn Peirianneg Awyrenegol a Gweithgynhyrchu.

Enillodd ei gymwysterau i gyd trwy Goleg Cambria ac maent yn amrywio o Brentisiaeth Sylfaen mewn Gwella Perfformiad Gweithredol i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu a Fframwaith Gweithgynhyrchu Datblygedig Lefel 6.

Erbyn hyn, mae’n rhan o dîm dylunio awyrennau A330 ac mae’n gweithio gyda phrentisiaid sy’n datblygu, gan rwydweithio ledled Airbus a gyda chyflenwyr. Mae’n trosglwyddo’i wybodaeth gan hybu dyfeisgarwch trwy newidiadau dylunio a gwella prosesau.

Llwyddodd i arbed 50,000 Ewro y flwyddyn i Airbus gydag un o’i gynlluniau’n ymwneud ag ansawdd y cynnyrch. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiect dylunio a fydd yn arbed dros 50 awr wrth adeiladu pob awyren.

“Mae prentisiaeth Airbus wedi rhoi cipolwg hanfodol i mi ar y sector peirianneg, sut y mae’r farchnad yn gweithio a sut y mae penderfyniadau pob gweithiwr yn cael effaith ar y cwmni,” meddai Jamie.

“Does dim modd meithrin y sgiliau a’r wybodaeth hon heb gael profiad o waith bob-dydd mewn cwmni. Rwy bob amser wedi rhoi amser i hybu Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) a phrentisiaethau ac i annog eraill i ddilyn eu breuddwyd.”

Dywedodd Peter Ford, Rheolwr Gyrfaoedd Cynnar Airbus: “Mae Jamie wedi rhagori ar ein disgwyliadau trwy ennill ei blwyf fel un o sêr ifanc mwyaf dawnus a medrus y busnes.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Jamie a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —