Mae prentisiaethau yn fuddsoddiad ardderchog i’r llywodraeth

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae prentisiaethau yn fuddsoddiad ardderchog i’r llywodraeth
Gan Arwyn Watkins, prif weithredwr Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW)

Arwyn Watkins - Prif Weithredwr NTfW

Mae’r ffigurau diweddaraf am ddysgu seiliedig ar waith yng Nghymru yn hwb i bawb sy’n ymwneud â rhaglenni prentisiaethau. Mae’r ffigurau’n dangos bod llawer rhagor o bobl nag y bu yn cychwyn prentisiaethau, a hynny’n agor y drws ar yrfaoedd posibl iddynt.

Yn 2012/13, cychwynnwyd ychydig dros 28,000 o brentisiaethau. 17,900 oedd y nifer yn 2011/12. Gwelwyd cynnydd dramatig o 14.5% yng nghyfanswm y bobl mewn dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru, i dros 61,000 o ddysgwyr unigryw yn 2012/13. I roi’r ffigwr hwnnw yn ei gyd-destun, mae’n uwch nag mewn unrhyw un o’r pum mlynedd blaenorol, a chryn dipyn yn uwch na’r ffigwr o 53,480 yn 2011/12.

Bu cynnydd mawr ym mhoblogrwydd Prentisiaethau Uwch hefyd. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 2,275 o Brentisiaethau Uwch wedi’u creu, o’u cymharu â dim ond 280 yn 2011/12.

Mae’r NTfW wrth eu bodd â’r ffigurau calonogol hyn, gan fod ein haelodau’n gyfrifol am ddarparu rhaglenni dysgu seiliedig ar waith ar ran Llywodraeth Cymru. Mae ein gwleidyddion yng Nghaerdydd yn cael eu beirniadu’n aml ond mae angen eu canmol am gefnogi prentisiaethau er mwyn gwella lefelau sgiliau yng Nghymru.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y gefnogaeth hon yn talu’r ffordd ac, fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates, mae’n fuddsoddiad ardderchog i’r Llywodraeth.

Mae’r Dirprwy Weinidog yn frwd o blaid rhaglenni dysgu seiliedig ar waith sydd o safon uchel ac mae’n cytuno â’r NTfW ei bod yn hen bryd i brentisiaethau gael yr un parch â chymwysterau academaidd. Mae’n mynd i gymryd amser i oresgyn y rhwystr hwnnw ym meddyliau rhai athrawon a rhieni, ond mae agweddau’n dechrau newid.

Roeddwn i’n falch iawn o ddarllen bod y Dirprwy Weinidog o’r farn bod prentisiaethau’n chwarae rhan allweddol yn gostwng diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru a rhoi rheswm iddynt fod yn obeithiol am eu dyfodol.

Mae angen i hyfforddiant sgiliau fod o’r safon uchaf ac mae ein rhwydwaith ni o ddarparwyr yng Nghymru’n sicrhau llwyddiant ardderchog o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, ond mae’n rhaid i ni beidio â gorffwys ar ein rhwyfau.

Yn y 12 mis diwethaf, rydym wedi gwneud ymrwymiad i ragor o brentisiaid nag y gwnaethom yn y 48 mis cynt. Rydym wedi agor nifer dda o fframweithiau prentisiaethau newydd, yn cynnwys Prentisiaethau Uwch ac wedi bod yn trafod gyda chyflogwyr nad oedd erioed o’r blaen wedi ystyried defnyddio prentisiaethau i ddatblygu sgiliau yn eu busnesau.

Rydym yn benderfynol o hyrwyddo, herio a dathlu dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru, er mwyn cyrraedd y safon orau bosibl, gan helpu pawb i gyrraedd eu llawn botensial.

Mewn marchnad swyddi lle mae’r hyn a enillwch yn dibynnu ar yr hyn a ddysgwch, rydym yn dal i roi blaenoriaeth i brentisiaethau, safonau uwch a gwell cymwysterau. Mae’n rhaid i raglenni prentisiaethau fod yn rhai trwyadl sy’n ymateb i anghenion cyflogwyr.

Mae llawer o fusnesau’n newid eu ffordd o weithio, gan geisio codi safonau, a rhoi bri ar gymwysterau uchel eu parch sy’n cael eu hasesu’n dda, ac sy’n cadw cofnod cywir o sgiliau a chymwyseddau dysgwyr ar raglenni prentisiaethau. Er budd ein prentisiaid, cyflogwyr a’r economi, mae hyn yn gofyn am wir ymrwymiad ac atebolrwydd a hynny’n rhan o fframwaith cymwysterau cludadwy.

Yn ôl adroddiad gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn ddiweddar, er gwell neu er gwaeth, er ein bod yn dal i gystadlu â phwerau traddodiadol yn Ewrop a Gogledd America, mae pwerau eraill yn codi yn Asia, De America a’r Dwyrain Canol.

Dangosodd yr adroddiad bod gan bobl ifanc Prydain heddiw lai o sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol na phobl hŷn. All hyn ddim parhau. Wrth i ni geisio gwella ein system sgiliau, mae’n rhaid i ni wella sgiliau sylfaenol pobl yn ôl yr angen.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen ymgynghori bwysig yn nodi’r cynigion ar gyfer buddsoddi ar y cyd mewn darparu sgiliau ôl-19. Gwahoddir ymatebion erbyn Mai 16 ac mae’r NTfW yn awyddus i’r Llywodraeth glywed barn cyflogwyr o wahanol feintiau ac o ystod eang o sectorau yng Nghymru.

Er mwyn creu system sgiliau gyda’r gorau yn y byd, fel y buom yn ei drafod ers cyhyd, mae angen adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gennym ac ymroi i flaenoriaethau a fydd yn helpu unigolion i symud ymlaen, ac yn creu gweithlu medrus a thwf cynaliadwy.

Mae angen i bawb ohonom berchnogi ein system sgiliau a’i hyrwyddo â balchder.

More News Articles

  —