Y Rhaglen Lywodraethu’n Adeiladu ar Ddarparu Prentisiaethau o Safon Uchel

Postiwyd ar gan karen.smith

Sarah John, Chair NTfW

Sarah John, Cadeirydd NTfW

Heddiw, mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) wedi croesawu cynnwys y Rhaglen Lywodraethu sy’n addunedu i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o safon uchel i bobl o bob oed dros y pum mlynedd nesaf.

Mae’r adduned, sydd â chefnogaeth drawsbleidiol yn y Cynulliad, yn cydnabod gwerth prentisiaethau i economi Cymru, i gyflogwyr ac i ddysgwyr, ac mae’n adlewyrchu’r ffaith mai rhaglen brentisiaethau Cymru, sydd wedi datblygu dros flynyddoedd lawer, yw’r rhaglen â’r canlyniadau gorau yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Sarah John, Cadeirydd yr NTfW:
“Mae gwaith ymchwil yn dangos bod ein rhaglen brentisiaethau ni yng Nghymru yn llwyddiannus iawn. Mae iddi gyfradd lwyddo o 84% o’i gymharu â chyfradd gyffredinol o 68.9% yn Lloegr. Yn ogystal, mae’r buddsoddiad cyfredol mewn prentisiaethau’n esgor ar dros £1 biliwn y flwyddyn ar gyfer economi Cymru. Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn prentisiaethau’n rhoi gwerth ardderchog am arian a gallai pob punt o arian cyhoeddus a fuddsoddir mewn Prentisiaeth Sylfaen neu Brentisiaeth esgor ar gymaint â £26 a £28 yn y drefn honno.

Mae Llywodraeth Cymru’n wynebu anawsterau cyllidebol mawr ac mae’r flaenoriaeth a roddir i ddarparu prentisiaethau yn adlewyrchu llwyddiant y rhaglen. Byddem yn falch iawn o’r cyfle i gydweithio â Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y prentisiaethau uwch a ddarperir. Yn 2014/15, roedd dros hanner prentisiaethau Cymru (57%) ar lefel 3 neu uwch (yn cyfateb i Lefel A) ac rydym wedi llwyddo i gynyddu canran y Prentisiaethau Uwch a ddarperir i 22% o gyfanswm y Prentisiaethau mewn llai na dwy flynedd. Mae hyn wedi cynnwys cydweithio rhwng darparwyr dysgu seiliedig ar waith, Addysg Bellach ac Addysg Uwch, ynghyd ag arbenigedd y sector preifat, er mwyn ateb y cynnydd yn y galw gan gyflogwyr am ddysgu lefel uwch.

Rydym yn wynebu llawer o heriau wrth geisio sicrhau bod y ddarpariaeth yn dal i lwyddo, yn cynnwys canlyniadau trafodaethau Brexit, a bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno’r ardoll brentisiaethau. Serch hynny, edrychwn ymlaen at gydweithio mewn ffordd adeiladol â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddadlau dros y fargen orau bosibl ar gyfer rhaglenni sgiliau a chyflogadwyedd yn ystod trafodaethau Brexit ac at barhau i sicrhau bod dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru yn cyrraedd safonau ardderchog. Mae ein holl aelodau yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn helpu Llywodraeth Cymru i ddarparu’r system brentisiaethau orau yn y Deyrnas Unedig.”

More News Articles

  —