Prentisiaid yn helpu busnes clustogwaith llwyddiannus i dyfu
Mae cyn-arolygydd iechyd planhigion Llywodraeth y DU bellach yn meithrin prentisiaid ei ar ôl troi ei hobi o achub hen ddodrefn yn fusnes arobryn sy’n creu “clustogwaith unigryw a rhyfeddol”.
Lansiwyd Needle Rock gan Dr Ali J. Wright yn Llanrhystud, ger Aberystwyth yn 2013, ac mae gan y cwmni bortffolio amrywiol o glustogwaith traddodiadol a modern ar gyfer cartrefi, tafarndai, clybiau, bwytai, carafanau, cychod cul a chartrefi modur.
Mae Needle Rock wedi’i achredu gan yr AMUSF (Association of Master Upholsterers and Soft Furnishers), ac enillodd wobr Microfusnes y Flwyddyn y Ffederasiwn Busnesau Bach yn 2023.
Mae’r cwmni bellach wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 ar gyfer Cyflogwr Bach y Flwyddyn.
Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr yw EAL.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.
Bellach mae gan y cwmni bedwar gweithiwr a gafodd eu recriwtio gyda chefnogaeth gan hen raglen Kickstart Llywodraeth Cymru a’r rhaglenni Twf Swyddi Cymru a Mwy cyfredol.
Uchelgais Ali yw sefydlu Academi Hyfforddi Needle Rock i lenwi’r bwlch ar gyfer prentisiaethau clustogwaith yng Nghymru. Mae hi mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru i drafod y posibilrwydd o greu fframwaith Prentisiaeth Lefel 3 mewn Sgiliau Clustogwaith Uwch.
Mae dau brentis cyntaf Needle Rock, Roselin Morgan a Jason Vale wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Perfformio Gweithrediadau Gweithgynhyrchu ac maent bellach wedi cofrestru ar Brentisiaeth Lefel 2 arall mewn Technegau Gwella Busnes.
Fis Tachwedd diwethaf, enillodd Jason wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Academi Sgiliau Cymru 2023. Ar hyn o bryd mae Jason a Roselin yn mentora’r ddau aelod diweddaraf sy’n dilyn yr un llwybr dysgu, gyda Myrick Training a Needle Rock.
“Mae buddsoddi mewn gweithwyr ifanc yn llawer o waith ond mae’r manteision yn sylweddol,” meddai Ali, sydd wedi ymuno â’r tîm ar gyfres deledu BBC One ‘Money for Nothing’. “Mae’r effaith y mae prentisiaid yn ei chael ar fusnes Needle Rock wedi bod yn anhygoel. Mae trosiant wedi treblu ac mae ein gweithdy bellach yn agored am 50 wythnos y flwyddyn.”
Dywedodd Nick Jones, rheolwr peirianneg a chyrsiau Myrick Training: “Mae’r berthynas ragorol sydd gennym gyda Needle Rock yn ein galluogi ni i roi cyngor, ymchwilio a thrafod cydweithio posibl gyda’r cwmni iddo ffynnu, ehangu ac annog mwy o brentisiaid yn y dyfodol agos.”
Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Needle Rock a’r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.
“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o’n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phobl hwyl iddynt gyda’u hymdrechion yn y dyfodol.”
Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”
I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000.
More News Articles
« Specsavers Porthcawl yn gweld manteision prentisiaethau yn glir — Mae’r Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn Dathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru 2024 »