Specsavers Porthcawl yn gweld manteision prentisiaethau yn glir
Mae prentisiaethau wedi helpu Specsavers Porthcawl i recriwtio, datblygu a chadw staff o ansawdd sy’n ased allweddol i’r busnes .
Mae gan y siop, sydd â thri phrentis ac sydd wedi cyflogi wyth ers iddi agor ym Mhorthcawl yn 2015, achrediad ‘Cyflogwr Platinwm’ Specsavers ar gyfer rheoli pobl.
Mae’r rhan fwyaf o brentisiaid sydd wedi’u cyflogi gan Specsavers Porthcawl naill ai wedi aros yno i ddatblygu eu gyrfaoedd yn y siop neu maent yn gweithio mewn ysbytai lleol erbyn hyn.
Bellach, mae’r cwmni ar restr fer rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yng nghategori Cyflogwr Bach y Flwyddyn.
Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Y prif noddwr yw EAL.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.
Mae Inspiro Learning, mewn partneriaeth â Chwmni Hyfforddiant Cambrian, yn darparu Prentisiaethau mewn Sgiliau Manwerthu ac yn cydweithio â Specsavers Porthcawl i recriwtio yn y gymuned leol.
Mae canolbwyntio ar ddatblygu staff yn caniatáu i’r siop ddarparu gwell gwasanaethau optometreg clinigol ac awdioleg sy’n caniatáu i gleifion dderbyn gofal yn nes at adref.
Mae prentisiaid wedi helpu i symleiddio gwasanaeth awdioleg y siop, gwella effeithlonrwydd yn y tîm lens gyffwrdd ac wedi ymgymryd â rôl hyfforddi fel hyfforddwyr y siop.
Mae’r pwyslais ar ddatblygiad personol yr un mor berthnasol i gyfarwyddwyr y siop, sydd wedi cwblhau cymwysterau uwch, ag ydyw i’r optometryddion a’r staff manwerthu.
“Mae’r rhaglen brentisiaethau wedi bod o help mawr i’r busnes, gan fod gennym dîm brwdfrydig o gyflogeion sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid cryf ac awydd i ddatblygu eu hunain. Mae hynny’n helpu ein cynlluniau i dyfu yn y dyfodol,” meddai Claire Edwards, cyfarwyddwr offthalmig y siop.
“Dros yr wyth mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld manteision prentisiaethau fel busnes a hefyd o ran datblygiad y bobl ifanc sy’n gweithio i ni. Mae’r diwylliant o ddysgu a datblygu wedi’i wreiddio’n ddwfn, ac rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd newydd i’w cynnig i’n tîm.”
Pwysleisiodd Claire pa mor bwysig yw prentisiaethau i ddarparu cyfleoedd i bobl, nad ydynt o reidrwydd wedi gwneud yn dda yn yr ysgol, feithrin sgiliau ac ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn ffurfiol.
Dywedodd Diane Block, rheolwr rhanbarthol Inspiro Learning: “Mae Specsavers Porthcawl wedi bod yn gefnogwr brwd o’r rhaglen brentisiaethau ers sawl blwyddyn. Mae’r holl gyfarwyddwyr a rheolwyr yn cefnogi prentisiaid i gyflawni hyd eithaf eu gallu a’u hannog i ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol i wella eu sgiliau.”
Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Specsavers Porthcawl a’r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.
“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o’n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phobl hwyl iddynt gyda’u hymdrechion yn y dyfodol.”
Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”
I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000.
More News Articles
« Busnes meithrin llwyddiannus o Fargam yn elwa ar fanteision prentisiaethau — Prentisiaid yn helpu busnes clustogwaith llwyddiannus i dyfu »